‘Brad y Llyfrau Gleision’ - Shân Robinson

Cyfarfod 18.09.2024

Clwb Criced Bethesda

Shân Robinson

Cyflwynwyd ein siaradwraig wadd, Shân Robinson, gan Gwen Ellis. Testun sgwrs Shân oedd ‘Brad y Llyfrau Gleision’.

Adroddiad oedd  yn y ‘Llyfrau Gleision’ am gyflwr Addysg yng Nghymru  a gyhoeddwyd gan dri Sais – Johnson, Lingen a Symmonds ym 1847. Deuai’r rhain o blith academyddion prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Doedd gan yr un ohonynt gefndir ym myd addysg o ran swyddi, doedd gan yr un ohonynt wybodaeth am Gymru na’i thraddodiadau, ac roedd y tri yn eglwyswyr rhonc. Wrth gwrs roedd y rhain yn hollol wahanol i drigolion Cymru - gwerinol, Cymraeg eu hiaith – a’r mwyafrif ohonynt yn  gapelwyr!

Roedd pob un yn gofalu am ysgolion mewn gwahanol rannau o Gymru, a deuent i ddosbarthiadau’r Cymry bach uniaith gan ofyn iddynt ddarllen adnodau anodd o’r Beibl yn Saesneg, yn ogystal â gofyn iddynt wneud symiau ‘tynnu’ yn eu pennau e.e. 4372 tynnu 2658= a hynny, nid yn unig yn gyflym ond mewn iaith ddieithr! Gofynnwyd iddynt adrodd rhannau o’r catechism eglwysig hefyd, ond wrth gwrs, doedd gan y plant ddim syniad o’r hyn oedd yn digwydd gan nad oeddent yn deall yr iaith, nag yn gwybod dim am arferion a defodau’r Eglwys! Felly daeth yr holl system dan feirniadaeth lem, a phobol Cymru a’r Gymraeg oedd yn cael eu beio gan yr arolygwyr dieithr hyn am ddiffyg safonau’r disgyblion.

Rhaid cyfaddef nad oedd yr amodau dysgu yn addas. Yn aml cynhelid ysgolion mewn cytiau ac ysguboriau â’u lloriau’n fwd. Roedd yr athrawon yn aml yn gyn- filwyr oedd wedi eu hanafu, a heb dderbyn llawer o addysg eu hunain.  Ond roedd hyn yn wir am ysgolion mewn rhannau o Loegr a’r Alban hefyd! Y gwahaniaeth mawr oedd y Gymraeg – iaith nad oedd y ‘gwybodusion’ yma yn gallu ei deall – felly roedd rhaid cael gwared arni!

Cafwyd arolwg yn Ysgol (yr Eglwys) Rachub, Ysgol Tŷ’n Tŵr, a dwy Ysgol Llandygai (bechgyn a merched ar wahân). Roedd plant Ysgol Rachub yn swnllyd a di-drefn, yr athro yn gyn-forwr – heb ei hyfforddi. Doedd plant Ysgol Tŷ’n Tŵr yn gwybod fawr ddim, ac roedd yr athro’n gas iawn. Ond wrth gwrs, roedd ysgolion Llandygai yn cael marciau llawn oherwydd eu defnydd o’r Saesneg a’u cysylltiad cryf â’r Eglwys a theulu’r Penrhyn.

Roedd yr ieithwedd a ddefnyddiwyd yn y Llyfrau Gleision yn anfaddeuol! Mae’n dal i frifo hyd heddiw! Mae’r effaith i’w weld hyd heddiw! Cawsom, fel Cymry ein galw’n gelwyddog, yn fudur, yn greulon, yn dwyllwyr, yn ddiog, yn ddrwg ac anfoesol ymhlith nifer o bethau eraill!

Diolch Shân am sgwrs mor bwerus! Mae’n rhyfeddol ein bod yn dal i siarad Cymraeg!

Previous
Previous

Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd - Mair Read

Next
Next

'Arferion Trin Merlod Mynydd Llanllechid' gan Eifion Hughes