David Llewellyn - Ysgolfeistr
Diolch i Andre Lomozik am anfon y llun yma o gofeb David Llywellyn, ac hefyd rhywfaint o hanes un a fu'n Brifathro Ysgol Genedlaethol Llanllechid am 40 mlynedd.
Ar un o furiau Eglwys Santes Llechid, mae cofeb wedi ei gosod er côf am David Llewellyn, Ysw., Prif-athro Ysgol Genedlaethol Llanllechid am 40 mlynedd. Codwyd y gofeb gan gyn-ddisgyblion a chyfeillion fel teyrnged o barch a gwerthfawrogiad o’i wasanaeth cyhoeddus. Bu farw Chwefror 11fed 1924 yn 62 mlwydd oed.
Pwy oedd David Llewellyn, a ble y’i ganwyd? A oedd wedi priodi? A oedd ganddo deulu? Felly er mwyn dysgu rhywfaint amdano, dyma edrych ar gyfrifiad 1921, a dod o hyd iddo yn byw yn ‘Tŷ’r Ysgol’ Llanllechid ynghŷd â’i wraig a dau o’i blant.
Ganwyd David Llewellyn yng Nghasnewydd, Sir Benfro yn y flwyddyn 1862.
Yng nghyfrifiad 1871 mae David (9 oed), a’i chwaer Margaret J. Llewellyn yn aros gyda’u modryb Margaret Laugharn a’i chwaer Ann Laugharn, yn rhif 26 Upper Bridge St. Casnewydd, a nodir mai ‘Mariner’s son’ oedd David.
Erbyn cyfrifiad 1881 mae David yn fyfyriwr mewn coleg yn Sir Gaerfyrddin, a deng mlynedd yn ddiweddarach yng nghyfrifiad 1891 mae’n ysgol feistr yn Llanllechid, ac yn byw fel lletywr gyda John Williams a’i deulu. Yn fuan iawn wedyn mae’n priodi Ellen Mary, merch o Lanllechid, a dyma adroddiad a ymddangosodd yn y North Wales Chronicle dyddiedig Rhagfyr 26ain 1891.
LLANLLECHID
The Marriage of Mr D. Llewelyn, School-master – On Friday the 18th inst., at the parish church, Llanllechid, Mr D. Llewelyn, headmaster of the Llanllechid National School, was married to Miss Ellen Mary Evans, the eldest surviving daughter of Mr Richard Evans, grocer, etc. Rachub, Llanllechid. The church was quite full during the ceremony, and the long avenue through the churchyard was lined with spectators as the happy pair walked to their carriage. There was a fine display of bunting in the village, and it would be very little exaggeration to say that the hillside had turned out to witness the proceedings. Mr Llewelyn is deservedly held in high esteem by the parishioners, among whom he has successfully laboured for the last eight or nine years. Mr and Mrs Llewelyn left Bangor in the afternoon for London, where they will spend their honeymoon. The wedding presents were both numerous and costly.
Erbyn cyfrifiad 1901 mae’r teulu yn byw yn ‘Tŷ’r Ysgol’ - David ac Ellen gyda thri o blant wedi’u geni yn Llanllechid, Mary Selina 8 oed, Gladys 4 oed, a Frederick Laugharne yn 3 oed.
Ganwyd dau blentyn arall iddynt sef David Richard yn 1904 a Vera yn 1908. Bu Mary Selina farw yn 12 oed yn 1905, a Vera yn 11 wythnos oed. Aeth Frederick yn ei flaen i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Gogledd Cymru Bangor, fel peiriannydd trydanol, ond bu farw fel carcharor rhyfel (sifil) yn Sumatra ym 1944, yn 46 oed.
Mae’r teulu wedi’u claddu ym mynwent yr eglwys, a dyma yr arysgrif ar y garreg:
At Rest. In ever loving Memory of David the dearly beloved husband of E. M. Llewellyn, who died Feb. 11th 1924, aged 62 years. Also the above Ellen Mary, died March 5th 1948, aged 79 years. Also Fred who died in a Japanese Prison Camp in Sumatra, May 12th 1944, aged 46 yrs. Thy will be done. In loving Memory of Lena, daughter of D. & E. M. Llewellyn, born Nov. 17 1892, died July 31 1905. Vera who died March 19 1908, aged 11wks.
Ysgol Caechwarel
Caiff Ysgol Caechwarel ei chrybwyll yn yr erthygl ganlynol ('GWALIA' 7/11/1905).
Ysgol Rachub (yr Eglwys)
Dyma lun o ddisgyblion Ysgol (yr eglwys) Rachub yn cael gwers gerddoriaeth! 1930au efallai? Diolch i Andre Lomozik am anfon y llun o gasgliad y diweddar Cyril Ward.