Ffair Llan drwy Lens Lomosik

Diolch i Andrè Lomosik am anfon y lluniau canlynol o gymeriadau’r ardal yn Ffair Llan, tua 1997/98.

Dyma ddarn allan o ‘Cofio’r Gorffennol’ gan John Alun Roberts, a ymddangosodd yn Llais Ogwan ym mis Hydref 1980.

Cofiwch mai yn ystod y 1920au fyddai John Alun yn mynychu’r ffair – mae natur y stondinau wedi newid cymaint ers hynny!!!

FFAIR LLAN

Un o ddyddiau mawr y flwyddyn oedd diwrnod Ffair Llan. Bu ffair yn Pesta a Thalybont, ond marw fu hanes y ddwy yma, ond daliodd Ffair Llanllechid yn ei bri hyd heddiw. Casglu ceiniogau am wythnosau cynt, gwenu yn barchus ar bobl nad oedd rhywun ond wedi prin edrych arnynt ar hyd y flwyddyn. Yn ein barn ni, gan Willian Morris, Coetmor Cottage oedd yr India Rock gorau o ddigon. Ceiniog oedd y tâl am “Pull Away”, ac os byddai rhywun yn ddigon lwcus, gellid cael darn gwerth llawer mwy na cheiniog yn wobr. Byddai John Pari Plas Ucha wedi cael ychydig yn ormod erbyn diwedd y pnawn. Un tro, aeth Sarjiant Ifans â John Pari at stondin ‘Knock the Lady out of Bed’. Yr oedd rhyw ferch yn ei dillad nos mewn gwely crand. Yr oedd angen hitio rhyw ddarn o bren, rhyw ddwylath uwchben y ferch i’w chael i rowlio allan o’r gwely. Yr oedd John Pari yn dal pedair pêl bren yn ei law, ond yn lle anelu am y darn pren, anelodd am ben y wraig. Aeth y bêl drwy’r rhwyd, a neidiodd oddi ar bost y gwely, a rhedodd y greadures oddi yno am ei bywyd. Roedd John Pari yn dal tair pêl yn ei law, yn barod i ail-gynnig, ond gwrthododd y ferch fynd yn agos i’r gwely, a mynnodd John Pari gael ei bres yn ôl cyn gadael y stondin. Byddai bwth bocsio yn Ffair Borth yn ôl tystiolaeth y rhai fyddai’n mynd yno, ond welais i ddim bocsio swyddogol erioed yn Ffair Llan, er y byddai ambell un yn ddigon bygythiol yn ddiweddarach ar y noson, ar ôl effeithiau’r llaeth coch. 

Cân Ffair Llan

(o Llais Ogwan Hydref 1980. Ni cheir enw awdur yma.)

Mae diwrnod Ffair Llan wedi dyfod,

Fel arfer mae’n tywallt y glaw,

Ba waeth gan y llanciau

Am fellt a tharannau

Mae pawb yn eu hwyliau

Yng nghanol y baw.

 

CYTGAN

Ffair Llan, Ffair Llan,

Wel andros o le sy’n Ffair Llan (x2)

Mae’r hogia’  â’u bwriad

I gyd am gael cariad

Yn ôl hen arferiad

Ym miri y Llan.

Mae cornel y llestri fan acw

A stondin y ‘Roc’ sydd fan draw,

A dyn y Sioe Geiniog

Sy’n gweiddi’n gynddeiriog

Gan alw ac annog

Y bobol o’r glaw.

 

Mae’r byrddau yn cynnig bargeinion

Nôl arfer hen ffeiriau y wlad.

Mae’r ffair eto ‘leni

Yn cadw’n ei miri,

A’r llanciau mor heini

Does undyn a wâd.

Dyma bwt bychan am Ffair Llan yn 'GWALIA' Tachwedd 7fed, 1905.

Ydych Chi am y Ffair?

Dyma ran o adroddiad a ymddangosodd yn ‘Baner ac Amserau Cymru’, Tachwedd 8fed, 1866 ac a anfonwyd i Llais Ogwan (Hydref 1984) gan H.S. Chapman, Deganwy.

