Marian Jones Marian Jones

'Arferion Trin Merlod Mynydd Llanllechid' gan Eifion Hughes

Cyfarfod  24.04.2024

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Cafwyd noson ddifyr a hwyliog yng nghwmni Eifion Griffiths (Tŷ Mwyn) yn y Clwb Criced yn ddiweddar, - cyfarfod i ddod â Chlwb Hanes Rachub i ben am y tymor. Merlod Mynydd y Carneddau oedd o dan sylw, merlod sydd wedi crwydro’r Carneddau ers yr Oes Efydd (tua 2 – 3 mil o flynyddoedd Cyn Crist) merlod gwydn a chaled, merlod hollol unigryw! Clywyd am bwysigrwydd gwarchod y merlod yma, a sut mae nifer fechan o ffermwyr yn dal i geisio gwneud hynny, er yn wynebu pob math o rwystrau, biwrocratiaeth a phobol di-ddallt! Mae Eifion yn perthyn i bedwaredd cenhedlaeth teulu oedd yn gwarchod y merlod, ac mae’n cofio mynd gyda’i dad a’i ewythrod draw i Aber ac ar hyd ‘Mynydd Llanllechid’ er mwyn dal y merlod i sicrháu eu bod yn iach. Roedd rhaid gofalu bod eu carnau’n gryf a iach, y gynffon wedi ei thacluso a bod nodau’n golwg yn y clustiau, - yn union fel y rhai sydd yng nghlustiau defaid. Pan fyddai pawb yn fodlon, yna byddai’r merlod yn cael dychwelyd i’r mynydd am flwyddyn arall. Erbyn heddiw, mae gan y merlod ‘basport’, ac mae’r ‘micro chip’ wedi disodli’r nodau clust, - hyn eto’n achosi problemau o’r newydd i griw y merlod, yn ogystal â chael gwared â geirfa a thermau Cymraeg gwych oedd yn ymwneud â’r gwaith. Teimlwyd nad oedd merlod y Carneddau’n cael cystal chwarae teg â merlod yr Epynt a merlod Canolbarth Cymru, gan fod eu sefyllfa yn wahanol. Roedd yn haws cadw’r rheiny gyda’i gilydd gan fod eu tiroedd yn gaeedig, ond mae rhwydd hynt i ferlod y Carneddau grwydro i unrhyw le! Ond rhag ofn i unrhyw un feddwl mai cyfarfod trist a negyddol a gafwyd, - dim ffiars! Roedd dawn dweud Eifion wrth adrodd stori yn adloniant pur, ac roedd aelodau’r clwb yn eu dyblau yn aml, wrth glywed hanesion cymeriadau’r byd merlod, e.e. yr ewythr a fethodd ddatod yr awenau oddi ar un ferlen, a chael ei lusgo ar ei fol, yr holl ffordd at Lyn Coch, y cyw ar sêt gefn y car a edrychai fel Alsatian, a lle i beidio sefyll ar ôl ceisio gwella colic ar ferlen drwy roi llond potel o Yorkshire Relish i lawr ei chorn gwddw!

Daeth Eifion â nifer o gelfi a theclynnau i’w harddangos yn y cyfarfod – nifer ohonynt yn segur erbyn hyn oherwydd y rheolau ‘nodi’ diweddaraf. Gweler isod yr offer a ddefnyddiwyd i roi nodau ar glustiau;r merlod - nifer o'r rhain wedi eu creu yn lleol. Crewyd y 'marc' Ty Mwyn (T.M.) drwy ddefnyddio pedol un o ferlod y teulu. Gwelir yma declyn i grafu carnau'r merlod, ac enghraifft o glawr y 'Pasport' neu'r drwydded deithio ddiweddaraf ar gyfer symud y merlod o un lle i'r llall.

Diolch yn fawr Eifion am noson ddifyr dros ben, ac am gael y cyfle i ddysgu mwy am y gymdeithas a’r arferion hynod sy’n ymwneud â gofalu am ferlod Mynydd Llanllechid.

Read More
Marian Jones Marian Jones

‘Chwalfa Teulu Holland Williams, Crymlyn, 1900-1903’ gan Hywel Thomas

Cyfarfod 27.03.2024

Clwb Criced Bethesda

Croesawyd Hywel Thomas i’r Clwb i drafod ei ymchwil i deulu Holland Williams, Crymlyn, ac i esbonio sut yr effeithiwyd arnynt gan wahanol amgylchiadau, gan gynnwys Streic Fawr y Penrhyn.

Un o ddeuddeg plentyn William a Grace Williams, Crymlyn oedd Holland Williams (1839-1888). Priododd â Margaret Roberts, Llandygai a chawsant wyth o blant. Roedd yr enw Holland yn amlwg iawn yn enwau mwyafrif y disgynyddion, ac fel teulu, dros gyfnod, bu gwahanol aelodau yn gweithio yn y chwarel, teithio i Awstralia, ymwneud â’r ‘Goldrush’ yn America, creu olew i wella anhwylderau, symud i Pennsylvania a bod yn amlwg ym mhrotestiadau’r streicwyr yn ystod y Streic Fawr. Roedd pum brawd o’r teulu hwn ymysg y rhai a gafodd eu herlyn yn y llys ym Mangor yn ystod y Streic, a chafwyd dau yn euog o ymosodiadau.

O ystyried maint y teulu hwn, a’r holl ddisgynyddion, wnaeth ‘run ohonynt barhau i fyw yn ardal Crymlyn/Aber, felly roedd y cyfnod o dlodi a streicio wedi creu chwalfa yn wir ystyr y gair.

Fel y crybwyllwyd eisoes, aeth nifer fawr o aelodau’r teulu, (dros wahanol gyfnodau) i America, ac yn wir, croesawyd un o ddisgynyddion y teulu o America, yn ogystal ag aelodau eraill o’r teulu o Bant, Bethesda i’r cyfarfod yn y Clwb Criced.

Yn y llun, gwelir Sarah Burns o Philadelphia, Hywel Thomas, gyda Pat Roberts a Thomas Gould, Bethesda.

