‘Artistiaid yr Ardal’ - Cyflwyniadau Amrywiol.

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Cyfarfod 25.3.26

Cafwyd noson ddifyr arall yn y Clwb Criced y mis diwethaf, pan gafodd aelodau’r Clwb Hanes glywed am rai o’n hartistiaid lleol gan dri siaradwr gwadd.  Y cyntaf i siarad oedd Karen Roberts, artist lleol llwyddiannus a chyn-athrawes Gelf.

Wedi cwblhau ei Lefel A yn Ysgol Dyffryn Ogwen, aeth Karen ymlaen i wneud cwrs Sylfaen a chael ei  hysbrydoli gan un o’r tiwtoriaid – Peter Prendergast. Yna astudio Tecstiliau yng Nghaerdydd cyn cwblhau’r radd yn Taunton Gwlad yr Haf. Cafodd swydd fel dylunydd patrymau yn Llundain gan ddylunio i gwmnïau Gap, Valentino, Victoria Street a Laura Ashley. Erbyn hyn mae Karen yn mwynhau crwydro, lluniadu a gorliwio’r lliwiau sydd yn y golygfeydd hyfryd ar garreg ei drws, gan arddangos a gwerthu ei gwaith yn Zip World Bethesda, Artworks2 ym Metws y Coed, Galeri Carwsel Llanfairfechan, a Galeri Benard Llandudno. Llwyddodd i gael arddangosfeydd sylweddol yn Oriel Plas Glyn y Weddw ac Oriel Môn.

Yr artist Bryan Griffiths oedd y nesaf i siarad, athro celf ac aelod o uwch-dîm Ysgol Bodedern. Soniodd yntau am ddylanwad pellgyrhaeddol Peter Prendergast ar gymaint o artistiaid fel Darren Hughes, Bryan ei hun a’r diweddar Iwan Parry. Roedd Iwan Parry’n artist gwych, yn dysgu yng Ngholeg Menai ac yn creu cynfasau mawr o olygfeydd ag iddynt naws arallfydol. Bu’n byw’n dawel yn stryd Fronchwith, Caellwyngrydd am flynyddoedd gan ganolbwyntio ar ei waith celf, ond yn drist iawn bu farw’n eithaf diweddar ag yntau ond yn 55 mlwydd oed. Colled enfawr i’r byd celf.

Soniodd hefyd am yr artist John Thomas Parry (ap Idwal) a aned yng Nghapel Coch (1853) ac a symudodd i Garneddi ar ôl priodi. Yn dad i ddeg o blant, gweithiodd yn y chwarel, gan ddarganfod amser i astudio, a hefyd ymarfer celf yn ei amser rhydd. Dechreuodd werthu ei waith i ymwelwyr, ac yn ôl y sôn daeth teulu’r Penrhyn yn ymwybodol ohono gan roi cymorth ariannol iddo. Trafododd Bryan hefyd gyfraniad Martin Morley sy’n byw yn Gerlan ac yn cofnodi mewn lluniau, olygfeydd, ymysg pethau eraill, o siopau’r Stryd Fawr - gan ail ymweld â’r siopau hyn wrth iddynt newid dwylo, - cofnod pwysig iawn o hanes yr ardal.

Cawsom wybodaeth gan Robyn Meredydd, ein trydydd siaradwr, am y gwaith sy’n mynd ymlaen yn ‘Yr Hen Bost’ Bethesda. Hi sy’n gofalu am yr arddangosfeydd a fydd yno – nid unrhywbeth parhaol, ond cyfres o arddangosfeydd dros dro fydd y rhain, yn portreadu hanes a bywyd pobol yr ardal. Mae hi wedi llwyddo i gael chwe llun mawr o waith E.M. Thompson ar gyfer un o’r arddangosfeydd. Hon oedd yr artist a greodd luniau manwl iawn o chwarelwyr wrth eu gwaith, yn ogystal â’u celfi a’u hoffer i gyd.

Previous
Previous

Cwis a Ffilm

Next
Next

'Cymru Gudd - Ffotograffau a Hanesion'- Dylan Arnold.