Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Cyfarfod 28.10.26
Cafwyd sgwrs hynod ddiddorol gan Howard Huws yng nghyfarfod mis Hydref, a oedd yn rhannu peth o’i waith ymchwil difyr gyda ni ar y testun ‘Cloddio Metelau yn Nyffryn Ogwen’. Mae’n hawdd credu y byddai’r mwyafrif ohonom yn meddwl mai dim ond am lechi y bu pobl yn cloddio amdanynt yn yr ardal hon, ond y gwir amdani yw bod pobl wedi dangos diddordeb byw iawn mewn canfod amrywiaeth o fetelau yma ar hyd y canrifoedd! Mae enwau lleol fel ‘Rocar’ a ‘Tŷ Mwyn’ yn rhoi cliwiau i ni fod cloddio am fetelau wedi digwydd yn lleol, ac yn wir cafwyd ymdrechion i ddarganfod copr, plwm, manganese, haearn, ‘ochre’ (o hwn y daw ‘Rocar’), aur a hyd yn oed arsenig yn Nyffryn Ogwen!
Darganfuwyd yn y18fed ganrif, fod dwy wythїen gopr yn rhedeg o dan ‘Dinas’ yn Nhregarth, yn ogystal ag yng Nghwm Idwal. Ar y pryd, roedd galw mawr am gopr, gan fod y Llynges Brydeinig angen y metel hwn ar gyfer eu holl longau, felly aeth pris copr yn uchel iawn ar un pwynt! Yn ôl Huw Derfel, roedd copr Tregarth o ansawdd da, ond yn anffodus, doedd dim llawer ohono ar gael. Yn ddiweddarach, daeth galw mawr am arsenig, y metel gwenwynig a ddefnyddiwyd nid yn unig i ladd chwyn, llwydni a phryfed, ond a oedd hefyd yn cael ei gynnwys mewn colur, eli, ffisig, bisgedi a phapur wal! Gwnaethpwyd ymdrech i’w gloddio yng Nghiltwllan a Nant Ffrancon, a llwyddwyd i ddarganfod rhywfaint ohonno, ond unwaith eto, nid digon i gael effaith ar y farchnad! Yr un oedd yr hanes gyda’r manganese, yr aur yn ogystal â’r plwm yn ardal Coetmor hefyd. Serch hynny, cafwyd peth haearn yn yr ardal; roedd galw mawr amdano ar gyfer gweithgareddau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafwyd rhywfaint o ‘ochre’ hefyd ar gyfer creu paent.
Ond pwy oedd y bobl yma oedd yn cloddio i ddarganfod metelau? ‘Y Goron’ oedd yn penderfynu pwy oedd i gael chwilio am fetelau, ac roedd rhaid bod yn eithaf cefnog cyn meddwl cychwyn ar y gwaith, felly mae’n amlwg mai gan deulu a chyfeillion y Penrhyn oedd y monopoli gan amlaf. Ond o bryd i’w gilydd deuai ambell i werinwr medrus i herio’r drefn, ac i ddangos fod gan bobl gyffredin dipyn o ysbryd ar ôl o hyd!
Diolch yn fawr Howard am yr holl wybodaeth, ac hefyd am ddangos lluniau o’r lleoliadau yn ogystal â samplau o’r cerrig! Roedd nifer fawr o’r gynulleidfa yn teimlo eu bod wedi dysgu llawer yn ystod y cyfarfod!