Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd - Mair Read

Cyfarfod 30.10.24

Clwb Criced Bethesda

Croesawyd Mair Read a Dwynwen Mather draw i’r Clwb Criced yn ddiweddar i sôn am ‘Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd’. Cymdeithas yw hon a sefydlwyd ym 1980 i gofnodi a threfnu dogfennau o ddata hanesyddol sy’n gysylltiedig ag ardaloedd Môn, Arfon a Meirion, er mwyn cynorthwyo pobol i ddarganfod hanes teuluol. Mae ganddynt fynediad at ddogfennau cyfrifiad, cofrestrau plwyf, rhestrau genedigaethau, priodasau a marwolaethau lleol, yn ogystal ag ewyllysiau! Maent yn dibynnu ar drigolion lleol i gynorthwyo gyda rhannau helaeth o’r gwaith, a rhoddwyd teyrnged arbennig i Andre Lomozik am ei waith trylwyr yn cofnodi arysgrifau cerrig beddi’r ardal. Mae’r gymdeithas yn cyfarfod yn fisol yn Llyfrgell Caernarfon, ac maent yn cyhoeddi cylchgrawn yn rheolaidd. Maent bellach wedi sefydlu gwefan, a gellir gweld holl fanylion eu prosiectau ar y wefan honno. Diolch yn fawr i Mair a Dwynwen am ddod a chynifer o ddogfennau gyda nhw i’r cyfarfod. Bu trafod mawr ar ddiwedd y cyfarfod, a nifer helaeth wedi cael modd i fyw yn ymchwilio drwy’r dogfennau!

Previous
Previous

‘Mynwentydd Dyffryn Ogwen a’r Cyffiniau’ - André Lomozik

Next
Next

‘Brad y Llyfrau Gleision’ - Shân Robinson