Amdanom Ni
Cymdeithas gyfeillgar, gartrefol a Chymreig yw hon, sy’n ymddiddori mewn hanesion a straeon lleol o bob math. Mae croeso i bawb ymuno ar unrhyw adeg, i wrando neu gyfrannu at y sgwrsio.
Sefydlu’r Clwb
Tua degawd yn ôl, penderfynodd Lynda a Dilwyn Pritchard, drafod gyda chriw bychan o drigolion lleol, y syniad o sefydlu cymdeithas a fyddai’n trafod hen hanesion ein hardal. Y bwriad oedd casglu lluniau a chael cyfle i rannu atgofion gyda’r gobaith o gofnodi hanesion, straeon a digwyddiadau arwyddocaol. Penderfynwyd cynnal cyfarfod anffurfiol yn festri Capel Carmel yn fuan wedyn, gan ofyn i drigolion yr ardal ddangos hen ffotograffau, e.e. o hen deuluoedd, cymeriadau lleol, timau pêl-droed, dosbarthiadau mewn ysgolion, adeiladau, cymdeithasau a.y.y.b. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol! Yna aethpwyd ymlaen i ethol pwyllgor a chreu rhaglen strwythuredig am y flwyddyn.
…Mae’r gweddill yn hanes!
Y Degawd Cyntaf
Digon anffurfiol oedd cyfnod cyntaf y Clwb Hanes, - pawb yn trafod ymysg ei gilydd, hel atgofion a chymdeithasu. Ond i gloi’r cyfnod yma o gyfarfodydd [Tymor 2013-14], penderfynwyd cynnal arddangosfa luniau yn festri Capel Carmel ym mis Mehefin. Yn bendant, dyma uchafbwynt y flwyddyn! Derbyniwyd cannoedd o ffotograffau diddorol, a gosodwyd y cyfan yn arddangosfa hynod chwaethus gan Lynda a Dilwyn Pritchard. Daeth oddeutu 250 o bobol i’r arddangosfa i gymdeithasu am oriau a thrafod yr hen luniau dros baned o de! Penderfynwyd bod angen arddangosfa arall y flwyddyn ganlynol, oherwydd ei llwyddiant ysgubol, yn ogystal â phwyllgor, a rhaglen o weithgareddau trefnus.
Mwy na chlwb hanes…
Er bod rhywfaint o drefn yn nodwedd eithaf cadarnhaol, mae’n bwysig cofio mai cymdeithas gartrefol iawn sydd yma yn y Clwb Hanes, a chynhelir y cyfarfodydd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw gwneud elw ariannol yn bwysig, mae’r pwyslais ar y mwynhád a’r budd i’r ardal a’r gymdeithas. Gwneir ymdrech i gefnogi sefydliadau ac elusennau lleol. Trefnwyd nosweithiau cymdeithasol bywiog yn y Clwb Criced yn seiliedig ar hanes lleol e.e. noson William Morgan, a Noson William Elis Williams.
Gwahoddwyd artistiaid fel Neville Hughes, Hogia’r Bonc a Celt i gymryd rhan yn y nosweithiau gwych yma!
Daeth Eifion ‘Jonsi’ Jones draw i Noson William Elis Williams i dderbyn rhodd (elw’r noson) tuag at wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
Rydym, hefyd, yn annog cysylltiad â’r ysgolion lleol. Daeth disgyblion o Ysgol Llanllechid i’n diddanu â chyflwyniad dramatig o hanesion yr ardal, a daeth ambell unawdydd o Ysgol Dyffryn Ogwen i’n swyno yn ystod cyfarfodydd mis Rhagfyr. Yn ogystal â hyn, aeth rhai o aelodau’r Clwb draw i Ysgol Llanllechid i sôn wrth y plant am ‘Neuadd John P’ yn Rhes Gefn, a chafodd y disgyblion fodd i fyw wrth gael gwersi dawnsio ‘hen ffasiwn’ ganddynt!
Cip ar y cyfarfodydd…
Carreg filltir…
Cyhoeddwyd y llyfr ‘Hen Luniau Rachub, Caellwyngrydd a Llanllechid’ gan y Clwb Hanes yn 2019, ac fe’i argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.
Ffrwyth yr arddangosfeydd a welir yn y llyfryn hwn, felly diolch i bawb am gyfrannu'r lluniau!
£5 yn unig yw ei bris. Gwerthwyd cannoedd, ac mae’n dal i werthu!
Wedi’r Cyfnod Clo…
Rydym, bellach wedi ail-gychwyn cynnal cyfarfodydd ar ôl y cyfnod clo, ac wedi newid y lleoliad. Erbyn hyn rydym wedi ymgartrefu yn y Clwb Criced. Diolchwn o waelod calon i swyddogion Capel Carmel am gael defnyddio’r festri am yr holl amser, ac yn arbennig i Mrs. Helen Williams am baratoi’r ystafell ar ein cyfer pob mis.
Rhaglen 2022-23
Medi 28 – ‘Adeiladu’r A5 – Y Lôn Bost’
Mr. Gari Wyn Jones
Hydref 26 – ‘Holi’r Hanesydd’
Mr. Wynne Roberts
Tachwedd 30 – ‘Gwaith Anna Pritchard’
Mrs. Anna Griffith
Rhagfyr 8fed – ‘Defnyddio’r Diffibriliwr’
Mr. Arwyn Jones
Chwefror 22 - ‘Stad Coetmor 1485-1855’
Mr. Dafydd Fôn Williams
Mawrth 29 – ‘Sgotwrs Lleol’
Mr. Bryn Evans
Ebrill 26 – ‘Iaith Pesda’
Mrs. Mary Jones
Mai 31 – ‘Edward Stephens, - Tanymarian’
Mr Trystan Lewis