‘Byd Natur Lleol a Gwarchodfa Aberogwen’ - Ben Stammers
Cyfarfod 26.03.25
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Croesawyd y naturiaethwr Ben Stammers i Glwb Hanes Rachub, i sgwrsio am ein ‘Byd Natur Lleol a Gwarchodfa Aber Ogwen’. Roedd yn sgwrs hynod ddifyr; sgwrs a gefnogwyd gan nifer helaeth o luniau ar sgrin o bob math o adar ac anifeiliaid sydd i’w canfod yn lleol. Yn ogystal â gweld y lluniau a dynnwyd gan Ben, cawsom y fraint o glywed y siaradwr talentog yn dynwared caneuon gwahanol adar hefyd! Arbennig iawn!
Soniodd am effaith y tymhorau ar ein byd natur, yn ogystal ag effeithiau negyddol newid hinsawdd, newid patrwm ffermio, a newid ffordd o fyw yn gyffredinol – hyn yn cyfrannu at leihad yn niferoedd y rhywogaethau. Ond gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan ffeithiau hynod ddiddorol am arferion rhai anifeiliaid ac adar, gan gynnwys y Ddrudwen, a’i dawn ryfeddol i ddynwared synau: roedd Drudwy yn Rachub yn gallu dynwared cân y Gylfinir, larwm car a hyd yn oed sŵn plant bach yn chwarae ar fuarth Ysgol Llanllechid! Er bod y Fran Goesgoch wedi diflannu o Chwarel Bryn bellach, mae hi’n dal i nythu mewn rhai tyllau yn Chwarel y Penrhyn, a phan fo’r cywion yn deor ac yn tyfu, daw nifer o deuluoedd y Brain Coesgoch â’r rhai bychain at ei gilydd i greu math o ‘feithrinfa’ er mwyn eu dysgu sut i hela a bwyta a.y.b. Clywyd hefyd am Gorhedydd y Waun, aderyn bach cryf, sy’n gallu hedfan a chanu ar yr un pryd, hyd yn oed pan fydd yn cael ei hela! Mae’r ymddygiad hwn yn rhoi neges bendant i’r ysglyfaethwr beidio â meiddio ymosod arno gan ei fod yn rhy gryf o lawer. A beth am y Wennol Ddu? Mae hwn yn aderyn anhygoel, un sy’n byw ei holl fywyd yn yr awyr bron iawn! Mae’n cysgu, bwyta, yfed a chymharu yn yr awyr! Mae’n gorfod dod i lawr i nythu, ac mae’n dal i wneud hynny’n lleol, e.e. yn y blwch nythu sy’n sownd yng Nghapel Carmel.
Trafodwyd hynt a helynt pob math o greaduriaid a gaiff eu gweld yn lleol, o lyffantod a brogaod Llyn Coch i adar diddorol Aber Ogwen. Gwelwyd lluniau o ddraenogod, ysgyfarnogod, pryfed, ac adar ysglyfaethus, heb anghofio’r llun bendigedig o Grëyr Glas yn tor heulo! Mae sgwrs fel hyn yn gwneud i rywun sylweddoli cymaint o fywyd gwyllt sydd o’n hamgylch yn ein hardal hyfryd - a ninnau prin yn sylwi arno!
Diolch, Ben am sgwrs fendigedig; roedd y gynnulleidfa niferus yn werthfawrogol dros ben, a diolch hefyd i Gwen am gyflwyno a chroesawu!