Eglwys Fechan ar Lethrau Moel Faban

Ar lethrau Moel Faban yn ardal Waen Bryn, mae olion eglwys fechan yn ogystal ag un neu ddau o adeiladau eraill. Mae’r eglwys wedi ei lleoli’n agos i’r llwybr sy’n mynd o Lanllechid i Aber, heb fod ymhell o Afon Llan, a chyfeirir at y llwybr hwn fel ‘Llwybr yr Offeiriad’. Ceir nifer helaeth o amrywiadau ar enw’r eglwys – Llanerchyn, Llanyrchyn, Llan Iyrchyn, a Llanylchi!

Mae nifer o haneswyr lleol wedi cofnodi gwybodaeth am yr eglwys dros y blynyddoedd, a cheir manylion diddorol gan bob un ohonynt.

Dyma ran o erthygl gan 'Teithydd' a ymddangosodd yn 'Y Brython' ym mis Mai 1860:

Daw’r erthygl ganlynol, gan E. Owen, o ‘Archaeological Cambrensis’ ym mis Gorffennaf 1882.

Ceir cofnod gan Hugh Derfel Hughes yn ‘Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid’ (1866):

‘Llanerchyn, neu Llan Iyrchyn yng Nghwm Ocwm oddiar Chwarel Bryn Hafod y Wern, a berthynai o bosibl i’r cynoesoedd, er fod rhyw ad-drefniad wedi bod ar y lle, fel y dengys amryw olion tai ysgwar sydd yno eto, ynghyd a gweddillion eglwys. Tybir mai y Rhufeiniaid a ddysgodd i’n cyndadau wneyd tai ysgwar. Hwyrach fod yr olion tai ysgwar ynghyda hen furddyn sydd gerllaw yn cael ei alw yn ‘Dŷ Rolant Pen Pres’, (oddi wrth ei helmet) yn dangos fod a wnelai y canoloesoedd â’r lle.’

Hefyd, ceir cofnod gan Anne R. Jones yn ‘Lloffion o Hanes Plwyf Llanllechid’.

Mae Dr. John Ll. Williams yn nodi union fan yr eglwys ar ei wefan ‘Hanes Dyffryn Ogwen’ yn ei erthygl ar Giltwllan 2017, ac os ewch ar y wefan cewch wybod am fwy o eglwysi cyffelyb yn yr ardal!

Mae tri adeilad hefyd ar safle eglwys Llanerchyn a leolir ar lan un o flaen-ffrydiau Afon y Llan i’r dwyrain o Chwarel Bryn Hafod y Wern (cyfeirnod grid Arolwg Ordnans SH 637690). Mae dau o’r adeiladau hyn yn gyflawn, adeiladau hirsgwar oddeutu 8 medr wrth 5.5 medr (9 wrth 6 llath) mewn maint. Mae’r trydydd, sef tŷ’r offeiriad, i’r de o’r afon yn fwy drylliedig ac wedi’i drosi yn gorlan.

Mewn cyfraniad i wefan ‘Hanes Dyffryn Ogwen’ (J.Ll. Williams) yn 2019, mae Dafydd Fôn Williams yn dangos y cysylltiad posib rhwng yr eglwys fechan â’r enw ‘Bwlch Molchi’:

O ble daeth y ‘Molchi, felly? Nodir, mewn mwy nag un ffynhonnell,  fod eglwys fechan wedi ei lleoli ychydig yn is na’r bwlch, ar Waen Bryn. Roedd olion o’i muriau adfeiliedig yno yn oes William Williams, a thros hanner canrif wedyn yng nghyfnod Hugh Derfel. Enw’r eglwys honno oedd Llanyrchyn, neu Llanylchi ( mae R ac L yn cyfnewid yn aml yn  y Gymraeg ). Hawdd gweld sut y byddid wedi galw’r bwlch wrth enw’r eglwys oedd yn ei ymyl. Yn wir, dyna oedd yr enw yng nghyfnod William Williams, asiant y Penrhyn, ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

‘At the north end of this hill ( Moel Faban ) is a hollow, or chasm, called Bwlch Llanyrchyn’.

Fel y nodwyd, roedd amrywiad ar yr enw, sef Llanylchi. Hawdd gweld Bwlch Llanylchi yn mynd yn Bwlch Ynylchi, a, phan gollwyd y cof am yr eglwys, troes y gair anghyfarwydd ‘ynylchi’ i’r gair oedd yn gyfarwydd i’r trigolion, sef ‘ymolchi’, a’i ffurf lafar ‘ molchi’.


Previous
Previous

Carnifal Rachub