Cymeriadau’r Ardal
Madam Chips
Mae nifer ohonom yn cofio clywed hanesion am Miss Griffiths, a oedd yn gwerthu sglodion yn Rachub rhwng y 1920au a’r 1950au. ‘Madam Chips’ fyddai pawb yn ei galw, ac yn wir, roedd hi’n gymeriad a hanner!
Dyma erthygl gan y diweddar John Emyr Morris, a ymddangosodd yn ‘Llais Ogwan’ ym mis Medi 1984.
Siop Chips Madam
Yn aml iawn, byddaf yn cerdded i lawr i sgwâr Rachub, i Siop Gruff, ac yna dod yn ôl heibio Capel Salem ac i fyny drwy’r cae chwarae. Ond y dydd o’r blaen, cerddais i fyny Caellwyngrydd, a phan oeddwn gyferbyn â 16 Stryd Fawr, mi gymeraf fy llw i mi glywed un ai Cromwell neu Ben Ty’n Ffridd yn dweud “Fish Dwy a chnegwarth o chips os gwelwch chi’n dda Miss Griffiths!”
Yn ebrwydd, carlamodd fy meddwl yn ôl dri ugain o flynyddoedd, a chlywn y plant yn canu:
Os ewch i siop Miss Griffiths
Mor ifanc ag es i,
Cewch fish a chips i swper
O waith ‘rhen fadam ddu.
Huw Richard ydi’r forwyn
Yn plicio tatws mân,
A Madam wrthi’n brysur
A Huw yn pwnio’r tân.
Cytgan:
A Huw yn pwnio’r tân [x2]
A Madam wrthi’n brysur
A Huw yn pwnio’r tân.
Credaf mai coginio yn un o westai mwyaf Manceinion oedd Madam cyn iddi ddod i Rachub i gadw siop chips. Rwy’n siŵr fod pawb a fwynhaodd chips Madam yn tystio mai rheini oedd y rhai gorau a flaswyd erioed! Credaf i mi fwyta Chips a Fish ym mhob ardal ym Mhrydain a hefyd rhai tramor, ond phrofais i erioed rhai cystal â chips Madam!
Siop Fechan
Rhyw siop fechan tua phum llath wrth dair oedd hi, a byddai hi’n llawn petai mwy na hanner dwsin o bobol i mewn ynddi ar un waith! Cadwai Madam y sachau tatws ar fainc yn y siop, a byddai’r lle yn gyfyng iawn petai mwy nag un sachaid yno. Cofiaf y ‘menu’ yn eithaf da – gwerth dimai ar soser de, gwerth ceiniog ar blât bychan, a fish dwy a chnegwarth o chips ar blât mawr. I chwi feddwl fod yn rhaid i Madam werthu 240 o blateidiau o chips i dderbyn punt, doedd yr hen greadures yn gwneud fawr iawn o bres yn nagoedd?
Byddai’n ofynnol i ni’r plant blicio’r tatws cyn y caem chips a chofiaf yn iawn rai o’r genethod fyddai yn plicio – Letty, Lisi Ann Harriet, Lisi Ann Thomas Hughes a Cathrin Ann, a llawer eraill, Jane chwaer Letty fyddai yn byw ac yn bod yno, ac yn gwario pob dima’ yn y siop.
Castiau Drwg
Jack Hughes, Freddie Min a Jack Lon Groes oedd y rhai o’r bechgyn i mi gofio yno - rhai drwg oeddem ni! ‘Rwy’n cofio i mi lawer gwaith ddweud wrth Madam fod Huw Richard yn galw arni o’r tŷ, a phan yr aeth Madam trwodd i’r gegin, byddem ninnau’r bechyn yn rhoi ‘deif’ i’r stôf i ddwyn chips. Rhyw stôf fechan gron oedd gan Madam, tân o dan y boilar a lle i gadw’r chips ar y top. Welais i ‘rioed un debyg! Dylai hon yn siŵr fod yn Sain Ffagan!