Y mae Ffair Llanllechid yn hen ffair – tua 60 i 80 mlwydd oed mae’n debyg. Yn ddiamau sefydlwyd ar y dechrau i roddi cyfleusdra i drafnidwyr y plwyf i werthu eu praidd. Bydd ynddi’n flynyddol gannoedd os nad miloedd o ddefaid ac eleni yr wyf ar ddeall eu bod yn gwerthu rhwng 15s a 27s y pen. Wel dyna ni wedi rhoddi adroddiad o’r Ffair, cyn belled ag y mae yn briodol ei galw yn ffair. Treuliwyd gweddill y dydd hyd at hanner nos gan y growd – ‘plant y plwyf’. Un dosbarth am y mwyaf yn bwyta afalau, eraill am y goreu yn saethu at gnau, dosbarth arall yn sefyll yn rhes yn edrych drwy y gwydrau panoramaidd, tra bo eraill yn taflu eu harian am gael mynd ar y ceffylau prenaidd. Lluosog iawn oedd y rhai oedd am y mwyaf yn yfed o’r ddioden syfrdanol. Gresyn fod merched ieueinc ein plwyf yn darostwng eu hunain i’r fath raddau a myned i’r fath le. Ond gallem fentro dweyd gymaint a hyny, nad oes ond gwehilion y rhyw fenywaidd yn rhoddi eu presenoldeb yn Ffair y Llan. Clywsom fod siarad da, grymus ac effeithiol y Sabbath blaenorol yn holl gapelau yr ardal wedi peri iddi droi allan yn ‘failure’ ar yr holl ‘gamblers’ oedd wedi dyfod yno i hudo arian ac i ddrygu amgylchiadau trigolion ein gwlad. Ond i ni beidio â rhoddi cefnogaeth iddynt, yn ddiamheu caem ni yn y cymydogaethau hyn gystal ymwared ohonynt ag y mae rhan arall o’r Sir – Llŷn ac Eifionydd yn cael. Mae yn helynt ofnadwy fod cymydogaethau fel Bethesda a Llanberis – ardaloedd sydd mor llawn o freintiau addysg, diwylliant a chrefydd yn rhoddi y fath gefnogaeth i ddosbarthiadau isaf ein teyrnas. Trigolion gwlad mor efengylaidd – dynion yn mynychu yr Ysgolion Sabbathol, ie ysywaeth, gannoedd o grefyddwyr ein gwlad. Dywedaf ei fod yn ofnadwy o beth fod y fath rai yn rhoddi dim cefnogaeth i wehilion dynoliaeth o’r fath, yn ddim gwell na dosbarthiadau wedi eu pigo i fyny o ganol lladron a phuteiniaid ein teyrnas.

Damwain!

Y Genedl Gymreig, Tachwedd 7fed, 1888

Dyma erthygl a ymddangosodd yn Llais Ogwan, Rhagfyr 1998.

‘Y FFAIR’ gan Mair Roberts

Ffair Llan yn nesu

Teisen wedi’i chrasu

Peint o gwrw o flaen y tân,

A ledis bach yn canu! 

Dyna fel y canem ni, blant Caellwyngrudd, fel y nesái Ffair Llanllechid ar Hydref 29 bob blwyddyn. Cynhelid Ffair y Borth ar y 24ain, ac felly hyd heddiw, ond doedd dim apêl yn honno i ni. Efallai nad oedd gennym ddigon o bres i fynd iddi, a’r Borth yn swnio fel pen draw’r byd am fod eisiau croesi’r bont. 

Fodd bynnag, edrychem ymlaen yn eiddgar at Ffair Llan. Rhedem i nôl neges i’n gwahanol gymdogion i siopau Elin Pritchard, Mr. Griffiths Bells, William Edwards, Margiad Parry Britannia, Siop Newydd oedd hefyd yn dyblu fel siop bapur newydd a siop chips, y Post a Siop Tomi Bwtsiar – y cigydd wrth gwrs. Ein tâl? Dimau neu geiniog (hen bres cofier), ac roedd rhagor na hynny’n ffortiwn.

