‘Twristiaeth yn Eryri’ - Bob Morris
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Cyfarfod 24.09.25
‘Twristiaeth yn Eryri’ oedd testun sgwrs yr hanesydd, darlithydd a’r awdur Bob Morris yng nghyfarfod agoriadol tymor newydd Clwb Hanes Rachub. Dangosodd, drwy ddangos toreth o sleidiau, beth oedd patrwm tyfiant twristiaeth yn Eryri dros y canrifoedd. Y cyfuniad o dirwedd hardd, adeiladau hanesyddol a diwydiannau diddorol oedd yn denu pobl gefnog o bob rhan o Brydain; yn eu plith roedd artistiaid, beirdd a llenorion – a’u gwaith yn cael ei ledaenu drwy wledydd Prydain a thu hwnt. Felly roedd pobl eisiau gweld testun y tirluniau a’r cerddi drostynt eu hunain, ac roedd y cyfoethocaf yn eu mysg yn gallu fforddio teithio i weld mynyddoedd, rhaeadrau, chwareli, traethau a chestyll a.y.b. Dechreuwyd adeiladu gwestai i’r rhain gan gyflogi nifer o bobol. Roedd gwyddonwyr a botanegwyr wedi darganfod ein mynyddoedd, ac roeddynt hwy angen eu harwain i fannau diarffordd arbennig – felly roedd rhaid manteisio ar wybodaeth y trigolion lleol, a thalu iddyn nhw am eu gwaith. Fel y tyfodd y diwydiant, roedd rhaid cael gwell ffyrdd - yn enwedig mewn rhai rhannau o’r ardal e.e. roedd y ffordd heibio Penmaenmawr mor beryglus, byddai pobl yn cyrraedd Conwy ac yn mynd ar gwch i Fangor rhag mentro eu bywydau wrth deithio o gwmpas y maen mawr! Yna, gyda dyfodiad pont Stevenson, a’r trenau, newidiodd y diwydiant ymhellach; erbyn hyn roedd mwy o bobol yn gallu teithio, nid dim ond y rhai mwyaf breintiedig o’r gymdeithas. Cafwyd trên i ben yr Wyddfa, ac adeiladwyd pob math o gytiau ar y copa er mwyn i’r cerddwyr gael aros dros nos!
Roedd cymaint o fanylion a gwybodaeth yn y sgwrs hon gan Bob Morris, roedd y gynnulleidfa (dros 40 mewn nifer) wedi eu cyfareddu, - a nifer fawr wedi sylwi nad oedd ganddo damaid o bapur na nodiadau o unrhyw fath! Diolch yn fawr Bob - sgwrs arbennig!