Cwis a Ffilm

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Cyfarfod  29.4.26

Daeth tymor diweddara’r Clwb Hanes i ben ddiwedd Ebrill, ac yn wir bu’n flwyddyn lwyddiannus arall – digon o hwyl, amrywiaeth a chyflwynwyr ardderchog. Yn y cyfarfod olaf, croesawyd Gwenlli Thomas o ‘Menter Môn’ i’n plith. Dangosodd ffilm fer i ni sef ‘Ein Hanes Ni: Llanllechid a’r Ardal’. Ffilm oedd hon yn cynnwys plant o Ysgol Llanllechid yn holi tri o oedolion o’r ardal sef Vivienne Parry, Helen Williams ac Eifion Hughes. Cafwyd nifer o hanesion difyr am Rachub ‘ers talwm’, gan gynnwys eu hargraffiadau o Huw Sgŵd, William Griffith, Madam Chips a Twm Sion Cati! Portreadwyd pentref Rachub fel cymdeithas glòs, hapus, diogel a Chymraeg- pawb yn sgwrsio, trafod, helpu a chynnal ei gilydd, yn enwedig o gofio bod Vivienne, Helen ac Eifion yn tyfu i fyny yn y cyfnod oedd yn dilyn y Rhyfel.

Roedd y ffilm yn rhan o brosiect oedd yn canolbwyntio ar bontio’r cenedlaethau, ac yn bendant, llwyddodd i wneud hynny. Diolch i Gwenlli a phawb o Ysgol Llanllechid oedd yn gysylltiedig â’r fenter am eu gwaith caled – yn arbennig y disgyblion a oedd yn holi’r cwestiynau mor broffesiynol. Mae’r ffilm i’w gweld ar y we erbyn hyn.

Yn ail hanner y noson, cafwyd cwis a oedd yn cynnwys 40 cwestiwn a £50 yn wobr i’r tîm buddugol! Roedd wyth tîm yn cystadlu, ond y tîm a ddaeth i’r brig, gan ennill o hanner marc yn unig oedd Mary ac Angharad! Llongyfarchiadau mawr iddynt!

Diolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant y Clwb Hanes yn ystod y tymor a aeth heibio - y siaradwyr, y pwyllgor, swyddogion y Clwb Criced ac wrth gwrs yr aelodau ffyddlon sy’n mynychu’r cyfarfodydd.

Mary Eds ac Angharad yn fuddugol yn y cwis!

Next
Next

‘Artistiaid yr Ardal’ - Cyflwyniadau Amrywiol.