Read More
Marian Jones Marian Jones

'Pum Deg Mlynedd o Gasglu - Amgueddfa Lechi Cymru' - Cadi Iolen

Cyfarfod  28.02.2024

Clwb Criced Bethesda

Cafwyd sgwrs arbennig o ddifyr yng nghyfarfod Mis Chwefror o’r Clwb Hanes, pan ddaeth Cadi Iolen draw i’r Clwb Criced i sôn am hanes Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, a’r cysylltiad sydd rhyngddi â Dyffryn Ogwen. Agorwyd yr amgueddfa ym 1972, ychydig flynyddoedd wedi i Chwarel Dinorwig gau ei drysau’n frawychus o sydyn. Yn ffodus, llwyddwyd i achub llawer iawn o’r creiriau o’r chwarel honno, a’u defnyddio fel sail i’r amgueddfa newydd. Mae’r amgueddfa wedi tyfu erbyn hyn, ac yn fwrlwm o weithgareddau amrywiol, o ffilmiau a gwaith celf gwych i weithdai ar gyfer plant, actorion ‘mewn cymeriad’, arddangosfeydd byw o chwarelwyr yn hollti a naddu yn ogystal â 13,000 o wrthrychau!

Esboniodd Cadi sut y cyflwyna hanes Streic y Penrhyn i’r miloedd o ymwelwyr a ddaw drwy ddrysau’r amgueddfa. Mae ‘Tŷ Bethesda’ yn un o dai stryd ‘Bron Haul’ wrth gwrs, ac mae’r cerdyn yn y ffenest sy’n datgan nad oes ‘bradwr yn y tŷ hwn’ yn fan cychwyn gwych i gyflwyno’r hanes. Mae’r cês ar y gwely, sydd  wedi ei bacio’n barod, er mwyn i ŵr y tŷ gychwyn am byllau glo De Cymru, yn rhoi gogwydd arall i ni ar yr hanes, ac mae’r gragen enfawr ar y bwrdd yn gyfle i sôn am y merched fu’n gwawdio’r ‘Bradwyr’ drwy ei defnyddio i ‘hwtio’n’ aflafar! Soniodd hefyd am adeiladau mawr crand ar draws y byd sydd wedi eu toi gan lechi Bethesda, a soniodd am grefftwaith artistig y chwarelwyr, fel y llefydd tân addurnedig, a cherfiadau llechi a fu’n fuddugol mewn eisteddfodau cenedlaethol.  Soniodd hefyd am artistiaid a greodd weithiau celf pwysig iawn i ddarlunio bywyd yn y chwarel mewn gwahanol gyfnodau. Mae nifer i’w gweld yng Nghastell Penrhyn, a nifer o rai eraill mewn gwahanol amgueddfeydd.  Un artist a wnaeth waith gwych yn cofnodi mewn darluniau pensil oedd M.E. Thompson. Treuliodd fisoedd yng nghwmni’r chwarelwyr  yn y 1940au yn cofnodi drwy luniau - amodau gwaith , offer, peiriannau, cymeriadau, ac arferion o bob math, ac mae’n gofnod hynod werthfawr o’r cyfnod. Gwelwyd enghreifftiau gwych o’r rhain ar y sgrin fawr gan Cadi.

Gwaith yr artist M.E. Thompson {Amgueddfa Cymru}

Read More
Marian Jones Marian Jones

'Ysgol yr Eglwys, Rachub, rhwng 1874 a 1914' gan Dr. Meirion Davies

Cyfarfod. 31. 1. 2024

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Cafwyd dadansoddiad manwl a diddorol ‘Daearyddol - Hanesyddol’ o lyfr log hen ‘Ysgol yr Eglwys’ yn Rachub gan Dr. Meirion Davies yng nghyfarfod mis Ionawr o’r Clwb Hanes. Canolbwyntiodd Meirion ar y cyfnod rhwng 1878 a 1909, a’r mudo cyson a fu’n digwydd yn yr ardal yn y blynyddoedd hynny, ac a adlewyrchwyd yn y llyfrau log. Dywedodd fod pob tudalen (uniaith Saesneg) yn datgelu rhywbeth newydd am sefyllfa’r gymdeithas ar y pryd. Roedd nifer helaeth o’r problemau’n debyg iawn i’r problemau a wynebir mewn ysgolion heddiw e.e.. triwantiaeth, tywydd garw, absenoldebau, gwresogi’r ysgol, arolygwyr (a fyddai’n ymweld pob tymor!) yn ogystal â phwysigrwydd gorfod casglu ffioedd ar y bore’n dilyn diwrnod cyflog yn y chwarel! Roedd salwch a diffyg maeth yn effeithio’n drwm ar bresenoldeb yn yr ysgol, yn ogystal â nifer helaeth o farwolaethau plant. Cofnodwyd 25 o farwolaethau yn ysgol Rachub yn ystod y cyfnod hwn!

Wrth gwrs, roedd dwy ysgol yn Rachub ar y pryd - un Ysgol Eglwys a’r llall yn Ysgol Genedlaethol, ac yn aml iawn byddai disgyblion yn symud o’r naill i’r llall - yn enwedig yng nghyfnod y Streic Fawr. “Too many cynffons in this school” oedd sut y dyfynnodd y prifathro un o’r rhieni yn y llyfr log yn ystod cyfnod y Streic. Roedd teuluoedd yn chwalu oherwydd bod tadau yn symud i byllau glo’r De i weithio, a hefyd gwelwyd mudo mawr i’r Amerig i chwilio am fywyd gwell!

Roedd y gwaith ymchwil hwn yn seiliedig ar ystadegau manwl nad oes bosib eu trafod mewn erthygl fechan, ond yn wir, roedd y gynulleidfa (bron i hanner cant) wedi mwynhau a gwerthfawrogi’r cyflwyniad yn fawr. Gweler rhai o'r ystadegau isod. Diolch yn fawr iawn Meirion!

