‘Hen Ddaliadau’ - Dafydd Fôn Williams

Cyfarfod 29.01.2025

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Daeth criw da iawn draw i’r Clwb Criced i wrando ar Mr. Dafydd Fôn Williams yn sgwrsio am yr ‘Hen Ddaliadau’. Soniodd fel mae pobol yn cwyno'r dyddiau hyn am golli enwau traddodiadol ar ardaloedd, llwybrau, ffermydd a.y.b., ond o ganlyniad i amrywiol ffactorau, mi fyddai hynny’n digwydd 200 mlynedd yn ôl hefyd. Canolbwyntiodd ar dair ardal benodedig, sef ardaloedd Chwarel y Penrhyn (y ddwy ochr i’r afon) ac ardal Talybont ac Aberogwen, a chyda cymorth sleidiau oedd wedi’u labelu’n eglur, dangoswyd sut a phaham y collwyd yr adeiladau a’r holl enwau gwych.

Roedd cymaint o ffactorau yn effeithio ar y newidiadau a gafwyd yn yr ardal. Wrth gwrs, roedd twf Chwarel y Penrhyn wedi achosi dymchwel nifer o strydoedd ac adeiladau ar ochr Llandygai o’r Afon Ogwen - rhai wedi eu claddu dan y tomennydd llechi, ac eraill wedi eu dymchwel er mwyn creu a sythu ffyrdd. Mae Llyn Meurig (8 acer!) o dan y llechi, yn ogystal â’r Eglwys St. Anne wreiddiol. Bryn Llys oedd ymhlith y tai olaf i gael eu claddu, a cafodd Fferm Coed y Parc (150 acer) ei phrynu gan reolwr y chwarel ar y pryd, ac yntau’n adeiladu tŷ mawr crand iddo’i hun ar y tir, sef Bryn Derwen.

Ym 1818, daeth Telford gyda’i A5 drwy Fethesda, felly roedd rhaid adeiladu mwy o dai, siopau a phob math o adeiladau eraill, (gan gofio am dwf y chwarel) ac wrth gwrs, ffermydd a thir amaethyddol oedd yn gorfod gwneud lle i’r rhain, gan golli mwy o’n henwau lleol - er rhaid dweud bod ambell enw wedi goroesi e.e. Pen y Bryn a Cilfodan.

Bu newidiadau gwahanol iawn yn ardal Talybont ac Aberogwen, pan hawliodd Stad y Penrhyn y tir, codi ‘castell’ a chreu parc 730 acer! Amgylchynwyd yr holl beth gan waliau uchel a thrwchus, rhag i’r werin gyffredin gael gweld beth fyddai’n digwydd yno. Ond diflannu wnaeth y ffermydd bychain a’u henwau gwych fel ‘Maes y Penbwl’, ‘Tyddyn Sachre’, ‘Pwll Budr’, ‘Gwern Porchell’, ‘Nant Gwreiddiog’ a ‘Thyddyn Ceiliog’!

Diolch yn fawr, Dei Fôn, am rannu’r gwaith ymchwil manwl a thrwyadl gyda ni!

Cofiwch am wefannau Dei Fôn ‘Enwau Dyffryn Ogwen’ a ‘Ffermio ym Mhlwyf Llanllechid’. Mae’r rhain yn orlawn o fanylion tu hwnt o ddiddorol!

Previous
Previous

‘Merched y Streic’ - Dr. John Ll. Williams

Next
Next

‘Mynwentydd Dyffryn Ogwen a’r Cyffiniau’ - André Lomozik