‘Mynwentydd Dyffryn Ogwen a’r Cyffiniau’ - André Lomozik

Cyfarfod 27.11.2024

Clwb Criced Bethesda

Daeth André Lomozik draw i’r Clwb Criced yn ddiweddar, i sôn am rai cerrig beddi hynod ddiddorol a ddarganfu wrth grwydro mynwentydd yr ardal. Mae André yn hanesydd tu hwnt o brysur, yn ymchwilydd a chofnodwr heb ei ail, a diolchwyd iddo gan Dilwyn Pritchard am ei ran flaenllaw gyda’r criw a fu’n trefnu arddangosfa 50 mlwyddiant Llais Ogwan.

Mae 12 mynwent yn yr ardal, a darganfuwyd hanesion diddorol ym mhob un ohonynt. Roedd lluniau o gerrig beddi ‘gwahanol’ gan André ar y sgrin, yn ogystal â lluniau o rai o’r cymeriadau eu hunain. Cafwyd rhywfaint o hanes y cerddor ‘Asaph Bethesda’ a gladdwyd ym mynwent Sant Cedol ym Mhentir, a’r angladd mawreddog a gafodd – gyda’r mwyaf a welwyd erioed yn yr ardal! Cyfeiriwyd at y llenor a’r pregethwr E. Tegla Davies, awdur ‘Nedw’ a ‘Hunangofiant Tomi’ a gladdwyd yn y Gelli, Tregarth, yn ogystal â Huw Derfel Hughes (taid Syr Ifor Williams) awdur ‘Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid’. Yn St. Anne’s ceir bedd Edwyn Cynrig Roberts, gŵr a aeth i Batagonia bell er mwyn gwneud paratoadau ar gyfer criw’r ‘Mimosa’, bedd William Hugh Williams is-lywydd Undeb y Chwarelwyr, a William Jones druan, prifathro Ysgol Tŷ’n Tŵr a fu farw yn 36 oed wedi gwaeledd hir. Ym Methlehem Talybont, claddwyd yr enwog gerddor a phregethwr, Tanymarian, ac ynghanol y cannoedd yng Nghoetmor, mae bedd bychan Beti Wyn, sef merch fach y bardd J.T. Jôb. Mae hanes Eglwys Robertson yn eithaf unigryw, gan fod teulu gŵr ifanc a fu farw wedi damwain ar y Glyder Fach, wedi talu i godi’r eglwys er cof amdano. Mae carreg fedd Donald Robertson yn wynebu’r Glyder Fach – cyfeiriad hollol wahanol i weddill y beddau. Yno hefyd mae beddau Syr Idris Foster a Caradog Pritchard, tra bod bedd y cerddor R. S. Hughes ym mynwent Eglwys Glan Ogwen. Dim ond lle i ychydig o’r hanesion sydd yma – roedd llawer mwy gan André!

Diolch André am y sgwrs hynod ddifyr, ac am y gwaith diflino yn casglu a chofnodi hanes y Dyffryn.


Previous
Previous

‘Hen Ddaliadau’ - Dafydd Fôn Williams

Next
Next

Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd - Mair Read