‘Cofeb i’r Bechgyn’ gan André Lomozik
Y tu mewn i Eglwys St. Llechid mae cofeb wedi'i gosod ar un o furiau’r eglwys yn coffáu bechgyn a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma'r hyn sydd wedi'i ysgrifennu arni:
Dros Ryddid a Chyfiawnder er Gogoniant i Dduw a Pharchus Gof am y gwyr o’r Eglwys hon a aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr, Awst 4ydd 1914 – Tach. 11eg 1918.
ROBERT LL. DAVIES, R.W.F., Suvla Bay Hyd. 26ain 1915.
GRIFFITH HUGHES, R.W.F., Mamets Wood Gor. 10fed, 1916.
JOSEPH O. MORGAN, R.W.F., Ypres, Awst 28ain, 1917.
DAVID THOMAS, Welsh, Salonica, Medi 18fed, 1918.
“Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion” Ioan xv, 13. Codwyd y Gofeb hon gan Eglwyswyr Llanllechid.
Gŵr ifanc 33 mlwydd oed, oedd Robert Llewelyn Davies, pan laddwyd ef yn Suvla Bay. Gadawodd weddw a merch i alaru amdano, sef Ellen a Mary Grace. Bu trychineb arall i hanes y teulu pan laddwyd Ellen mewn ymosodiad gan y gelyn yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ar y 24ain, o Fedi, 1940.
Priod Grace Hughes, 7, Tanybwlch Rd. oedd Griffith Hughes, pan syrthiodd ar faes y gad yn 26 mlwydd oed. Mae wedi ei goffáu ar gofeb Thiepval, Ffrainc.
Mab John a Mary J. Morgan oedd Joseph O. Morgan, 23 mlwydd oed pan fu farw yn Ypres, Ffrainc. Roedd y teulu yn byw yn rhif 19 Mountain Rd. Llanllechid, yn ôl y manylion ar garreg fedd y teulu yn y fynwent, ond ar y gofeb yn New Irish Farm Cemetery, gwlad Belg, mae’r canlynol wedi ei ysgrifennu:
Son of John and Mary Morgan, of 22, Mountain Rd., Llanllechid, Bangor.
Mab i Richard a Catherine Thomas, Hen Barc, oedd David. Bu farw ei fam rai blynyddoedd cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, yn 41 mlwydd oed. Lladdwyd David yn Salonica, gwlad Groeg, yn 31 oed. Dyma lun o’i garreg fedd yn Doiran Military Cemetery, Groeg. Rhoddwyd y darn bach o lechen o Chwarel y Penrhyn ar ei fedd gan Bryn Thomas, aelod o deulu David Thomas, rai blynyddoedd yn ôl, pan fu ar bererindod i weld bedd David.
Eglwys Fechan ar Lethrau Moel Faban
Ar lethrau Moel Faban yn ardal Waen Bryn, mae olion eglwys fechan yn ogystal ag un neu ddau o adeiladau eraill. Mae’r eglwys wedi ei lleoli’n agos i’r llwybr sy’n mynd o Lanllechid i Aber, heb fod ymhell o Afon Llan, a chyfeirir at y llwybr hwn fel ‘Llwybr yr Offeiriad’. Ceir nifer helaeth o amrywiadau ar enw’r eglwys – Llanerchyn, Llanyrchyn, Llan Iyrchyn, a Llanylchi!
Mae nifer o haneswyr lleol wedi cofnodi gwybodaeth am yr eglwys dros y blynyddoedd, a cheir manylion diddorol gan bob un ohonynt.
Dyma ran o erthygl gan 'Teithydd' a ymddangosodd yn 'Y Brython' ym mis Mai 1860:
Daw’r erthygl ganlynol, gan E. Owen, o ‘Archaeological Cambrensis’ ym mis Gorffennaf 1882.
Ceir cofnod gan Hugh Derfel Hughes yn ‘Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid’ (1866):
‘Llanerchyn, neu Llan Iyrchyn yng Nghwm Ocwm oddiar Chwarel Bryn Hafod y Wern, a berthynai o bosibl i’r cynoesoedd, er fod rhyw ad-drefniad wedi bod ar y lle, fel y dengys amryw olion tai ysgwar sydd yno eto, ynghyd a gweddillion eglwys. Tybir mai y Rhufeiniaid a ddysgodd i’n cyndadau wneyd tai ysgwar. Hwyrach fod yr olion tai ysgwar ynghyda hen furddyn sydd gerllaw yn cael ei alw yn ‘Dŷ Rolant Pen Pres’, (oddi wrth ei helmet) yn dangos fod a wnelai y canoloesoedd â’r lle.’
Hefyd, ceir cofnod gan Anne R. Jones yn ‘Lloffion o Hanes Plwyf Llanllechid’.
Mae Dr. John Ll. Williams yn nodi union fan yr eglwys ar ei wefan ‘Hanes Dyffryn Ogwen’ yn ei erthygl ar Giltwllan 2017, ac os ewch ar y wefan cewch wybod am fwy o eglwysi cyffelyb yn yr ardal!
Mae tri adeilad hefyd ar safle eglwys Llanerchyn a leolir ar lan un o flaen-ffrydiau Afon y Llan i’r dwyrain o Chwarel Bryn Hafod y Wern (cyfeirnod grid Arolwg Ordnans SH 637690). Mae dau o’r adeiladau hyn yn gyflawn, adeiladau hirsgwar oddeutu 8 medr wrth 5.5 medr (9 wrth 6 llath) mewn maint. Mae’r trydydd, sef tŷ’r offeiriad, i’r de o’r afon yn fwy drylliedig ac wedi’i drosi yn gorlan.
Mewn cyfraniad i wefan ‘Hanes Dyffryn Ogwen’ (J.Ll. Williams) yn 2019, mae Dafydd Fôn Williams yn dangos y cysylltiad posib rhwng yr eglwys fechan â’r enw ‘Bwlch Molchi’:
O ble daeth y ‘Molchi, felly? Nodir, mewn mwy nag un ffynhonnell, fod eglwys fechan wedi ei lleoli ychydig yn is na’r bwlch, ar Waen Bryn. Roedd olion o’i muriau adfeiliedig yno yn oes William Williams, a thros hanner canrif wedyn yng nghyfnod Hugh Derfel. Enw’r eglwys honno oedd Llanyrchyn, neu Llanylchi ( mae R ac L yn cyfnewid yn aml yn y Gymraeg ). Hawdd gweld sut y byddid wedi galw’r bwlch wrth enw’r eglwys oedd yn ei ymyl. Yn wir, dyna oedd yr enw yng nghyfnod William Williams, asiant y Penrhyn, ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
‘At the north end of this hill ( Moel Faban ) is a hollow, or chasm, called Bwlch Llanyrchyn’.
Fel y nodwyd, roedd amrywiad ar yr enw, sef Llanylchi. Hawdd gweld Bwlch Llanylchi yn mynd yn Bwlch Ynylchi, a, phan gollwyd y cof am yr eglwys, troes y gair anghyfarwydd ‘ynylchi’ i’r gair oedd yn gyfarwydd i’r trigolion, sef ‘ymolchi’, a’i ffurf lafar ‘ molchi’.