Nodiadau Ychwanegol gan Meirion:

Lizzie Roberts. Fe’i cofrestrwyd yn Ysgol Llanllechid ym 1887 a nodir ei thad, John fel y gwarcheidiwr. Yng Nghyfrifiad 1891 mae’n 8 oed ac yn byw gyda’i mam a’i brawd. Mae ei thad yn absennol. Hydref 1891 mae’n gadael am Lerpwl, yna’n dychwelyd Ionawr 1893. Mawrth 1893 mae’n gadael am America. Glaniodd yn Ellis Island gyda’i mam a’i brawd a nodir eu cyrchfan fel Pennsylvania. Mae’n debygol fod John wedi mudo yno’n gynt. Ym 1900 maent i gyd yn byw yn Johnstown, Pennsylvania, canolfan i’r diwydiant glo a haearn. Gadawodd Edwell Washington Jones Lanllechid am America ym 1887. Yng nghyfrifiad 1900 yr Unol Daleithiau mae’n 19 mlwydd oed ac yn byw ym Mangor, Pennsylvania gyda’i rieni. Fe’i cyflogir fel gweithiwr oedd yn trin llechi. Bu farw ym 1957 yn Pennsylvania. Yn dair ar ddeg oed, gadawodd Sarah Jane Roberts Lanllechid am Dde Cymru ym 1903 o ganlyniad i’r streic. Fe’i ganed hi a’i chwaer hŷn ym Mhenrhosgarnedd ac roedd yn byw yn Llanllechid ym 1901 gyda gweddill y teulu – ei thad a’i brawd hŷn yn chwarelwyr. Ym 1911 mae’r teulu yn Aberpennar, y tad yn löwr a Sarah yn cynorthwyo yn y cartref. Roedd John a Mary Mycock yn byw yn 8 Pen y Bonc ym 1901. Roedd eu tad, John, yn absennol gan ei fod wedi cael gwaith yn un o chwareli Dyffryn Nantlle ac yn aros yno dros dro. Gadawodd y teulu Lanllechid am Dde Cymru ym 1903. Erbyn 1911 maent yn ôl yn Stryd Brittania, Llanllechid. Mae’r tad a’r mab yn chwarelwyr a Mary’n forwyn. Gadawodd William H Williams am yr Ysgol Brydeinig fis Medi 1901. Y rheswm oedd “too many cynffonwrs here.” Roedd yn byw gyda’i fam, ei frawd a’i chwiorydd yn Water Street. Roedd ei dad yn absennol o’r cartref ac yn “lodger” yng Nghaergybi. Fe’i disgrifir fel “Slate splitter”. Ganed Elizabeth Pritchard ym 1898. Ym 1901 trigai yn 1 Stryd Goronwy, Gerlan gyda’i mam, Margaret, ynghyd â’i brodyr a’i chwiorydd. Roedd William, ei thad yn absennol. Mae wedi ei gofnodi yn Llanwrthwl, Sir Frycheiniog, ynghyd a thua 75 o ddynion eraill o Fethesda. Erbyn 1911 mae Margaret yn weddw ac mae Elizabeth yn dal yn yr ysgol. Degawd yn ddiweddarach mae Elizabeth eto’n byw gyda’i mam ac fe’i disgrifir fel “unemployed nurse” Ym 1939 mae Elizabeth yn byw yn Llanilar ac yn gweithio fel “District Nurse”. Ei chyfenw yw “Williams”. Ym 1943 ym Mangor, mae Elizabeth, sy’n weddw, yn priodi Thomas Pryse, gyrrwr “steamroller” o Goginan, Ceredigion. Yn Llanilar fe’i hadwaenid gennym fel “Nyrs Pryse”.

https://heritage.statueofliberty.org/passenger


Bydd angen creu cyfrif (ond mae hwn yn rhad ac am ddim). Yna gwneud chwiliad. Pan ddaw rhestr o
ganlyniadau gallwch glicio ar ddau fotwm:

  • Passenger record – rhoi ychydig o fanylion.

  • Manifest – dangos copi o dudalennau o lyfr y llong (tipyn fwy o wybodaeth). Mae rhan ucha’r dudalen
    yn eich annog i brynu copi o’r tudalennau ond mae hyn yn ddrud. O symud i waelod y dudalen gallwch
    weld copiau o’r tudalennau a’u chwyddo yn rhad ac am ddim.
    https://www.familysearch.org/search/collection/1368704


Safle we’r Mormoniaid. Unwaith eto rhaid creu cyfrif didal
Gallwch:

  • glicio ar “Browse” ac fe ddaw rhestr fesul dyddiad o manifest y llongau.

  • wneud chwiliad.


https://stevemorse.org/
https://stevemorse.org/ellis2/ellisgold.html

Mae system chwilio safleoedd Stephen Morse yn fanylach. Wrth glicio ar y botymau ar y rhestr canlyniadau
mae’n eich trosglwyddo i safle gwe Ellis Island am y wybodaeth. Yn ogystal mae gwybodaeth am borthladdoedd eraill yn yr Unol Daleithiau.

Read More
Marian Jones Marian Jones

Llyfr Newydd: ‘Ardal Rachub - Tair Taith Fer’

Mae mynd am dro gyda theulu neu ffrindiau i grwydro’r ardal leol, yn brofiad hynod werthfawr yn gymdeithasol, ieithyddol, addysgol a chorfforol - i oedolion a phlant fel ei gilydd. Er mai pentref bychan yw Rachub, mae digon o elltydd yma i gael ymarfer da i’r corff, a digon o fannau diddorol i ddysgu amdanynt ym mhob twll a chornel o’r ardal. Bu cymeriadau ffraeth iawn yn byw yma, yn ogystal ag ysgolheigion, artistiaid, beirdd a pherfformwyr o bob math! Mae adeiladau diddorol yma - o’r ysgoldai a’r addoldai i gwt barbar a stiwdio recordio - heb sôn am ffatri gocos ac olion adeiladau cynefin iawn!

      Tair taith fer a geir yn y llyfr hwn, gyda’r gobaith y bydd oedolion a phlant yn cyd-gerdded y llwybrau, gan ddysgu am fannau o ddiddordeb, a thrafod yr hanesion wrth fynd am dro. Gobeithio, hefyd, y bydd y llyfr yn ddefnyddiol i ysgolion lleol, yr Ysgol Sul ac ambell grŵp cerdded.

Mwynhewch y crwydro! 

Mae’r llyfrau ar gael yn LONDIS Bethesda yn ogystal â gan aelodau o’r Clwb Hanes.

