Atgofion

Atgofion amrywiol gan drigolion yr ardal. Beth am gyfrannu?

Cwmni Drama Peniel, Llanllechid

Sefydlwyd Cwmni Drama Peniel tua 1918. Tynnwyd y llun uchod ym 1919, a rhwng hynny a thua 1924, bu’r cwmni yn crwydro Arfon a Sir Fôn. Dechrau’r daith bob amser fyddai’r Farchnad (Neuadd Ogwen) ym Methesda. Ym 1918-1919, bu taith gweddol fer.

Yn Haf 1919 aed ati i ddysgu’r ddrama ‘Cerydd ynteu Cariad’. Y dramodydd oedd H. R. Hughes gyda Rolant Hughes yn gofalu am yr ochor gerddorol i’r ddrama. Roedd rhywbeth yn arbrofol yn y cynhyrchiad. Dim saib. Symud yn esmwyth o olygfa mewn cegin i olygfa mewn coedwig. Roedd golygfeydd o eiddo hen gwmni enwog Caradog wedi cael eu rhoi ar fenthyg i Gwmni Peniel. Lluniwyd y golygfeydd tua throad y ganrif, a’r rheiny yn symud ar olwynion, ac yn gweithio â phwli.

Mor ewyllysgar oedd y criw nes cytuno i fynd i Sir Fôn ar ddydd Nadolig. Tystia W.J. Evans fod y ffordd mor arw a’r bws yn ysgytian cymaint, nes bu’n rhaid aros er mwyn cael gwared annisgwyl ar y cinio a’r pwdin 'dolig!.Buont yng Nghaergybi a Llangefni yn ystod gaeaf 1919-1920. W.J Evans oedd y dyn drwg. Mewn un neuadd fechan, a’r gynulleidfa at ymyl y llwyfan, wrth iddo flagardio y ferch ifanc, cafodd ei daro yn galed ar ei war. Hen wreigan wedi ymgolli yn y stori a’i daro â’i hambarel!

Drama arall o waith H. R. Hughes a Rolant Hughes oedd ‘A Ddichon Dim Da?’, a bellach, gwahoddiadau lu yn cyrraedd, a’r rhan fwyaf yn rhybuddio nad oedd fawr o gelc yn yr hosan! Dim ond y costau a delid i’r cwmni, ond roedd pob ysgol a neuadd yn orlawn, - y gydnabyddieth orau! Lampau Carbeid oedd yn goleuo gan amlaf, a’r goleuadau o erchwyn llwyfan oedd tuniau yn dal canhwyllau! Roedd rhaid talu am fws 14 sedd Grey Motors, ac fe gostiai toll Pont Menai 3/6 (tua 18 ceiniog). Byddai’r rhai nad oeddent yn gweithio yn teithio yn y pnawn, a’r gweithwyr yn mynd yn y nos yn y fan becar! Ffordyn oedd y fan, a byddai’r goleuadau’n pylu pan fyddai’r fan yn arafu!

Rhes flaen (o'r chwith): Mrs. Elisabeth Pritchard, Hugh R. Hughes (Corbri), Mrs. Parry Owen, Huw Roberts (Lôn Groes), William John Evans.

Rhes ôl (o’r chwith): Griffith John Roberts, (Britannia), Rowland Hughes (Braich), Mrs. Blodwen Jones, Richard Thomas (Lôn Groes), Mrs. Elisabeth Mary Williams (chwaer W.J Evans), Thomas D.Williams (a foddwyd wrth nofio yn Llanfairfechan ar Ŵyl y Banc yn y 50au).

Bu’r cwmni yn gymorth i lu o achosion da. Un o’r achosion yn yr ardal hon oedd y Pwyllgor Cwynion a oedd yn helpu teuluoedd mewn trafferthion. Mae W.J. Evans yn cofio’r dyrfa ddisgwylgar yn llenwi’r Stryd Fawr hyd at dop Lôn Pab.

W.J Evans oedd yr olaf o’r cwmni drama arbennig hwn, ac rydym or ffodus ei fod wedi cael cyfle i rannu rhywfaint o’i atgofion.

‘Parti Cyngerdd’ Miss Blodwen Parry

Atgofion gan Mrs. Glenys Evans, Llanllechid, a fu’n aelod o ‘Barti Cyngerdd’ Miss Blodwen Parry yn fuan wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Erthygl oedd hon, a welwyd yn LLais Ogwan, Mehefin 1995.

Wrth weld dathlu mawr Diwrnod ‘V.E’, daeth i minnau atgofion am ddyddiau difyr, a phrysur, a fu yn ein hanes ni, y rhai lwcus ymhlith plant y fro a gafodd y fraint o fod yn rhan o ‘Barti Cyngerdd’ Miss Blodwen Parry. Mrs. Gwynsul Williams oedd yn cyfeilio, sef mam Phyllis a Veronica, Anti Blod ac Anti Lisi i ni’r plant. Buont yn ein dysgu ni i ganu a dawnsio, ac i ganu gwahanol offerynnau yn y Band.