Byddem ni’r plant yn cael hwyl fawr gyda’r nos os deuai Cromwell a Ben Tŷ’n Ffridd a Huw Bach John James a John P. i mewn. Roedd y rhain yn rêl ‘comedians’, ond byddai gan Madam ateb sydyn iddyn nhw i gyd bob amser!
Un o gymeriadau nobliaf y fro oedd Miss Griffiths. Roedd yn ddawnus dros ben, nid yn unig am wneud ‘chips’, ond roedd cystal â doctor neu nyrs ar adegau – yn fydwraig hefyd! Doedd neb parotach ei chymwynas na Madam! Bu’r siop yn agored am flynyddoedd, hyd yn oed ar ôl y Rhyfel.
Ia, dychmygu yr oeddwn y dydd o’r blaen wrth gerdded i fyny Caellwyngrydd, ac yn hiraethu, efallai, am yr hen amser gynt!
Cymeriadau Capel ac Eglwys ar Daith
Tipyn o Ddynas!
Dyma hanes cymeriad diddorol o bentref Rachub. Ymddangosodd yr hanesyn yn Llais Ogwan ym mis Hydref 1995.
Mary Jane Jones, Plas Pistyll, Rachub yw'r wraig urddasol yma. Cyn iddi briodi roedd hi'n ysgrifenyddes i'r Arglwydd Penrhyn yn swyddfa'r chwarel. Cafodd chwech o blant, sef William John, Evan, John, Martha, Dan a Ben. Gan mor ddylanwadol a diwyd oedd y teulu ym mywyd y gymdogaeth rhoddwyd enw newydd i Blas Pistyll ar lafar gwlad - Downing!
Hynodrwydd Mary Jane oedd mai hi oedd yn llywio tîm pêl-droed Llechid Celts am flynyddoedd hyd at 1932. Hi oedd yn dewis pwy oedd yn chwarae ac ym mha safle. Amod pennaf cael eich dewis oedd mynd i gael tê ar ôl y gêm ym Mhlas Pistyll.
Gan Mrs. Gertrude Williams, wyres Mary Jane Jones y cafwyd y llun ar gyfer Llais Ogwan.
Pêl-droed Cynnar yn Rachub
gan Dilwyn Pritchard
Ym 1904 sefydlwyd Clwb Pêl Droed Llechid Swifts/Celts ym mhentref Rachub. Serch hynny roedd dau frawd o'r pentref wedi cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol ddegawd a mwy cyn hynny. Dyma gyfnod pan oedd amaturiaid a chwaraewyr proffesiynol yn chwarae yn yr un tîm. Ym 1880 dewiswyd yr asgellwr, William Pierce Owen i chwarae dros Gymru am y tro cyntaf, a hynny dan gapteniaeth Billy Meredith, chwaraewr enwog gyda Manchester City. Aeth ymlaen i chwarae ddwsin o weithiau dros Gymru gan sgorio saith o goliau. Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Friars ym Mangor a Choleg Crist, Aberhonddu. Bu hefyd yn chwarae gyda thîm Rhuthun, un o dimau amatur gorau Cymru yn y cyfnod hwnnw. Daeth ei yrfa ryngwladol i ben ym 1884. Fel y digwydd, dyna'r flwyddyn y cafodd ei frawd, Elias, ei ddewis i chwarae dros Gymru. Golwr oedd ei safle ac enillodd dri chap. Cafodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Daeth gyrfa bêl-droed y ddau ohonynt i ben ym 1884 a chwaraeodd y ddau frawd yn yr un tîm rhyngwladol yn ystod y tymor hwnnw. Magwyd y ddau yn 28, Ffordd Llanllechid, yn feibion i Elias Owen, Prifathro Ysgol Eglwys Rachub rhwng 1851 ag 1871.
