‘Bethesda yn y 19eg Ganrif’ - Dafydd Fôn Williams

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Cyfarfod 28.1.26

Yn wreiddiol, Mrs. Helen Holland oedd i fod i annerch y Clwb Hanes ar y 28ain o fis Ionawr, ond gyda thristwch mawr, daeth y newyddion am farwolaeth mam Helen lai na phythefnos cyn hynny. Rydym ni fel aelodau’r Clwb yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf yn ogystal â’n cofion cynnes at Helen.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr. Dafydd Fôn am gamu i’r adwy mor ddidrafferth. Roedd ganddo sgwrs wych am fywyd yn yr ardal yn y 19eg ganrif. Gwyddai pawb eisoes am y gymdeithas glòs, chwarelyddol, ddiwylliannol a chrefyddol a fodolai ym Methesda yn y cyfnod hwnnw, gan fod llawer iawn o gofnodion yn bodoli gan gymdeithasau’r capeli a.y.b., ond faint o gofnodi a fu ar hanesion ‘yr ochr arall’ fel petai? Faint sy’n gwybod am fywyd yn y tafarndai, arferion drygionus, afiechydon a chyflwr cartrefi’r trigolion?

Oherwydd datblygiad y Chwarel, tyfodd ardal Bethesda’n anhygoel o gyflym, nes erbyn 1881, roedd dros 9 mil o bobol yn byw yma. Cymysgedd o bobol oedd y rhain, a ddeuai o ardaloedd lleol yn ogystal ag o bobman ym Mhrydain ac Iwerddon gyda’r gobaith o gael gwaith, a fyddai’n arwain tuag at fywyd gwell. Ymysg y rhain, roedd gweithwyr corfforol, masnachwyr, crefftwyr, twrneiod a phobl o bob math o alwedigaethau. Roedd y gweithwyr ‘Dosbarth Canol’ yn gallu fforddio adeiladu tai eu hunain, ond roedd y tlodion niferus yn byw mewn amodau dychrynllyd iawn. Y rheswm am hyn oedd nad oedd pentref Bethesda’n barod am y twf aruthrol yn y boblogaeth leol, felly roedd y mewnfudwyr i’r ardal yn byw mewn pob math o adeiladau, o selerydd llaith a thywyll i adeiladau fferm, tai gwael a gorlawn, a’r rheiny heb le chwech!

Canlyniad hyn, wrth gwrs oedd bod salwch yn cael ei achosi gan effaith carthion dynol yn yr afonydd ac ar y strydoedd. Byddai cigyddion yn taflu gweddillion gwartheg a moch i’r afon, ac roedd yr ardal yn ddifrifol o ddrewllyd! Ac ar ben hynny, roedd carthion anifeiliaid yn broblem,- roedd ceffylau ymhobman a nifer o bobol yn cadw moch oherwydd eu bod wedi arfer gwneud hynny yn eu cartrefi blaenorol. Ond daeth y ‘Bethesda Improvement Act’ i fodolaeth ym1854 er mwyn sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu gyda systemau carthffosiaeth ddigonol, ond mae’n debyg fod y gwaith wedi cymryd amser hir iawn i’w gyflawni.

Roedd manylder yr ymchwil yma’n ein galluogi i gael rhyw flas gwahanol ar hanes ein hardal yn y cyfnod dan sylw. Yn anffodus, does dim lle yma i sôn am dafarn answyddogol ‘Y Nefoedd Fach’ na’r hyn oedd yn digwydd ynddi; dim lle chwaith i sôn am gymeriadau fel Pegi Rhys, ‘Beti Ffortiwn’ na defod echrydus ‘y Ceffyl Pren’. Mi fydd y rhain yn siŵr o ymddangos ar wefan Dei Fôn cyn bo hir!

Diolch o galon i Dei am y sgwrs yn ogystal ag ymchwil mor fanwl! Chwip o ddarlith!

Next
Next

‘Straeon y Ddeiseb’ - Angharad Tomos