Roedd dwylo medrus gan Anti Blod a’i mam, Mrs. Margaret Parry. Roeddent yn gallu troi hen ddilledyn, y byddai pobol ffeind Rachub yn ei roi o’u prinder mawr, yn wisgoedd hardd. Rhaid peidio ag anghofio’r rhai a fenthycwyd hefyd gan yr hynod ac annwyl John P.

Byddai gofyn cael dau dacsi i’n cario ni i gyd i drefi a phentrefi o Gaernarfon i Gaergybi. Now Parri Carneddi a Jack Williams Parc Moch oedd piau’r rheiny. Daethom i gyd yn hen lawiau ar gertio’r holl wisgoedd ac offerynnau, ac Anti Blod fel Quarter Master Sarjant yn gwybod ble’n union yr oedd pob dim i fynd. Byddai’r ceir yn gwegian o dan yr holl gelfi a phlant. Popeth yn ffitio i’w lle fel darnau mewn jig-so. Byddai’r parti yn fodlon mynd i unrhyw le  er mwyn codi arian at achos da, yn ddi- dâl heblaw am gost ein cludo.

Mae’n chwith meddwl am y rhai sydd wedi mynd. O’r rhai sydd ar ôl, mae Veronica yn byw yn LLanfairfechan, Hannah yn Cheltenham a Myfi yn Awstralia bell. Mae’n braf ar Olive, Betty, Margaret, Jean a minnau yn cael bod yma yn yr ardal o hyd. Mae’n siŵr bod darllenwyr ymhell ac agos yn cofio ‘Parti Cyngerdd Blodwen Parry’. Mae’r lluniau yn dyst o ddawn ac ymroddiad y rhai a’n dysgodd - o’r gwisgoedd hardd i’r hwyl a fu!

Yn y llun hwn gwelir Olive, Veronica a Phyllis yn y cefn, gydag Anti Blod ac Anti Lisi pob ochor. Yn y rhes flaen mae Margaret Rose, Myfi, Glenys, Y Cynghorydd William Ellis Williams, Hannah, Dolly a Margaret. 

Yr un criw gyda Jean a Muriel.

Y criw eto gyda'r cynghorydd Elsie Chamberlain a Gwilym Wyn, Mynydd Llandygai (unawdydd gwadd).

Trip i Lan Môr Aberogwen yn y 1920au.

Erthygl yn Llais Ogwan, Mai 1987 gan awdur anhysbys, yn disgrifio sut fyddai teuluoedd Rachub a Llanllechid yn mynd ar eu picnic blynyddol i lan y môr Aberogwen yn y 1920au.

Cychwyn ar fore teg yn ystod gwylia’r haf, llawer teulu yn ymuno ar y daith flynyddol hon, un o amseroedd mwyaf pleserus y flwyddyn, heb os. Pob mam â phac mawr o fwyd i bara am y diwrnod. Pawb wedi ymgynnull. Dyma gychwyn am Pencae Berth, i lawr lôn Panthwfa, trwy Llan ac am Pen Bryn Owen. Gweled y môr o’r fan honno yn peri cyffro mawr. I lawr heibio Mignant, Wernbach, Tyddyn Isa’, Penybryn ac at Plas Maes y Groes, a sŵn y plant yn dweud wrth bawb ein bod ar y ffordd. Troi am dai Ponc Lôn –  erbyn hyn nid oes bosib myned y ffordd hon – ymlaen â ni at Eglwys bach hyfryd Maesgroes ac i lawr at y lôn bost, croesi, ac i lawr y lôn am bont y rheilffordd, a chyffro mawr os y byddai tren yn digwydd dod. I lawr â ni at Bwthyn Tŷ’n Cae ac mi fydda yn fy swyno i’n arw gan fod wal yr ardd wedi ei haddurno â chregyn cocos, ac i lygaid plentyn yn hardd iawn. Ymlaen at Tŷ Main. Wal fawr y Penrhyn ar un ochr, a cofio gweled nyth Titw Tomos unwaith, ac yn llawn o gywion bach, wel am waith magu. Ymlaen at Fferm Aberogwen, rhaid oedd i rai o’r plant hyna’ alw yno am ddŵr glân a llefrith.

