‘Merched y Streic’ - Dr. John Ll. Williams
Cyfarfod 26.02.2025
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Er bod 50% o’r gymdeithas chwarelyddol yn ferched, am hynt a helynt bywydau’r dynion y cofnodwyd fwyaf yn y llyfrau hanes rhwng 1900 a 1903. Ond wrth gwrs, roedd merched gweithgar, gwydn, tlawd, gofalgar yn brysur yn edrych ar ôl eu teuluoedd, ac yn gweithio ddydd ar ôl dydd er mwyn ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd, ond ychydig a wyddwn amdanynt. Gwnaeth J.Ll.W ymchwil manwl iawn i fywydau ac amgylchiadau llawer o gymeriadau benywaidd Bethesda yn y cyfnod dan sylw.
Os oedd cyflogau’r dynion yn ddychrynllyd o isel, roedd cyflogau ‘r merched yn waeth o lawer, ac roedd hyn yn newyddion drwg i ferched di-briod a gwragedd gweddw; roedd gan nifer o’r gweddwon lond tŷ o blant, ac roedd bywyd yn ddifrifol o anodd iddynt. Byddai llawer o’r tlodion hyn yn golchi, smwddio, atgyweirio a gwneud dillad i bobol oedd yn fwy cefnog na nhw, a byddai rhai yn cael gwaith mewn siopau a thafarndai, neu fod yn forynion i ficeriaid a gweinidogion. Roedd chwe gweithdy dillad yn yr ardal yn ogystal â saith gweithdy hetiau, felly mae’n debyg fod nifer o ferched yr ardal yn cael eu cyflogi yn y rhain. Er nad oedd llawer wedi eu hyfforddi’n gymwys, roedd nifer o ferched lleol yn athrawesau ac yn nyrsys - er bod cofnod o athrawesau uniaith Saesneg o lefydd fel Leeds a Crewe, hefyd, wedi bod yn dysgu’r Cymry bach uniaith Gymraeg yn ein hysgolion lleol! Cofnodwyd yn y papur newydd ‘Gwalia’ fod cyngerdd ardderchog wedi ei gyflwyno gan blant Ysgol Glan Ogwen – cyngerdd uniaith Saesneg!
Ond roedd yna arwresau o fath gwahanol ym Methesda yn ystod cyfnod y Streic Fawr hefyd, sef Mary Ellen Parry a’i chôr merched anhygoel! Merched ieuainc di-briod oeddynt, â’u bryd ar godi arian i helpu tlodion yr ardal; buont ar sawl taith hir (tri mis ar y tro) o amgylch Prydain yn cynnal cyngherddau yn nhrefi Lerpwl, Manceinion, Wolverhampton, Birmingham, Salisbury, Gravesend (i enwi dim ond ychydig!), yn ogystal a mewn pentrefi bychain ar hyd a lled y wlad! Byddent yn gwneud tua £1000 o elw ar daith hir, a gwnaeth y côr safonol yma gryn enw iddo’i hun drwy Brydain. Adroddwyd dau englyn gwych am Mary Ellen Parry gan y Prifardd Ieuan Wyn yn ystod y cyfarfod.
Diolch yn fawr John, am gampwaith o ddarlith! Gobeithiwn ei gweld ar wefan ‘Hanes Dyffryn Ogwen’ cyn bo hir! Diolch hefyd i Ieuan am yr englynion ac i Gwen Elis am gyflwyno.