Ychydig ddyddiau cyn Ffair Llan, byddem yn clandro faint a gaem gan hon a hon; pisyn tair neu chwech gwyn, a’n perthnasau’n rhoi’n hael iawn, efallai swlltyn. 

Byddai’r tywydd wedi oeri cryn dipyn, ac eirlaw’n aml yn andwyo ein dwylo a’n traed, a diwrnod felly a gofiaf gyntaf am y ffair.

Roeddwn wedi mynd yno hefo’Nhad. Rhaid ei bod yn fore Sadwrn neu’n weithio tridiau yn Chwarel y Penrhyn. Bryd hynny, yn Sgwâr Llan y cynhelid y stondinau, a’r meri-go-rownd, y swings a’r cnau coco yn y cae gerllaw. Yn ogystal, doi amaethwyr yr ardal i brynu a gwerthu merlod a defaid tu ôl i Gapel Llan, ger y Gors Goch.

Ar y bore nodedig hwn, roeddwn wedi bod rownd y stondinau; wedi cael trei ar y ‘pwl awê’ i gael sticyn o India roc gan Mrs. Rowland, Mynydd. Arferai hi fynd o ffair i ffair i’w werthu dros William Morris, Coetmor Cottage. Dyna’r gorau a fwyteais erioed. Er mor ddiflas y tywydd, dyma sirioli wrth gyfarfod ag Yncl Thomas, Wern (tyddyn ar y ffin rhwng Llanllechid ac Abergwyngregyn, a brawd i Mam oedd wedi dod i werthu defaid.)

Gofynnodd ‘Nhad iddo,

“Wyt ti am ddod acw am ginio? Mae Hannah wedi gwneud sosbenaid o lobsgows”, (pryd traddodiadol y diwrnod).

“Na” meddai, “rydw i wedi addo mynd adra ar f’union, a ph’un bynnag, rydw i’n wlyb at fy nghroen.”

“Mi awn innau adra hefyd cawn i ryw ‘ball frame’ i’r hogan ‘ma” meddai ‘Nhad… o’r cwt ‘ma dwi’n gobeithio.”

Gweithdy saer oedd y cwt!

“Hwda”, meddai, gan wasgu pisyn deuswllt i fy llaw. Fuo’r darn ddim yno’n hir, gan i mi ei gyfnewid am y ‘ball frame bondigrybwyll. Cefais oriau o bleser gydag o, yn cyfrif i 100. Cynhwysai ddeg rhes a deg pelen fach ar bob un. Ymhen blynyddoedd y dysgais mai ‘Abacus’ oedd ei enw iawn.

Yn y pnawn byddai’r ffair yn bywiogi â mamau a phlant. Roedd pwmp dŵr ger y Bull Inn, a llenwai’r hogiau eu ‘ledis teasers’ i bryfocio’r genod drwy chwistrellu’r dŵr rhewllyd i lawr eu gyddfau. Hwyl diniwed.

Gyda’r nos, byddai dynion yn cyrraedd, a phrysurai’r prynu a gwerthu e.e. y llestri rhad, rowlio ceiniogau, pledu cnau coco, saethu â gwn, chwyrlїo drwy’r noson dywyll, laith ar ryw garwsél neu’i gilydd. Dôi’r rhialtwch i ben berfeddion nos.

Yn ôl pob hanes roedd y ffeiria’n gysylltiedig â’r Eglwys, ac fe ddeil felly mewn gwledydd Pabyddol eu naws. Clywais un hanesydd lleol yn honni fod Ffair Llan yn deilliaw o’r ddeunawfed ganrif, ac mae’r 29ain o Hydref yn agos iawn at Ŵyl yr Holl Saint a ddethlir ar Dachwedd 1af.

Bid a fo am hynny, roedd yn esgus da i gael tipyn o hwyl a rhialtwch cyn Calan Gaeaf. 

Previous
Previous

Addysg

Next
Next

Carnifal Rachub