‘Straeon y Ddeiseb’ - Angharad Tomos
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Cyfarfod 26.11.25
Pleser mawr oedd cael croesawu yr awdures a’r ymgyrchwraig Angharad Tomos i’n plith i drafod ‘Straeon y Ddeiseb’, sef Deiseb Heddwch y Merched 1923.
Ym 1923, yn dilyn cyfnod dychrynllyd y Rhyfel Byd Cyntaf, ysbrydolwyd nifer o ferched Cymru i gychwyn ymgyrch nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen dros heddwch byd. Llofnododd bron i 400,000 o ferched drwy Gymru gyfan, ddeiseb yn galw am i America ymuno, ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd. Trefnwyd y ddeiseb mewn modd gofalus a thrwyadl fel bod cymaint a phosib o ferched Cymru dros 18 oed yn cael cyfle i’w harwyddo. Roedd ymgyrch Deiseb Heddwch y Merched 1923 yn ymdrech wir ryfeddol oedd yn cynnwys bron pob cartref yng Nghymru, gydag ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gyda chymorth trefnwyr sir a chymuned. Aethpwyd â’r ddeiseb gyfan mewn cist dderw fawr draw i’r Unol Daleithiau i’w chyflwyno i’r Arlywydd Coolidge,ond yn anffodus, ni chafwyd ymateb cadarnhaol i’r ymgyrch. Cadwyd y cyfan yn Amgueddfa’r Smithsonian yn Washington tan yn eithaf diweddar. Yn 2014, drwy hap a damwain, darganfuwyd clawr dogfen oedd yn ymwneud â’r ddeiseb, a dyna pryd ddaeth yr hanes yn ôl i olau dydd!
Mae nifer fawr o bobl yn lleol, wedi darganfod enwau neiniau a hen neiniau ar y rhestr – rhai yn haws i’w darganfod nag eraill, Wedi’r cyfan, roedd pob teulu yng Nghymru wedi cael ei effeithio gan yn Rhyfel Byd Cyntaf, a chri’r gwragedd, chwiorydd a mamau gaed yma, yn ceisio cysylltu â merched America a’r byd heb fod yn dreisgar na gwleidyddol.’HEDD NID CLEDD’.
Mae’r hanes ar gael yn y llyfr:
Yr Apêl / The Appeal Gol. Mererid Hopwood a Jenny Mathers, Gwasg y Lolfa, 2023, dwyieithog ISBN: 9781800993822
Diolch yn fawr iawn Angharad, am ddod â’r hanes i’n sylw, ac am fod mor barod i ymteb i sylwadau ar ddiwedd y sesiwn.