Adran y Plant

Plantos Rachub

Fel cymdeithas, credwn yn gryf ei bod yn bwysig trosglwyddo gwybodaeth am ein hardal i blant y fro. Ers talwm, byddai gan blant yr ardal y rhyddid i chwarae’n braf ym mhob twll a chornel o’r pentref. Gwyddai pawb am bob llwybr, nant, stryd a chae gan adnabod enw pob un. Byddai plant yn chwarae ar lethrau’r Foel a’r Ffridd, mewn hen dai gwag a thomennydd llechi, yn ogystal ag yn y cae chwarae. Erbyn heddiw, nid yw’r rhyddid yma’n bodoli i’r un graddau, felly mae’n wir dweud nad yw’r plant yn adnabod eu cynefin cystal. Mae’n rhaid dibynnu ar ysgolion, yr Ysgol Sul a chlybiau amrywiol i dywys y plant ar deithiau cerdded o amgylch y pentref, a diolchwn am y diddordeb a geir gan arweinwyr y sefydliadau hyn. Gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn gymorth bychan i ddysgu'r plantos am eu hardal hyfryd.

Defaid Doniol Caellwyngrydd.

Llyfr yw hwn sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo plant ifainc i ymgyfarwyddo â rhywfaint o hanes y pentref. Ceir ynddo luniau o ddefaid lliwgar (teganau a gafodd eu gwau gan aelodau o Glwb Gwau Carmel), a rhigymau syml sy’n cynnwys enwau gwahanol fannau yn Rachub, Llanllechid a Chaellwyngrydd. Mae ynddo hefyd wybodaeth hanesyddol syml iawn sy’n gysylltiedig â rhai o’r mannau a grybwyllir.

Crëwyd y prosiect ar y cŷd gan y Clwb Hanes, Ysgol Sul a Chlwb Gwau Carmel.

Mynd am Dro (1)

Cyfres o gardiau gwybodaeth yw’r rhain, sy’n dynodi mannau o ddiddordeb hanesyddol a welir wrth fynd ar daith fer o amgylch yr ardal. Ceir map o’r daith, yn ogystal â gwybodaeth syml am:

  • safle archeolegol Cae Rhosydd

  • bedd y bardd enwog R.Williams Parry

  • Eglwys Robertson

  • safle plasdy Canoloesol Coetmor

  • cartref R. Williams Parry

  • Coetmor Hall

  • safle hen Chwarel Pantdreiniog

  • cartref William Griffith Hen Barc

  • cartref William Ellis Williams, Tyddyn Canol.

Plant Ysgol Sul Carmel yn defnyddio’r adnoddau ar fore Sul braf.

Disgyblion Blwyddyn 2 Ysgol Llanllechid yn dilyn y map ac yn defnyddio adnoddau’r Clwb Hanes i ddarganfod mannau diddorol yr ardal.

Braf fu cael darllen yn ein papur bro,am blant Ysgol Llanllechid yn dysgu am ein hanes lleol drwy fynd am dro at hyd lwybrau'r ardal!

Caellwyngrydd, Talcen y Deyrnas a Moel Faban

Bu dosbarthiadau Mrs Wilson, Mr Stephen Jones a Mr Sion Llywelyn yn crwydro’r ardal leol ac yn dysgu’r hen enwau. Cafwyd cyfle i ymlacio wrth lidiart y mynydd, cyn rhyfeddu at yr olygfa o Dalcen y Deyrnas.

Addysg Ers Talwm 

Mor braf yw bachu ar gyfleoedd i fynd a’n plant allan i ddysgu am eu milltir sgwâr, yn enwedig gan fod cymaint o gyfoeth ar ein stepen drws! Mor wahanol oedd hi yn nyddiau’r prifardd Emrys Edwards, oedd yn traddodi ei araith, ‘Pesda i Mi’ yng Nghapel Jeriwsalem, Bethesda, ar Fawrth 10fed, 1976. “Gwyddem fwy am y Rockies nag am y Carneddau a’r Wyddfa. Afonydd St. Lawrence a Mississippi a’r Amazon oedd yn ein llyfrau, yn lle’r Ogwan.”

Crwydro’r Fro

Aeth dosbarthiadau Mrs Rona Williams a Mrs Tegid, gyda Mr Stephen Jones yn arwain, o amgylch Llyn Idwal, lle cafwyd cyfle i wrando ar hanes Idwal gawr a llawer mwy! Cafodd dosbarth Mrs Rona Williams fynd ar grwydr i ddysgu am Eglwys Llanllechid; Yr Hen Gwt Barbar, Lon Groes; Stryd Doctor; Royal Oak; Capel Carmel; Caellwyngrydd; Siop y Post a thŷ William Griffith, Hen Barc. Diolch i aelodau’r Clwb Hanes am adnoddau gwerth chweil i ddysgu hanes lleol i blant.   

Llais Ogwan Mehefin 2023

Dyddiau Da

Dyma lyfr newydd sy’n gofnod o’r gweithgareddau hwyliog a baratowyd ar gyfer plant Ysgol Sul Capel Carmal, Rachub am gyfnod o 65 o flynyddoedd.! Casgliad o ffotograffau a geir yma, o’r llu profiadau cyfoethog a dderbyniodd y plant dros y blynyddoedd. Yr un a fu wrth y llyw dros y cyfnod anhygoel hwn yw Mrs Helen Williams, Llwyn Bleddyn. Ysgol Sul fechan oedd yn bodoli ar gychwyn y cyfnod, ond gyda gweledigaeth, ymroddiad a brwdfrydedd egnïol Mrs. Williams a’i chyd - athrawon, tyfodd yn sefydliad a oedd yn cynnig profiadau pwysig i ugeiniau o blant ar y tro! Mae’r gweithgareddau’n rhy niferus i’w rhestru yma, ond gellir dweud bod adnabyddiaeth o’r fro, cynnal gwasanaethau, mireinio sgiliau celf a chrefft, canu, a chefnogi achosion da yn eu plith. Mae copïau o’r llyfr ar gael yn LONDIS, Bethesda, yn ogystal â gan Mrs Williams ei hun. Gobeithio y cewch fwynhád wrth bori drwyddo!