Read More
Marian Jones Marian Jones

'Taith Hanesyddol mewn Lluniau - Adeiladau Rhestredig ardal Llais Ogwan' gan André Lomozik

Cyfarfod 29.11.2023

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Croesawyd yr hanesydd lleol André Lomosik i ystafell fawr y Clwb Criced, ar noson rewllyd o Dachwedd i ddangos lluniau ar sgrin o adeiladau rhestredig ardal Llais Ogwan. Roedd llond ystafell o aelodau yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed sgwrs gan André, gan eu bod yn gwybod am ei ddawn drefnus fel ymchwilydd hanesyddol eisoes. Soniodd Dilwyn Pritchard yn ei gyflwyniad am yr ymchwiliadau swmpus o’i eiddo sy’n ymddangos yn Llais Ogwan ac i’w gweld ar silffoedd Llyfrgell Bethesda.

Yn ardal Llais Ogwan, ceir dros 200 o adeiladau rhestredig; 157 yn Llandygai, 66 yn Llanllechid, a 92 ym Mhentir. Canolbwyntiodd André ar ardaloedd Llandygai a Llanllechid yn y sgwrs arbennig yma. Yn naturiol mae nifer helaeth o’r adeiladau yma ym mhentref Llandygai a’r cyffiniau, oherwydd dylanwad cyfoeth teulu’r Penrhyn, a nifer hefyd yn Nhalybont, sydd ym Mhlwyf Llanllechid, ond yn agos at Landygai.

Yr adeiladau a chreiriau sydd o ddiddordeb i ni yn yr ardal hon mae’n debyg yw Eglwys Llan, y cloc haul llechen bendigedig [1795] a saif tu allan i’r eglwys yn ogystal â’r ciosg ffôn (o gyfnod Siôr VI) sydd wedi ei leoli tu allan i’r ‘Hen Bwl’! Mae ffermdai Coetmor, Coed Uchaf ac Abercaseg wedi eu rhestru, yn ogystal â chapeli Bethania, Bethesda, Jerwsalem, Shiloh ac Eglwys Glan Ogwen. Mae tafarndai’r Fictoria, King’s Arms a’r Douglas wedi eu rhestru - hefyd, pontydd, cerrig milltir, pileri llechi, tolldai a ‘Thŷ Pwyso’ ar yr hen A5. Wrth gwrs, mae’n amlwg fod adeiladau hanesyddol fel Tŷ John Iorc, yn rhestredig, yn ogystal â Phlasty a Melin Cochwillan. Mae’n anodd credu nad oes unman yn Rachub a Chaellwyngrydd sy’n haeddu statws o ryw fath; mae’n siŵr nad ydych yn brin o syniadau… Yr Hen Gwt Barbar efallai...? Ysgoldy Carmel...? Tŷ Madam Chips...? Dyna ddigon ar y breuddwydio! Diolch yn fawr André, am y gwaith ymchwil manwl!

Read More
Marian Jones Marian Jones

‘Corlannau’r Carneddau’ gan Nigel Beidas

Cyfarfod 25.10.23

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Daeth bron i hanner cant o bobl ynghŷd yng Nghlwb Criced Bethesda i wrando ar sgwrs wych yn dwyn y teitl ‘Corlannau’r Carneddau’ gan y ffotograffydd Nigel Beidas. Cafodd Nigel olwg wahanol iawn ar y corlannau/buarthau ers iddo brynu drôn tua pedair blynedd yn ôl, a gallu gweld y siapiau a’r patrymau unigryw o’r awyr, yn hytrach nag o’r tir. Dangosodd i ni, nifer fawr o sleidiau, ac roedd yr hanesion diddorol oedd ganddo am bob ffotograff yn portreadu dyfnder ei waith ymchwil yn y maes. Bu’n treulio oriau lawer yng nghwmni amaethwyr yr ardal, gan ddysgu o’u profiad am ddefnydd o’r corlannau, ac am arferion hen a newydd. Soniodd am swyddogaethau’r gwahanol gelloedd o fewn y gorlan, e.e. corlan gynefino, corlan gasglu, corlan ddidoli, a dysgwyd bod cell i bob fferm unigol yn ogystal â chell i’r defaid coll. Roedd tyllau rhwng pob cell er mwyn hwyluso’r gwaith o ddidoli’r defaid. Soniodd Nigel hefyd am gorlannau tebyg iawn mewn gwledydd eraill fel Croatia a’r Swistir, a cawsom glywed am gysylltiad corlannau’r Carneddau â’r merlod mynydd, yn ogystal â’r porthmyn. Defnyddiwyd y cerrig oedd ar lethrau’r mynyddoedd i adeiladu amrywiaeth o gytiau a waliau a.y.y.b. gan gynnwys trapiau llwynogod, cytiau mynn a llochesi bugeiliaid. Cewch hanes y corlannau mewn manylder, yn ogystal â chael cyfle i weld y ffotograffau gwych ar wefan Nigel Beidas – www.cofnodicorlannau.org

Diolch yn fawr, Nigel, am ddarlith wefreiddiol, ac i Dr. John Llywelyn Williams am ei gyflwyniad ac am arwain trafodaeth ar ddiwedd y ddarlith.

Read More
Marian Jones Marian Jones

‘Cynffonwyr Punt y Gynffon - Bethesda 1900-03’ gan Dr John Llywelyn Williams

Cyfarfod 27.09.23

Clwb Criced Bethesda

Er bod gwyntoedd storm Agnes yn rhuo dros y wlad, doedd dim am rwystro criw sylweddol o aelodau Clwb Hanes Rachub rhag llenwi ystafell fawr y Clwb Criced i wrando ar Dr. John Llywelyn Williams yn traddodi ei ddarlith hynod ddiddrol, ‘Cynffonwyr Punt y Gynffon – Bethesda 1900 – 1903.’ Roedd gwaith ymchwil manwl yma, yn trafod helyntion y streicwyr yn ogystal â’r rhai a ddychwelodd i’r chwarel. Trafodwyd yr hollt enfawr a achosodd y streic yn yr ardal, a’r unigolion a’u teuluoedd a effeithiwyd gan ormes yr Arglwydd Penrhyn a’i griw.