Elias Owen, a chwaraeodd fel golgeidwad i dîm Cymru dair gwaith. Roedd yn frawd i William Pierce Owen,a'r ddau'n feibion i Elias Owen a fu'n brifathro yn Ysgol yr Eglwys, Rachub.
Dyma lun o Elias Owen, y tad.

Dyma lun o Jac Huws Rachub. Roedd o’n adnabyddus yn yr ardal fel gŵr oedd yn bwyta pob dim! Byddai’n mynychu POB cynhebrwng yn yr ardal, a hynny dim ond er mwyn cael llenwi’i fol yn dilyn y gwasanaeth! Oes gan unrhyw un fwy o wybodaeth amdano? Dyddiadau? Cyfeiriad? Hanesion difyr?
Dyma olygfa gyffredin iawn yn Rachub yn ystod y saithdegau - ‘Jumble Sale’ yn y Ganolfan yn Rhes Gefn! Yn y llun, gwelir Florence Williams, Eleanor Hughes, Phyllis Young, Catherine, Helen, Norah, Caryl Young? Gwyn Lloyd, Kevin, Wyn ac Ellen Williams.
Gwilym Jones
Mae'n debyg fod nifer fawr o bobol yn dal i gofio'r dewin anhygoel o Faes Bleddyn sef Mr Gwilym Jones. Yn ôl pob sôn, roedd a'i fryd ar wneud triciau ers pan oedd o'n blentyn, a dysgodd ei grefft, i ddechrau, gan ewythr iddo, ac yna drwy ddarllen a darllen ac ymarfer yn ddi-baid! Dywedai rhai ei fod yn gwneud triciau yng Nghae Rhosydd, gan godi dimau ar blant Maes Bleddyn i ddod i wylio'r sioe! Dechreuodd gyda thriciau cardiau, a gallai wneud dros hanner cant ohonynt. Bu'n defnyddio colomennod yn ei act am ychydig, ac roedd y rhain yn plesio'r gynulleidfa'n fawr. Ond pan gyflwynodd lygod bach gwynion i'r perfformiad, roedd yn fater gwahanol, - yn enwedig yr ymateb a gafwyd gan y merched! "Roeddynt yn sgrechian gormod" meddai Gwilym.
Bu'n arddangos ei driciau mewn sioeau ar hyd a lled Gogledd Cymru, gan dderbyn ymateb gwych pob tro. Bu ar daith hefyd i'r Alban gyda grŵp y 'Naturals', gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd helaeth. Roedd yn brysur dros ben pob Nadolig, gan fod galw mawr arno i gymryd rhan mewn partïon plant, cyngherddau a nosweithiau ar gyfer yr henoed.
Cafodd y fraint o gael ei dderbyn i 'Gylch Consuriwyr Gogledd Cymru'. Er mwyn cael mynediad i'r cylch yma [Magic Circle], roedd rhaid dyfeisio tric newydd sbon, ac fe wnaeth Gwilym hynny. Ond ei hoff dric oedd y 'Floating Lady',- tric oedd yn dibynnu ar offer drud iawn, ond gallai wneud i ferch hofran am 'chydig, cyn iddi ddiflannu'n llwyr!
Oedd wir! Roedd Rachub yn bentref hudolus iawn yn y cyfnod rhwng y 60au a'r 90au, diolch i Gwilym Jones a'i driciau anhygoel!
Cafwyd y rhan fwyaf o'r wybodaeth uchod o 'Llais Ogwan' Chwefroro 1976 mewn erthygl gan Richard Williams. Cofiwch am y cyfrolau hyn (Llais Ogwan o 1974 ymlaen) sydd i'w gweld ar silffoedd Llyfrgell Bethesda - diolch i Mr. Andre Lomosik.
Huw Sgwd (1934)
Mae’n amlwg bod y cymeriad yma wedi tynnu sylw’r artist John Petts. Dyma argraffiad leino o’r gŵr a’r cwningod.
Anfonwch wybodaeth inni amdano.