Damwain Anffodus
Diolch i Andre Lomozik am anfon y pwt bach yma o newyddion lleol, a ymddangosodd yn y 'North Wales Chronicle', Chwefror 25, 1945.
LLANLLECHID
FAILED TO OBSERVE “HALT” SIGN.- For failing to observe traffic directions, when riding a pedal cycle, Owen Thomas quarryman, Hafod, Tyddyn Canol, Llanllechid, was fined 20s and costs at Bangor Police Court on Tuesday. It was stated that the defendant was involved in an accident becouse he failed to observe a 'halt' sign. Colliding with a bus he received serious injuries to his face. In a statement to the police, the defendant said he did not see the bus. A fine of 20s was imposed.
Yr Herald Gymraeg a’r Genedl
Dydd Llun Ebrill 30, 1945
LLANLLECHID
Croeso Adref – Gartref yng nghwmni ei dad a’i fam unwaith eto y mae Sapper Vernon Hughes, mab 26 oed Mr a Mrs Robert J. Hughes, 39 Water Street. Cymerwyd ef yn garcharor gan yr Almaenwyr agos i bum mlynedd yn ôl yn Boulogne, ac yr oedd yn un o’r milwyr Prydeinig a ryddhawyd yn ddiweddar gan fyddin America. Croesawyd ef â baneri ar bron bob tŷ yn Water Street dydd Sadwrn. Y bore cynt, tua’r amser yr oedd chwarelwyr y Penrhyn yn hwylio am eu gwaith, y cyrhaeddodd adref. Yr oedd ei rieni wedi derbyn gair ei fod ar ei ffordd adref. “Cymerwyd fi yn garcharor yn Boulogne,” meddai ef wrth ein gohebydd, “Mai 25, 1940, a’m gwersyll cyntaf oedd yn Thorn. Poland. Ar ôl bod yno am rai misoedd symudwyd fi ym 1941 i wersyll Stalag 20B, ac yno y bum wedyn.” Arferai Sapper Hughes weithio yn Chwarel y Penrhyn, fel ei dad, cyn y rhyfel, ond gyrrwyd ef i weithio ar y tir yn yr Almaen. Gorfodid rhai o’r carcharorion, meddai, i weithio oriau meithion ar y tir, er eu bod yn wael. Gwelodd rai o garcharorion yn cael eu crogi a’i pastynnu i farwolaeth, meddai, am peth nesaf i ddim. Yr oedd ef yn un o barti o tua mil o Brydeinwyr pan glywsant gan garcharorion Ffrengig fod yr Americanwyr yn nesáu. Daeth y newydd â llawenydd mawr iddynt. Yr oeddynt i gyd bron a llewygu ar ôl cerdded dros fil o filltiroedd a’r bwyd yn brin iawn. Am bum niwrnod cyfan ni chawsant damaid o fara. Yr unig beth a gawsant oedd tatws wedi eu berwi trwy eu crwyn. Yn ystod y daith rhoddwyd cig ceffyl iddynt, a bu nifer ohonynt yn sal iawn ar ôl ei fwyta. Un diwrnod cerddodd y parti gymaint a deugain milltir cyn croesi’r afon Oder, a bu nifer farw o ddiffyg bwyd. Dywedai fod y dineswyr ym mhob pentref yn ceisio dangos cydymdeimlad â hwy. Y rheswm am hyn oedd, meddai, eu bod yn gwybod yn eithaf da fod yr Almaen wedi colli’r dydd. Dymunir y gorau iddo yn y dyfodol.
Diolch i Andre Lomozik am anfon yr erthygl ddiddorol yma a ddarganfu yn ‘Yr Herald Gymraeg a’r Genedl’.
Hen Arwydd
Dyma lun o arwydd sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Cymru yn Abertawe. Pwy sy’n ei gofio?
Teiliwr
Oes gan unrhyw un wybodaeth am Robert Parry? Roedd yn deiliwr yn ei siop yn Stryd y Ffynnon ym 1907.
Meddyg Esgyrn
‘North Wales Chronicle’ 1853
Meddyg Esgyrn oedd John Roberts, yn byw yn Rachub, ond yn wreiddiol o ardal Beddgelert.
Oes gan unrhyw un wybodaeth neu hanesion am ‘Feddygon Esgyrn’ eraill o’r ardal?
Wyt ti’n cofio…?
Dyma gyfres o benillion a ysgrifenwyd gan Mrs. Eileen Griffiths (Llan) i’w chwaer, Blodwen ym 1985. Ynddynt ceir darluniau hyfryd o fywyd yn Rachub pan oedd Eileen yn ifanc, a delweddau gwych o hen gymeriadau ac arferion y cyfnod. Crybwyllir siopau Griffiths Bells, William Edwards, Margiad Parry ac wrth gwrs siop chips Madam, yn ogystal â Ffair Llan a Dawns John ‘P’. Sonnir am y defnydd a wnaed o Ogof Efail Nant yn ystod cyfnod y rhyfel ac am yr arferiad o fynd â thoes i Fecws Cae’r Groes ar gyfer ei grasu. Mae nifer helaeth o gyfeiriadau at bethau nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach e.e. barclod sach, casgen bren, mul untroed, mul trithroed a hanner coron. Diolch i Ken Griffiths am gael cynnwys y penillion ar y wefan.