Pwysleisiwyd bod dwy ochr i bob stori, a bod rhaid ystyried amgylchiadau’r ‘dychwelwyr’, gan nad oedd bywyd yn rhwydd o gwbwl iddynt. Er eu bod yn cael arian a ffafrau tra'u bod yn gweithio yn y chwarel, roeddent yn parháu i fyw yn y gymuned, a doedd hynny, yn bendant, ddim yn hawdd! Roedd yr Arglwydd Penrhyn ac E.A. Young yn cythruddo cymaint ar y streicwyr, nes bod eu rhwystredigaeth, o bosib, yn troi’n wylltineb corfforol yn erbyn y ‘bradwrs’. Cafwyd hanesion di-ri’ am dyrfaoedd enfawr yn gorymdeithio drwy Stryd Fawr Bethesda, ymosodiadau ar wragedd y dychwelwyr, plant yn ofni mynd i’r ysgol, yr heddlu’n gorfod hebrwng gweithwyr o’r orsaf drenau i’w cartrefi, a chriw o Rachub yn dwyn pastynau’r heddlu ac yn ymosod arnynt!

Ond parháu â’i driciau wnaeth Penrhyn, gan wobrwyo mwy ar y dychwelwyr, defnyddio ysbїwyr i gasglu gwybodaeth am fwriadau’r streicwyr, a defnyddio’r wasg i gyhoeddi llythyrau gan y dychwelwyr, - yn diolch iddo am ei haelioni tuag atynt! Ond gellir bod yn eitha’ pendant mai Penrhyn ei hun oedd yn ysgrifennu’r rhain! Does ryfedd bod y streicwyr yn gwylltio!

Ond roedd gan y dychwelwyr resymau pendant dros fynd i weithio, a chredent yn gryf yn yr hyn yr oeddent yn ei wneud! Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad; roedd y rhan fwyaf yn gorfod dychwelyd mae’n debyg, am wahanol resymau. Roeddent yn dioddef yn enbyd hefyd, ond wedi gwneud y penderfyniad, ac yn ceisio byw bywyd ‘normal’ mewn amgylchiadau dychrynllyd o anodd.

Diolch John, am ddarlith wych ac am agor y drysau i ymchwilio ymhellach i’r rhan bwysig yma o hanes ein cymuned.

Read More
Marian Jones Marian Jones

Wynne Roberts

Ar y 4ydd o Fedi, 2023, daeth y newydd trist am farwolaeth yr hynafgwr hynaws a hanesydd bro, Wynne Roberts, Tregarth, yn 95 mlwydd oed.

Roedd yn gymeriad bywiog tu hwnt, a hyd yn ddiweddar iawn, gellid ei weld yn brasgamu ar hyd yr A5 yn foreol i brynu ei bapur dyddiol ym Methesda. Roedd ei gof am ddigwyddiadau a chymeriadau'r fro yn ddiarhebol ac yn fyw iawn. Daeth y diddordeb yma wrth iddo weithio, pan oedd yn hogyn ifanc, yn efail gof ei dad yn Llanllechid. Yno daeth ar draws llu o gymeriadau ffraeth a diddorol, hwythau gyda'u straeon ac adroddiadau am ddigwyddiadau'r cyfnod. Roedd yn barod iawn i rannu'r straeon hyn gyda chymdeithasau a phobl yr ardal dros y blynyddoedd - diolch am hynny. Yn ffodus parahodd ei gof yn fywiog hyd at y diwedd.

Os byddai'n cyfarfod rhywun dieithr, fel arfer, ei gwestiwn cyntaf fyddai, "Pwy oedd dy dad a'th fam dwad? Wedi derbyn yr enwau byddai'n olrhain achau'r dyn diethr, a byddai yntau'n gadael wedi cael gwers am ei deulu. Wrth ymweld â'i gartref sawl gwaith y clywais ef yn dweud, "Aros yn fanna i ti gael gweld y llun yma". Yna byddai'n mynd i fyny'r grisiau a dod yn ôl gyda llun o ddigwyddiad neu gymeriad lleol.

Roedd yn gybyddus â phob rhan o'r Carneddau ynghyd â'r amaethwyr i gyd, wrth iddo dreulio nosweithiau yn 'hel defaid'. Bu hefyd yn weithgar gyda Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen am flynyddoedd.

Fel y crybwyllwyd eisoes, roedd ganddo gof anhygoel, a hynny a barodd i'r Dr John Llywelyn Williams ddweud amdano, "mai ei gof oedd llyfrgell hanesyddol Wynne". Bu'n Llywydd Cymdeithas Ddiwylliannol Dyffryn Ogwen am flynyddoedd ac yn aelod o Glwb Hanes Rachub. Bydd bwlch mawr ym mywyd hanesyddol yr ardal wedi ei farwoleth, ond y rhai fydd yn teimlo'r bwlch fwyaf fydd y teulu. Anfonwn ein cofion at Paul, Yasmin a'r teulu oll.

Dilwyn Pritchard

Read More
Marian Jones Marian Jones

Clwb ‘Y Dwylo Prysur’

Mae Clwb ‘Y Dwylo Prysur’ wedi ei gynnal yn Ysgoldy Capel Carmel ers 21 o flynyddoedd bellach! Llongyfarchwn Mrs. Helen Williams ar ei gweledigaeth, dyfalbarhád a’i gwaith caled dros y blynyddoedd wrth gyflwyno cymaint o weithgareddau i’r ieuenctid. Cyhoeddwyd llyfryn yn llawn ffotograffau o’r amrywiol weithgareddau hyn, a braf yw gweld bod cymaint ohonynt yn seiliedig ar hanes lleol ac adnabyddiaeth o’n bro.

Read More
Marian Jones Marian Jones

Diwedd Cyfnod - Cymanfa Olaf

Daeth Cymanfa Ysgolion Sul Bangor a Bethesda i ben wedi cyfnod o 117 mlynedd! Byddai’r gymanfa yn cael ei chynnal yng Ngharmel, Rachub, a Chapel Pendref, Bangor bob yn ail flwyddyn. Yn sesiwn y p'nawn, arferai’r plant dderbyn gwobrau am ddysgu adnodau, salmau a storїau o’r Beibl, a chyda’r nos, roedd cymanfa i’r oedolion. Pwy sy’n cofio mynd i Fangor ar y bysys a oedd wedi’u trefnu’n arbennig? Pwy sy’n cofio enwau capeli fel Chwarel Goch a Nant y Benglog? Pwy sy’n cofio derbyn tystysgrif hardd ac amlen fechan frown yn cynnwys arian? Os oes gennych unrhyw atgofion o fynd i’r Gymanfa yn Rachub neu ym Mangor, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Read More
Marian Jones Marian Jones

Llwyddiannau Eisteddfod Llanymddyfri

Gwydion Rhys - Cyfansoddwr o Fri!

