‘Stori a Chân’ - Hogia’r Bonc

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Cyfarfod 30.04.25

I gloi tymor hynod lwyddiannus o gyfarfodydd Clwb Hanes Rachub, daeth Hogia’r Bonc i’n difyrru gyda phentwr o hanesion am eu teithiau’n perfformio i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, yn ogystal â detholiad o’u caneuon mwyaf poblogaidd. Y cyn aelod, Rhys Llwyd gyda chymorth Alun y gitarydd oedd yn dweud yr hanes, ac mae’n anodd credu bod y grŵp wedi ei sefydlu ers Hydref 1998 gan berfformio yn lleol ar y cychwyn, mewn llefydd fel y Caban Gerlan, Y Clwb Criced, cartrefi hen bobl, capeli a.y.b. O dipyn i beth, daeth y galwadau ar yr hogia’ i berfformio yn fwy niferus, felly roedd rhaid cael mwy o ganeuon, ac wrth lwc, roedd Menai Williams cyn arweinyddes Côr y Penrhyn yn ddigon bodlon trefnu’r gerddoriaeth ar eu cyfer. Hefyd, deuai galwadau o ardaloedd eraill yng Nghymru, felly daeth D. P. Owens Rhiwlas i’r adwy, gyda’i ‘Fysys Gwyrdd’. Cafwyd cryno ddisg yn 2001, sef ‘Y Rheol Bump’, a oedd yn llwyddiant mawr, yn enwedig yn nhafarn ‘Y Tap’ ym Mlaenau Ffestiniog, lle clywyd caneuon Hogia’r Bonc drwy’r dydd POB dydd ar un adeg! Cafwyd storїau difyr am eu hymweliadau niferus â Blaenau, Aberdaron, Llandegfan, Glynllifon, a Mart Bryncir ymhlith llawer o lefydd eraill, heb sôn am eu helyntion yng Nghaerdydd, Pontypridd (ar ôl darganfod bod hanner eu hoffer sain wedi ei adael ar ôl ym Methesda!) ac Iwerddon 2003 - pan gyfeiriwyd atynt gan griw o ferched fel ‘boy band’!

Yng nghanol yr holl ganu a rhialtwch, ni ellir anghofio fod Hogia’r Bonc wedi codi cannoedd os nad miloedd o bunnau dros y blynyddoedd tuag at elusennau ac achosion da lleol, felly diolch i’r aelodau gwreiddiol sef Rhys, Alun, Ieu, Walter, Gwyn, Brian, Tom a’r diweddar Phil Watts ac Eilir Jones am gychwyn yr holl sioe, ac yna i’r aelodau a ymunodd wedi hynny sef Gareth Post, Derek, Alwyn, Brynmor, Bryn, Maldwyn, Henryd y feiolinydd a Gareth y drymiwr.

Daethpwyd â’r cyfarfod i ben yn y ffordd arferol, sef PAWB yn canu (a ‘reidio’) ‘Hen Feic Peniffardding’ dan arweiniad Tom ar ben y bwrdd wrth gwrs! Diolch hogia’ am noson werth chweil!

Hwyl y Noson

Pigion o’r Hanes

Next
Next

‘Byd Natur Lleol a Gwarchodfa Aberogwen’ - Ben Stammers