'Cymru Gudd - Ffotograffau a Hanesion'- Dylan Arnold.
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Cyfarfod 25.2.26
Cafwyd cyfarfod difyr dros ben o’r ‘Clwb Hanes’ yn ddiweddar, yng nghwmni’r ffotograffydd Dylan Arnold. Cyflwynwyd y siaradwr gwadd gan ffotograffydd arall o’r ardal, sef Nigel Beidas. Roedd Dylan yn trafod ei gyfrol ‘Cymru Gudd’ - llyfr sy’n llawn ffotograffau o hen adeiladau’r werin Gymraeg – adeiladau sydd wedi gweld dyddiau gwell yn bendant! Er nad ydy Dylan yn ystyried ei hun yn hanesydd o gwbl, yn sicr, mae wedi cyfrannu at y gwaith pwysig o gofnodi hanes, arferion a thraddodiadau Cymru mewn modd hollol unigryw.
Llwyddodd i ddarganfod hen adfeilion o bob math (gan amlaf yng nghefn gwlad Gogledd Cymru), gan wneud gwaith ditectif i ddarganfod pwy oedd trigolion mwyaf diweddar unrhyw ffermdy, gweithdy, capel a.y.b. Yn rhyfedd iawn, llwyddodd i ddarganfod nifer o ddisgynyddion i gyn-breswylwyr yr adeiladau, ac yn sgîl hynny, nifer o hanesion personol difyr a oedd yn gymorth i bortreadu bywyd pob dydd yn y cyfnod perthnasol.
Roedd ei ffotograffau o’r mannau dan sylw yn gampweithiau artistig yn cynnwys technegau arbennig yn ogystal â naws, teimlad ac awyrgylch anhygoel. Roedd ei driciau cyfrifiadurol yn effeithiol dros ben hefyd, e.e. gosod teulu o’r 19eg ganrif i sefyll ger eu cartref fel y mae’n edrych heddiw.
Mae copïau o’i lyfr ‘Cymru Gudd’ bron i gyd wedi eu gwerthu erbyn hyn, felly os ydych am ddarllen yr hanesion tu hwnt o ddifyr am y prosiect arbennig yma, galwch i mewn i’r llyfrgell ym Methesda, lle gellir archebu'r llyfr i chi. Mae’r hanesion yn bendant yn werth eu darllen!
Diolch yn fawr iawn Dylan -mae dy gyflwyniad yn bendant wedi creu argraff ar aelodau’t Clwb Hanes.