‘Gwella Byd y Bobl – y Bethesda Improvement Commissioners 1854-1894’-Dafydd Fôn

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Cyfarfod 30.09.26

Daeth criw mawr draw i’r Clwb Criced a Bowlio ddiwedd Medi i wrando ar Mr. Dafydd Fôn yn trafod ‘Gwella Byd y Bobl – y Bethesda Improvement Commissioners 1854-1894’. Ac yn wir, ar noson agoriadol y tymor newydd, chafodd neb ei siomi! Roedd manylder yr ymchwil a wnaethpwyd gan Dafydd yn anhygoel! Soniwyd am ddylanwadau arbennig unigolion fel Dr. Owen Owen Roberts – swyddog meddygol uchel, Rhyddfrydwr, symbylydd Ysbyty C&A ym Mangor a gŵr oedd yn ddraenen barhaol yn ystlys yr Arglwydd Penrhyn. Cwynodd am amodau gwael y chwarelwyr – nid yn unig yn eu gwaith ond yn eu cartrefi yn ogystal, a chafwyd disgrifiadau manwl o sefyllfaoedd erchyll a fodolai mewn cartrefi yng Nghaellwyngrydd, Cilfodan a Llidiart y Gwenyn. Roedd drewdod, budreddi, diffyg system garthffosiaeth, a’r holl dlodi yn arwain at bob math o heintiau ac afiechydon. Roedd y sefyllfa’n drychinebus, ond gan mai teulu’r Penrhyn a phobl o’r fath oedd berchen y tiroedd, tueddent i anwybyddu nifer o’r problemau hyd nes y byddai rhywbeth yn effeithio ar eu hincwm nhw eu hunain.

Cafwyd cyfarfodydd cyhoeddus a phwyllgorau rif y gwlith am flynyddoedd lawer, ond gan mai’r Arglwydd Penrhyn a’i gyfeillion oedd yn rheoli popeth, roedd hi bron yn amhosib i ddynion cyffredin lwyddo gydag unrhyw syniad am welliant yn yr ardal! Daeth datblygiad arwyddocaol ar ddiwedd yr 1840au pan gafwyd ‘Deddf Gwella Trefi’ a ‘Deddf Iechyd Cyhoeddus 1848’ – deddfau oedd yn rhoi mwy o rym i’r Llywodraeth (yn hytrach na’r tirfeddianwyr), i gymryd sylw o amodau byw pobl gyffredin. Ond parhau i fod yn bwerus wnâi criw’r hen ‘Lord’! Pan sefydlwyd y ‘Bethesda Improvement Commissioners act 1854’, roedd y naw ‘comisiynydd’ yn dod o gylch swyddogion yr Arglwydd Penrhyn! Ond o dipyn i beth, dros gyfnod o amser, gwelwyd newid yn natur yr aelodau. Erbyn yr 1880au roedd masnachwyr lleol Cymraeg eu hiaith yn gomisiynwyr – pobol oedd eisiau gwella’r ardal go iawn! Roedd y newid yn cyd-fynd â newidiadau yn yr hinsawdd wleidyddol a chrefyddol yn ogystal. Edrychwn ymlaen at glywed rhan nesa’r gwaith ymchwil arbennig hwn ym mis Tachwedd. Diolch yn fawr iawn Dei!

Next
Next

Ar y Gweill yng Nghaellwyngrydd.