Hwyl a Helynt Ffair Llan
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Cyfarfod 29.10.25
Tachwedd 29 – nid yn unig noson cyfarfod Clwb Hanes Rachub oedd hon, ond noson Ffair Llan! Felly doedd dim amdani ond trin a thrafod yr hen ffair, a hynny o’r ddeunawfed ganrif hyd heddiw! Mae Ffair Llan yn hen iawn; mae sôn fod ffair yma ers pan oedd Ieuan Brydydd hir yn giwrad yn Eglwys Llan - a hynny ym1766! Yn ôl un awdur, byddai (bryd hynny) bron i bob tŷ yn yr ardal yn dafarndy didrwydded, heblaw am ‘drwydded y ‘gangen gelyn’ uwchben y ddôr.’ Byddai’n arferiad rhoi torch o ddail celyn neu eiddew ar ddrws tŷ ar adeg gŵyl, i ddangos fod cwrw ar gael yno, yn ogystal â chroeso bythwyrdd!
Yn y dyddiau a fu, ‘doedd rhai pobl ddim yn hapus fod ieuenctid yn mynd i’r ffair - yn enwedig merched; mewn un erthygl, honnir mai lladron a phuteiniaid oedd yn mynychu’r lle! Cawsai cerddorion talentog eu diarddel o gorau am fynd i’r ffair, gan fod yr arferiad yn dod rhyngddynt â’u crefydd!
Bu achos o ddynladdiad yn y ffair ym 1820, pan ymosodwyd yn fileinig ar un o weision Talsarn, nes iddo farw ymhen deuddydd. Tri gŵr lleol oedd y rhai euog a enwyd yn y papur newydd! Mae llawer o hanesion i’w cael am Ffair Llan, a ceir mwy o gynnwys y cyflwyniad ar y wefan hon o dan ‘Hanesion/Ffair Llan’ yn fuan.
Roedd yn gyflwyniad bywiog a difyr. Cyflwynwyd y siaradwyr gan Gwen Ellis, ac arweiniwyd y cyfarfod gan André Lomozik. Darllenwyd nifer helaeth o erthyglau, atgofion, adroddiadau papur newydd, cerddi a chaneuon gan Gaynor Ellis Williams a Mary Jones (Meri Eds) - perfformiadau o’r radd flaenaf! Diolch yn fawr iawn iddynt am gyflwyniad gwerth chweil.
Mary, Andre a Gaynor - cyflwynwyr a darllenwyr y noson.