Llawenydd mawr wedi cyrraedd glan y môr, pob teulu yn eu safle eu hunain a dechrau ar unwaith gwneud lle tân, y plant hŷn yn hel coed tân, ac wrth gwrs, y rhai bach yn syth i chwarae yn y tywod, neu, os oedd y môr i mewn, chwarae o gwmpas. Amser prysur i’r mama’, berwi’r tegell ar gyfer te, taenu llian mawr ar lawr, a chlamp o garreg ar bob cornel i’w gadw i lawr; torri llond plât o fara ymenyn, ac yn berffaith siŵr na fyddai dim briwshonyn yn sbâr. Agor tun mawr o Samon, wel, dyna be oedd scram amser cinio, cans dim ond pan ddôi pobol ddiarth y bydda Samon ar y “menu”, ac efallai na welai rhai o’r teulu ddim tamaid ohono, yn enwedig os mai tun bach oedd o, ond ar y “picnic” yma, pawb yn cael ei siâr, digon o domatos, letus, nionod bach a beetroot, bara brith a teisena, a te blas mŵg arno, - roedd fel nectar – a dyna bryd digon da i frenin.

A dyna’r prynhawn i gyd o’n blaenau i chwarae ar y tywod, neu hel gregin gleision, gwichiad neu gocos ond yr oedd yn rhaid myned ymhell iawn ar y traeth i gael y cocos, rhai blas mwd oedd y rhai nes i’r lan, ac yr oedd rhaid bod yn wyliadwrus iawn a chadw llygaid ar y teid rhag ofn i chwi gael eich dal ganddo.

Ambell waith, byddai’r môr i mewn ac wrth gwrs yn y dŵr yr oeddem, y mamau yn golchi eu traed, cadw llygaid ar y plant lleiaf, a’r babis, rhan fwyaf, wrth eu bodd yn cael eu “dipio” yn y môr gan eu mamau, ond yr oedd rhai yn ofnus o’r môr mawr, ond ar y cyfan, amser braf a phawb yn hapus.  Wedi cael oriau o chwarae, cael galwad o’r lan fod te yn barod. Digon o frechdanau, tomatos, potted meat, letus a nionod bach, a gwell na’r oll, tun mawr o “pears” neu “peaches” wedi ei agor, cacena, biscits a bara brith, bobol annwyl, dyna beth oedd “high tea”, os buo un erioed! Yr oedd dipyn o amser i chwarae ar ôl te a gwnaed yn fawr ohono, ond troi am adref oedd rhaid, a ffordd faith o’n blaenau, a hynny i fyny’r allt ar hyd y ffordd a chario’r tegell a’r llestri i gyd, dim llestri papur yr adeg honno. Chlywais i neb yn grwgnach, a hapus iawn oedd pawb yn myned gartref wedi cael diwrnod mor ardderchog.

Aros ar y gwastad wrth fferm Penbryn, ac os oedd rhywfaint o fwyd yn sbâr, mi fydda yn cael ei fwyta yn y fan honno, a “next stop” adref!

Atgofion Mrs Vivienne Parry o Lanfairpwll…

Carreg Sglefr

Roedd sawl ‘carreg sglefr’ yn yr ardal, lle heidiai’r plant i chwarae. Roedd un ar lwybr y Foel heb fod ymhell o Fwlch Molchi. Mae Vivienne yn cofio un ger Caeau Bach Tan ‘r Eglwys - croesi pont, mynd drwy dair giât, ac mae’r garreg ar y dde. Ers talwm roedd hi’n hollol lyfn i sglefrio’n arni.

Bryn Bella

Roedd cwt sinc yn gwerthu da da, lemonêd a chreision yma. Lizzie Gladys a’i mam oedd yn berchen ar y tŷ. Roeddent yn gwerthu penwaig picl o dŷ i dŷ yn Rachub hefyd.

Siop Britannia

Yn ystod cyfnod y rhyfel, arferai’r NFS (National Fire Service) ddefnyddio’r cwt ar ochor y siop i gadw’r bibell ddŵr fawr ar gyfer diffodd tân yn ystod ymarferion. Roedd ‘hydrant’ yn ymyl i gael y dŵr. Roedd yr injan dân a gweddill y celfi ym Methesda - ar safle presennol Garej Ffrydlas.

Canu yn ystod y Rhyfel

Yn achlysurol, ar nosweithiau Sadwrn yn ystod y Rhyfel, byddai criw o bobol yn dod at ei gilydd i ganu emynau, gan feddwl am hogiau’r pentref oedd ymhell oddi cartref. Mr. Ritchie Wyn Parry fyddai’n cyfeilio ar biano a gafwyd o Dŷ’r Ysgol, Rachub.


Berw’r Dŵr

Roedd yn arferiad gan bobl Rachub hel berw’r dŵr (watercress), a gwneud brechdanau blasus i’w rhoi yn y tun bwyd. Cofia fynd i Goed Isaf i’w gasglu, ei olchi yn nŵr y ffynnon, a’i gario adref mewn basgiad gan weld y dŵr yn llifo drwy’r tyllau.

‘Dolig

Byddai merched y pentref yn gwneud cymysgedd Bara Brith, a mynd â nhw i gael eu crasu yn y ddau fecws. Byddent yn gosod darn o blât neu gwpan wedi torri ar ben y gymysgedd er mwyn adnabod y Bara Brith!