Wynne Roberts
Ar y 4ydd o Fedi, 2023, daeth y newydd trist am farwolaeth yr hynafgwr hynaws a hanesydd bro, Wynne Roberts, Tregarth, yn 95 mlwydd oed.
Roedd yn gymeriad bywiog tu hwnt, a hyd yn ddiweddar iawn, gellid ei weld yn brasgamu ar hyd yr A5 yn foreol i brynu ei bapur dyddiol ym Methesda. Roedd ei gof am ddigwyddiadau a chymeriadau'r fro yn ddiarhebol ac yn fyw iawn. Daeth y diddordeb yma wrth iddo weithio, pan oedd yn hogyn ifanc, yn efail gof ei dad yn Llanllechid. Yno daeth ar draws llu o gymeriadau ffraeth a diddorol, hwythau gyda'u straeon ac adroddiadau am ddigwyddiadau'r cyfnod. Roedd yn barod iawn i rannu'r straeon hyn gyda chymdeithasau a phobl yr ardal dros y blynyddoedd - diolch am hynny. Yn ffodus parahodd ei gof yn fywiog hyd at y diwedd.
Os byddai'n cyfarfod rhywun dieithr, fel arfer, ei gwestiwn cyntaf fyddai, "Pwy oedd dy dad a'th fam dwad? Wedi derbyn yr enwau byddai'n olrhain achau'r dyn diethr, a byddai yntau'n gadael wedi cael gwers am ei deulu. Wrth ymweld â'i gartref sawl gwaith y clywais ef yn dweud, "Aros yn fanna i ti gael gweld y llun yma". Yna byddai'n mynd i fyny'r grisiau a dod yn ôl gyda llun o ddigwyddiad neu gymeriad lleol.
Roedd yn gybyddus â phob rhan o'r Carneddau ynghyd â'r amaethwyr i gyd, wrth iddo dreulio nosweithiau yn 'hel defaid'. Bu hefyd yn weithgar gyda Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen am flynyddoedd.
Fel y crybwyllwyd eisoes, roedd ganddo gof anhygoel, a hynny a barodd i'r Dr John Llywelyn Williams ddweud amdano, "mai ei gof oedd llyfrgell hanesyddol Wynne". Bu'n Llywydd Cymdeithas Ddiwylliannol Dyffryn Ogwen am flynyddoedd ac yn aelod o Glwb Hanes Rachub. Bydd bwlch mawr ym mywyd hanesyddol yr ardal wedi ei farwoleth, ond y rhai fydd yn teimlo'r bwlch fwyaf fydd y teulu. Anfonwn ein cofion at Paul, Yasmin a'r teulu oll.
Dilwyn Pritchard