A oes gan unrhyw un syniad o leoliad y siop hon?

Dyma rywfaint o hanes Richard Evans Shop y Gongl.

Dyma enghraifft o dystysgrif a gyflwynid i blant ysgol o dan 7 oed ym 1901.

Bydd Ysgol Llanllechid yn barod i ddathlu penblwydd yn 70 cyn bo hir!

Cystadleuaeth Gneifio yn 'Rynys, Rachub! ('Gwalia', Hydref 1909)
Ymosodiad ar Rachub yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Diolch i Mr Idris Hughes, Ynys Vancouver, Canada am gael defnyddio copi o'r llythyr yma a ysgrifenwyd gan ei nain yn ystod y Ail Ryfel Byd. Ceir ynddo ddisgrifiad anhygoel o'r noson y gollyngodd aelodau o lu awyr yr Almaen eu bomiau ar bentref Rachub. Dyma gynnwys y llythyr:
LLan
Dear Idris
Just a word or two to you hope that you arrive there safe, last night Tues [?] we had all a great shock a German aeroplane came here about eight o clock at night with out any warning to us, so she came over the mountain what lights and flares she has got she was wandering about all the time so she drop her bomb at Caellwyngrydd, killed Mrs Davies Llwynderw her house came down it was a direct hit cut down the light we were all in the dark, through the night till morning what a night we were all in Mrs Roberts tŷ nesaf in twll dan y grisiau, Capel Batis his windows torn to pieces, Griffith John bake House pant Hwfa Field council house is by Capel Batis and many other places around Bethesda I do not want to see any of them again, I hope that you are quite safe that is the reason that I am sending this letter to you to day, I got no more news to say this time, we are all around here upset, after last night and this from Your Father and Mother
‘Talcan y Deyrnas’
Edrychwch ar y cerdyn post yma a anfonwyd ym 1929. Mae'r cyfeiriad yn ddiddorol iawn, sef 'Talcan y Deyrnas' Llanllechid. Mae'n amlwg mai dyma y gelwid 'Ffordd y Mynydd' ar un adeg.
Diolch yn fawr i Mr. Islwyn Evans, Llanfairfechan am gael defnyddio'r cerdyn.
Roedd teulu ‘Llanerchymedd’ yn ddylanwadol iawn yn yr ardal. Tybed oes yna luniau, hysbysebion neu hanesion gan unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r teulu hwn?
Daw hanes Jane Jones o’r ‘Genedl Gymreig’, Mehefin 5ed,1908
Cydraddoldeb yng Nghaellwyngrydd?
Yn ôl y sôn, roedd adeilad y ‘Llyfrgell’ neu’r ‘Libri' wedi ei adeiladu yn y gwagle tu ôl i Stryd Tanrallt. Yn y chwedegau, sbwriel a hen geir a.y.y.b. a oedd yno, a chyfeiriwyd at y lle fel ‘Cae Dymp’ gan blant yr ardal.