Ffair Llan
Dyma hen rigwm am Ffair Llan. Mae'n debyg bod sawl fersiwn ar gael. Wyddoch chi am un arall?
Ffair y Llan yn nesu
Teisen wedi’i chrasu.
Peint o gwrw o flaen y tân,
A ledis bach yn canu.
Diolch i Andrè Lomosik am anfon y lluniau canlynol o gymeriadau’r ardal yn Ffair Llan, tua 1997/98.
Dyma ddarn allan o ‘Cofio’r Gorffennol’ gan John Alun Roberts, a ymddangosodd yn Llais Ogwan ym mis Hydref 1980.
Cofiwch mai yn ystod y 1920au fyddai John Alun yn mynychu’r ffair – mae natur y stondinau wedi newid cymaint ers hynny!!!
FFAIR LLAN
Un o ddyddiau mawr y flwyddyn oedd diwrnod Ffair Llan. Bu ffair yn Pesta a Thalybont, ond marw fu hanes y ddwy yma, ond daliodd Ffair Llanllechid yn ei bri hyd heddiw. Casglu ceiniogau am wythnosau cynt, gwenu yn barchus ar bobl nad oedd rhywun ond wedi prin edrych arnynt ar hyd y flwyddyn. Yn ein barn ni, gan Willian Morris, Coetmor Cottage oedd yr India Rock gorau o ddigon. Ceiniog oedd y tâl am “Pull Away”, ac os byddai rhywun yn ddigon lwcus, gellid cael darn gwerth llawer mwy na cheiniog yn wobr. Byddai John Pari Plas Ucha wedi cael ychydig yn ormod erbyn diwedd y pnawn. Un tro, aeth Sarjiant Ifans â John Pari at stondin ‘Knock the Lady out of Bed’. Yr oedd rhyw ferch yn ei dillad nos mewn gwely crand. Yr oedd angen hitio rhyw ddarn o bren, rhyw ddwylath uwchben y ferch i’w chael i rowlio allan o’r gwely. Yr oedd John Pari yn dal pedair pêl bren yn ei law, ond yn lle anelu am y darn pren, anelodd am ben y wraig. Aeth y bêl drwy’r rhwyd, a neidiodd oddi ar bost y gwely, a rhedodd y greadures oddi yno am ei bywyd. Roedd John Pari yn dal tair pêl yn ei law, yn barod i ail-gynnig, ond gwrthododd y ferch fynd yn agos i’r gwely, a mynnodd John Pari gael ei bres yn ôl cyn gadael y stondin. Byddai bwth bocsio yn Ffair Borth yn ôl tystiolaeth y rhai fyddai’n mynd yno, ond welais i ddim bocsio swyddogol erioed yn Ffair Llan, er y byddai ambell un yn ddigon bygythiol yn ddiweddarach ar y noson, ar ôl effeithiau’r llaeth coch.
Cân Ffair Llan
(o Llais Ogwan Hydref 1980. Ni cheir enw awdur yma.)
Mae diwrnod Ffair Llan wedi dyfod,
Fel arfer mae’n tywallt y glaw,
Ba waeth gan y llanciau
Am fellt a tharannau
Mae pawb yn eu hwyliau
Yng nghanol y baw.
CYTGAN
Ffair Llan, Ffair Llan,
Wel andros o le sy’n Ffair Llan (x2)
Mae’r hogia’ â’u bwriad
I gyd am gael cariad
Yn ôl hen arferiad
Ym miri y Llan.
Mae cornel y llestri fan acw
A stondin y ‘Roc’ sydd fan draw,
A dyn y Sioe Geiniog
Sy’n gweiddi’n gynddeiriog
Gan alw ac annog
Y bobol o’r glaw.
Mae’r byrddau yn cynnig bargeinion
Nôl arfer hen ffeiriau y wlad.
Mae’r ffair eto ‘leni
Yn cadw’n ei miri,
A’r llanciau mor heini
Does undyn a wâd.
Dyma bwt bychan am Ffair Llan yn 'GWALIA' Tachwedd 7fed, 1905.
Ydych Chi am y Ffair?
Dyma ran o adroddiad a ymddangosodd yn ‘Baner ac Amserau Cymru’, Tachwedd 8fed, 1866 ac a anfonwyd i Llais Ogwan (Hydref 1984) gan H.S. Chapman, Deganwy.
Y mae Ffair Llanllechid yn hen ffair – tua 60 i 80 mlwydd oed mae’n debyg. Yn ddiamau sefydlwyd ar y dechrau i roddi cyfleusdra i drafnidwyr y plwyf i werthu eu praidd. Bydd ynddi’n flynyddol gannoedd os nad miloedd o ddefaid ac eleni yr wyf ar ddeall eu bod yn gwerthu rhwng 15s a 27s y pen. Wel dyna ni wedi rhoddi adroddiad o’r Ffair, cyn belled ag y mae yn briodol ei galw yn ffair. Treuliwyd gweddill y dydd hyd at hanner nos gan y growd – ‘plant y plwyf’. Un dosbarth am y mwyaf yn bwyta afalau, eraill am y goreu yn saethu at gnau, dosbarth arall yn sefyll yn rhes yn edrych drwy y gwydrau panoramaidd, tra bo eraill yn taflu eu harian am gael mynd ar y ceffylau prenaidd. Lluosog iawn oedd y rhai oedd am y mwyaf yn yfed o’r ddioden syfrdanol. Gresyn fod merched ieueinc ein plwyf yn darostwng eu hunain i’r fath raddau a myned i’r fath le. Ond gallem fentro dweyd gymaint a hyny, nad oes ond gwehilion y rhyw fenywaidd yn rhoddi eu presenoldeb yn Ffair y Llan. Clywsom fod siarad da, grymus ac effeithiol y Sabbath blaenorol yn holl gapelau yr ardal wedi peri iddi droi allan yn ‘failure’ ar yr holl ‘gamblers’ oedd wedi dyfod yno i hudo arian ac i ddrygu amgylchiadau trigolion ein gwlad. Ond i ni beidio â rhoddi cefnogaeth iddynt, yn ddiamheu caem ni yn y cymydogaethau hyn gystal ymwared ohonynt ag y mae rhan arall o’r Sir – Llŷn ac Eifionydd yn cael. Mae yn helynt ofnadwy fod cymydogaethau fel Bethesda a Llanberis – ardaloedd sydd mor llawn o freintiau addysg, diwylliant a chrefydd yn rhoddi y fath gefnogaeth i ddosbarthiadau isaf ein teyrnas. Trigolion gwlad mor efengylaidd – dynion yn mynychu yr Ysgolion Sabbathol, ie ysywaeth, gannoedd o grefyddwyr ein gwlad. Dywedaf ei fod yn ofnadwy o beth fod y fath rai yn rhoddi dim cefnogaeth i wehilion dynoliaeth o’r fath, yn ddim gwell na dosbarthiadau wedi eu pigo i fyny o ganol lladron a phuteiniaid ein teyrnas.