Rydym, fel pentref, yn llongyfarch Gwydion Rhys, 'Bron Arfon', Rachub, ar ei lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Llwyddodd i gipio'r Fedal Gyfansoddi gyda’i waith 'Pum Pedwarawd'. Bu'n agos iawn i'r brig deirgwaith yn y gorffennol, felly mae ei ddyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed. Mae Gwydion yn gyn-ddisgybl o Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen, ac ar fin cwblhau ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ble mae'n astudio 'Cyfansoddi'. Dymuniadau gorau iddo yn y dyfodol.

Gwenno Beech

Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Gwenno o Lwyn Bedw, Rachub, ar ei buddigoliaeth yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol Bl. 7, 8 a 9. Mae Gwenno’n gyn-ddisgybl o Ysgol Llanllechid ac ar hyn o bryd yn mynychu Ysgol Dyffryn Ogwen. Am berfformiad gwych, Gwenno - gobeithiwn dy weld ar lwyfannau Cymru yn y dyfodol!

Read More
Marian Jones Marian Jones

‘Edward Stephen - Tanymarian’ gan Mr. Trystan Lewis

Cyfarfod 17.05.23

Clwb Criced Bethesda

I gloi tymor 2022-2023 Clwb Hanes Rachub, croesawyd Mr Trystan Lewis, i roi sgwrs am y cerddor, emynydd, arweinydd cynulleidfaol a’r gweinidog Edward Stephen neu ‘Tanymarian’. Gan fod Trystan ei hun yn gerddor dawnus, yn unawdydd llwyddiannus, yn arweinydd corau a chymanfaoedd yng Nghymru a thu hwnt, mae ei wybodaeth, ei ddiddordeb a’i frwdfrydedd yn y maes yn fyrlymus o amlwg.

Cefndir cyffredin iawn gafodd Edward Stephen, yn wreiddiol o Faentwrog, yn brentis teiliwr, a ddechreuodd bregethu yn Llanffestiniog cyn mynd i astudio yng Ngholeg yr Annibynwyr y Bala. Tra bu yn y coleg, ymroddodd i ddysgu cerddoriaeth a chyfansoddodd amryw ddarnau. Ym 1852, cyfansoddodd yr oratorio gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef ‘Ystorm Tiberias’, ac yn dilyn hynny, nifer o ganeuon unigol. Ond yr hyn oedd yn hynod am Tanymarian oedd na chafodd brofiadau o weld cyngherddau ‘mawr’ gan feistri cerddorol y byd fel Handel a Beethoven, er ei fod wedi ei alw yn ‘Handel ei genedl’. Nid oedd, fel nifer o’i gyfoeswyr cerddorol, wedi bod yn Lerpwl a Manceinion yn gyson i weld perfformiadau o gampweithiau corawl clasurol, felly, yn wyrthiol, gallodd gyfansoddi heb dderbyn addysg gerddorol ffurfiol, na llawer o ddylanwadau o’r tu allan. Daeth yn weinidog i Garmel a Bethlehem, Talybont ym 1856, a hynny mewn cyfnod cyffrous iawn ym myd cerddoriaeth yng Nghymru,- cychwyn cymanfaoedd canu a’r tonic sol ffa – ac roedd cerddoriaeth o’r safon uchaf i’w glywed yn yr ardal, - yn arbennig yn y Gerlan a Charneddi. Cyhoeddodd Tanymarian lyfr tonau yn y cyfnod yma. Bu farw ym 1885, ac roedd y niferoedd oedd yn ei angladd yn Nhalybont yn dystiolaeth o garisma’r gŵr hynod hwn,- 4000 o alarwyr, nifer helaeth o weinidogion yn ogystal â chôr o 500!!

Diolch yn fawr, Trystan, am sgwrs arbennig iawn!

Diolchwyd i Trystan  gan Mrs Helen Williams, a chafodd gyfle i ddangos ffon gerdded Tanymarian iddo. Mae traddodiad yng Nghapel Carmel fod pob gweinidog yn gofalu am y ffon yn ystod ei gyfnod gyda'r capel.

Read More
Marian Jones Marian Jones

‘Iaith Pesda’ gan Mrs Mary Jones

Cyfarfod 26.04.23

Clwb Criced Bethesda

Roedd ystafell fawr y Clwb Criced yn orlawn ar nos Fercher olaf mis Ebrill, gan fod ‘na hen ddisgwyl wedi bod am sgwrs Mary Jones am ‘Iaith Pesda’. Mae’r golofn ‘Iaith Pesda’ yn Llais Ogwan wedi dod yn hynod boblogaidd erbyn hyn a nifer helaeth o’r ardalwyr yn ymhyfrydu mewn cofio, trafod a dehongli tarddiadau geiriau sy’n arbennig i’n hardal ni, ac i ardaloedd tebyg yn y rhan yma o ogledd Cymru. Mae’n amlwg iawn fod geiriau’n newid ac yn diflannu pan fydd cymdeithas yn newid, a hen greiriau ac arferion yn peidio â bod. Mae hyn yn wir am y chwarel wrth gwrs. Ychydig iawn sy’n defnyddio ‘swper chwarel’ erbyn hyn, a ‘caniad’, ‘caban,’ ‘bargen’ a’ blocyn tîn’! Byddai trigolion yr ardal yn arfer defnyddio sŵn y ffrwydradau fel cloc bron iawn, oherwydd roedd y ‘saethu’n  digwydd yn rheolaidd. Clywyd pobol yn dweud pethau tebyg i ‘Mae’n rhaid i mi frysio.. maen nhw wedi saethu yn y chwaral… mae hi wedi un o’r gloch yn barod!” Mae’r term ‘colli limpyn’ yn gysylltiedig â’r chwarel hefyd sef colli’r ‘lynch-pin’ oedd yn cysylltu’r wagenni ar y ‘lein fach’, felly roedd popeth yn mynd yn wyllt ac ar chwâl.

