Ar y Gweill yng Nghaellwyngrydd.
Llyfryn yw hwn sy’n adrodd hanes Clwb Gweu Carmel dros y blynyddoedd. Mi fydd y Clwb yn 30 oed yn 2027, ac yn wir, bu’r 30 mlynedd yn llawn bwrlwm, creu, lliw a sgwrsio di-baid! Mae'n enghraifft o gymdeithasu naturiol ar ei orau - gyda’r aelodau’n cefnogi nifer helaeth o elusennau amrywiol dros y blynyddoedd, a’r cyfan dan arweiniad brwdfrydig Mrs Helen Williams.
Mae’r llyfr yn llawn lluniau - mi fyddwch yn sicr o adnabod nifer fawr o wynebau!
Mae yna ambell gopi ar ôl gan Mrs Williams.