Cafwyd trafodaethau am eiriau ac ymadroddion yn ymwneud â’r tywydd, tân a hyd yn oed ffraeo! Mae haul y gwanwyn, wrth gwrs, yn waeth na gwenwyn, ac mae’r hen ‘wynt diog’ ‘na yn mynd drwyddoch chi yn hytrach nag o’ch cwmpas! Dydi ‘eira ŵyn bach’ ddim yn debygol o barhau’n hir iawn, ac mae gweld eira ar gopaon y mynyddoedd cyn Ffair Llan yn erthylu’r gaeaf, felly gaeaf tyner fydd hi! Mae ‘ffenast bach y Nant’ a charreg sgleiniog yn ardal y Marchlyn Bach yn arwyddion tywydd arbennig iawn yn ôl y sôn. Crybwyllwyd ‘tân oer’, ‘tân siafins’, ‘tân eira’, tân yn picio’, mŵg taro a ’thorri glo mân yn gnapia’. Soniwyd am huddyg, lludw, dynion lludw a lori ludw, - pethau sydd wedi diflannu erbyn hyn. A beth am y dillad fyddai’n ‘deifio’ o’u gosod yn rhy agos at y tân – a’r ‘coesau corn bîff’ a gaech pan fyddech yn sefyll yn rhy agos at y fflamau? Tybed a gawsoch gelpan, twll clust, cefn llaw, chwip dîn, bonclust neu swadan iawn erioed? Mae cymaint o eiriau gennym am ymosodiadau corfforol! Mae rhannau’r corff yn eithaf amlwg mewn enwau strydoedd, tai a phentrefi, e.e. Braichmelyn, Braich Talog, Troed y Rhiw, Pen y Graig, ac un sy’n arbennig iawn i Rachub sef ‘Talcen y Deyrnas’ (Ffordd y Mynydd). 

Diolch yn fawr iawn, Mary, am gyfarfod gwerth chweil! 

Read More
Marian Jones Marian Jones

‘Sgotwrs Lleol’ gan Mr. Bryn Evans

Cyfarfod 29.03.23

Clwb Criced Bethesda

Cafwyd cyfarfod tu hwnt o ddifyr yn y Clwb Hanes yn ddiweddar yng nghwmni Mr. Bryn Evans ‘Bron Arfon,’ oedd yn sôn am y traddodiad pysgota - neu ‘foirio’ yn yr ardal leol. Soniodd am y cyfoeth naturiol sydd gennym o’n hamgylch yma, - yn llynnoedd ac yn afonydd gwych oedd yn llawn pysgod ar un adeg! Ond wrth gwrs, fe hawliodd yr Arglwydd Penrhyn y dyfroedd er mwyn iddo ef a’i ffrindiau cyfoethog gael pysgota ynddynt. Yn naturiol, roedd rhai o’r trigolion lleol yn rhoi cynnig ar ‘botsio’, ond roedd dirwy o £9 yn eu hwynebu pe cawsant eu dal, yn ogystal â cholli eu gwaith yn y chwarel. Yna, crëwyd ‘Cymdeithas Genweirwyr Dyffryn Ogwen’ pan gafodd y trigolion lleol hawl gan Penrhyn i bysgota rhannau o ddyfroedd yr ardal. Cymdeithas oedd hon a oedd yn addysgu ei haelodau i ddefnyddio genwair, cawio plu a thaflu pluen yn gelfydd. Daeth Bryn â nifer o enweiriau a phlu i’w harddangos, a mawr oedd diddordeb yr aelodau ynddynt. 

Yr hyn a oedd yn wych am y noson oedd fod darlith Bryn wedi ysgogi trafodaeth ddifyr ynglŷn â rheolau, cystadlaethau, meintiau a lliwiau pysgod, pontydd a phyllau’r ardal. Roedd yr atgofion yn llifo, a hynny mewn Cymraeg graenus a oedd yn orlawn o dermau gwych o’r byd pysgota. Roedd yn bleser cael gwrando ar y cyfan. Diolchwyd iddo ar ddiwedd y noson gan Mr. Einion Thomas, a gwerthfawrogwyd y cyfan gan y gynulleidfa. Diolch yn fawr iawn Bryn!

Read More
Marian Jones Marian Jones

‘Lleoedd y Dylluan’ gan Mr. Dafydd Fôn Williams

Stad Coetmor 1485-1855

Cyfarfod 22.02.23

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Croesawyd ein siaradwr gwadd, Mr Dafydd Fôn Williams, gan Dr. John Llywelyn Williams, ac yn wir cafwyd darlith anhygoel a oedd yn amlwg yn ffrwyth ymchwil sylweddol iawn! Roedd ‘Lleoedd y Dylluan’ yn ddarlith a oedd yn canolbwyntio ar y sgwaryn o dir sydd rhwng Lôn Bach Odro a’r Lôn Bôst a rhwng Rachub a Phantdreiniog, sef hen ystad Coetmor. Roedd tiroedd ym Mangor, Llanfairfechan a Llanfairpwll, hefyd wedi bod yn rhan o’r stad 1500 acer ar un adeg.

Plasty Coetmor - J. T. Parry

Ceir cyfeiriad at Goetmor yn un o gywyddau Guto’r Glyn ym 1475, ac yn yr un cyfnod, roedd gŵr o’r enw Robert Fychan yn byw yn y plasdy hardd oedd yn bodoli ar safle presennol fferm Coetmor Uchaf. Roedd teulu Robert Fychan yn ddisgynyddion i Llywelyn ein Llyw Olaf, a brawd ei nain yn brif gadfridog i Owain Glyndŵr, sef Rhys Gethin! Felly mae’n amlwg fod cysylltiadau pwysig iawn gan deulu Stad Coetmor ar y pryd! Priododd Mary Coetmor i deulu Pughe o Hen Neuadd y Penrhyn, ardal Llandudno yn y ddeunawfed ganrif. Daeth y teulu hwn i’r amlwg gan mai hwy fu’n gyfrifol am argraffu’r llyfr Cymraeg cyntaf ym 1587 mewn argraffdy cudd yn Ogof Rhiwledyn ar y Gogarth Fach. Roedd y teulu’n cael eu herlid am fod yn Gatholigion, ac yn gorfod cuddio yn yr ogof am gryn amser!

Bu Plasdy Coetmor yn ganolfan fywiog a phwysig iawn am ganrifoedd, ond dan ofal James Coetmor Pughe, dyled ar ôl dyled oedd yn wynebu’r Stad, ac yn y diwedd fe’i llyncwyd gan Stad y Penrhyn. Yn ddiddorol iawn, gellir cysylltu llinach sawl person enwog â theulu Coetmor, gan gynnwys yr Arlywydd Roosevelt, y bardd T. S. Elliot a’r actor Benedict Cumberbatch! Mae hynt a helyntion y teulu anhygoel hwn yn rhy niferus i’w rhestru wrth gwrs, ond mawr obeithiwn y byddwn yn gweld y cyfan yn cael ei gyhoeddi rhwng dau glawr yn y dyfodol! Diolch yn fawr Dafydd!

Read More
Marian Jones Marian Jones

Dr John Elwyn Hughes

Gyda thristwch mawr y derbyniwyd y newydd trist am farwolaeth John Elwyn Hughes.

Pan oeddem yn sôn am gychwyn dosbarth hanes yn Rachub/Llanllechid ei ymateb syth oedd; 'Ar bob cyfrif ewch amdani ac os gallaf fod o gymorth cysylltwch hefo mi.' Do, bu Elwyn Hughes yn 'gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder' i ni dros y blynyddoedd. Byddai ar y rhestr yn flynyddol i roi darlith neu rannu o'i stor o ddarluniau lleol gyda ni.

Dyn ei filltir sgwâr heb os oedd Elwyn Hughes a meddai ar wybodaeth helaeth am ardal Dyffryn Ogwen, ei digwyddiadau, amgylchiadau a chymeriadau lleol. Bu'n barod iawn i rannu ei wybodaeth gyda sawl cymdeithas o fewn y dyffryn a thu hwnt.

Diolch iddo am fod yn gefn i Glwb Hanes Rachub ar hyd y blynyddoedd.

Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu oll yn eu profrdigaeth lem.

Read More
Marian Jones Marian Jones

Hyfforddiant Achub Bywyd

Cyfarfod 08.12.2022

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Gwybodaeth bwysig gan y Rhingyll Arwyn Jones

Cafwyd noson wahanol i’r arfer ar nos Iau yr 8fed o Ragfyr yn Festri Capel Carmel, Rachub. Nid sgwrs am hanesion lleol a gafwyd, ond hyfforddiant gan y Rhingyll Arwyn Jones ar sut i ddefnyddio’r peiriannau ‘diffib’ (neu beiriannau ‘cicio’r galon’ yn ôl rhai).

Erbyn hyn, gwelir llawer o’r peiriannau hyn ledled y wlad, a cheir rhai ohonynt ym Mhlas Ffrancon, ciosg ffôn Rachub, y Clwb Criced, a Stryd Bethesda, ac mae’n wir dweud eu bod yn gallu achub bywydau o’u defnyddio’n iawn. Mae Arwyn Jones wedi bod yn gweithio fel nyrs a swyddog ambiwlans cyn ymuno â’r heddlu, ac mae’n parháu i weithio’n wirfoddol fel ‘Ymatebydd brys,’ felly roedd yn gallu rhoi gwybodaeth yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad. Cafodd yr aelodau roi cynnig ar roi CPR i’r cleifion ffug, a dysgu’r ffordd gywir o wneud hynny, yn ogystal ag astudio’r peiriannau eu hunain.

Roedd y sesiwn yn hynod ddifyr ac yn werthfawr iawn i’r gymuned.

Diolch yn fawr Arwyn!

Read More
Marian Jones Marian Jones

Dylanwadau’r Ardal ar Artist Lleol: Anna Pritchard

Cyfarfod 30.11.2022

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Croesawyd yr artist a’r dylunydd tecstiliau Anna Pritchard i’r Clwb Criced ar noson olaf mis Tachwedd, i sôn wrthym am ei gwaith a’r dylanwadau diddorol arni fel person creadigol.

Cafodd Anna ei magu ar fferm Glasinfryn, ac erbyn hyn mae’n byw gyda’i theulu yn Waun Wen, Glasinfryn. Yn wir, ei chefndir amaethyddol a thraddodiadau cefn gwlad Dyffryn Ogwen sydd wedi dylanwadu fwyaf arni fel artist. Mae ei theulu’n gysylltiedig â’r ardal ers canrifoedd, ac wedi ffermio mewn nifer helaeth o ffermydd lleol, e.e. Blaen y Nant, Dinas, Bronydd, a Choetmor.

Ffermdy Coetmor Isaf -

Ken yw’r hogyn bach.

Dangosodd luniau hyfryd o’i hen deulu yn y mannau hyn a soniodd am eu hen arferion e.e. gwerthu llysiau ar ‘stondinau’ tu allan i’r ffermdai, a defnyddio cart a cheffyl i fynd o gwmpas y lle i gasglu dail, gan eu hailgylchu ymhell cyn i ailgylchu ddod yn ffasiynol!

Irene (nain Anna), Ken ac Annie (hen nain Anna) a Norma Llan (y ferch ifanc).

Mae’r nodweddion amaethyddol, Cymreig, lleol yn hollol amlwg yn ei gwaith gwehyddu. Yr elfen amlycaf yw clustnodau ffermydd y Dyffryn, a gwelwyd hen lyfryn yn ei meddiant o holl glustnodau defaid yr ardal. Ymhlith y rhain roedd nôd clust fferm Llwyn Bedw - fferm sydd erbyn hyn â’i holion o dan stâd newydd o dai dros y ffordd i Faes Bleddyn! Yn ei gwaith, hefyd, gwelir y pileri llechi sy’n nodweddiadol o’r tirlun, yn ogystal â ffyn bugeiliaid, cyrn, gweill a blodau gwyllt cynhenid.

Dangosodd y gynulleidfa ddiddordeb mawr yn y carthenni gwlân lliwgar, a chafwyd trafodaeth hwyliog ar ddiwedd y cyflwyniad.

Diolch yn fawr iawn i ti Anna!

Anna gyda samplau o’i gwaith gwych!

Read More