Ail Ryfel y Boer

1899 – 1902

gan Andre Lomozik

Cyfnod o wrthdaro yn Ne Affrica rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a Gweriniaeth Y Boer yn y Transvaal a’r Orange Free State oedd Rhyfel y Boer, yn fwyaf nodedig rhwng 1899 a 1902. Bu i un o’r enw Winston Churchill, (a ddaeth yn fyd enwog yn ddiweddarach fel arweinydd Prydain Fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd), i weithio yno fel gohebydd rhyfel. Cafodd ei ddal, a bu yn garcharor am fis cyn dianc ac ail ymuno â byddin Prydain. Bu’r ymladd yn ffyrnig a chreulon, a bu i tua 100,000 o bobl farw yn ystod y rhyfel, 20 mil o filwyr Prydain a 14 mil o filwyr y Boer. Ond nid oes cofnod llawn o faint o drigolion brodorol Affrica fu farw ond mae’n debyg i filoedd gael eu lladd. Yr adeg yma y ffurfiwyd ‘Gwersylloedd Carchar’ gan Brydain, y “Concentration camps”. Cafodd 115,000 o bobl eu rhoi yn y gwersylloedd yma a bu o leiaf 26,000 farw ynddynt, o newyn a chlefydau - y rhan fwyaf ohonynt yn ferched a phlant.

Mae’n debyg nad oes fawr o drigolion Rachub yn ymwybodol fod un o’r ardal yma wedi bod yn ymladd yn y rhyfel. Anfonodd lythyr adref i’w fam dyddiedig Rhagfyr 21ain 1899, ac ymddangosodd y llythyr ym mhapur newydd ‘Gwalia’, Dydd Mawrth 30ain Ionawr 1900.

Llythyr oddi wrth Gymro o Faes y Rhyfel

Dyma fel yr ysgrifenna Private Caradog Jones, 5839, E Company, Royal Welsh Fusiliers, at ei fam yn Caellwyngrydd (Bethesda): 

“Rhagfyr 21ain 1899.- Ychydig linellau gan obeithio eich bod oll yn iach, fel y mae yn fy ngadael inau yn bresennol. Mae’n debyg eich bod yn awyddus i wybod pa le yr ydwyf. Yr wyf wedi cyrhaedd Affrica ers mis yn ôl, cawsom fordaith dda drosodd yma: glaniasom yn Durban, ac oddiyno anfonwyd ni i Mooi River am wythnos, ac oddiyno i Estcourt, lle yr arhosasom am dri diwrnod. Yna anfonwyd ni i Chiveeley, lle tair milldir o Colenso. Mae’n debyg eich bod wedi gweld enwau yr oll o’r lleoedd yma yn y papurau. Un diwrnod cawsom orchymyn i symud o Chieveley i Colenso, lle yr oedd y Bweriaid. Ar ôl cyrhaedd yno agorodd y Bweriaid dân arnom, ac yna cymerodd brwydr fawr le, a chollodd ein hochr ni mil cant, a saith a deugain (1147) rhwng lladdedigion, clwyfedigion, a charcharorion; collasom hefyd wyth o fagnelau. Parhaodd y frwydr am wyth awr, o dan haul tanboeth, ac yna cawsom orchymyn i encilio i’n gwersyll ein hunain. Ni chollodd ein cartrawd ni ond tri o ddynion wedi ei clwyfo. Yr ydym yn awr yn aros am ragor o adgyfnerthion, ac yna fe wnawn ruthr arall arnynt, a’r tro nesaf yr ydwyf yn gobeithio y cawn y gorau arnynt. Yr wyf yn leicio yn iawn yma, ac y mae yr holl fyddin mewn ysbrydoedd da. Nid oes genym ond un peth i gwyno yn ei gylch, a hynny ydyw y dwfr sydd yma. Y mae yn rhaid i ni gerdded pedair milldir cyn cawn ddwfr i’w yfed, ac ni fuasai ceffyl yn edrych arno yn Nghymru. Y mae yn bur boeth yma. Nid oes gennyf ragor o newyddion yn bresennol. Yr wyf yn gobeithio y cewch Nadolig llawen a blwyddyn newydd gysurus. Gobeithiaf y caf ddyfod yn ôl i Gymru yn ddyogel ac iach, ac yna caf ddwyd yr oll hanes y rhyfel. Felly terfynaf gyda’m cariad gorau at yr holl deulu. – Oddiwrth eich anwyl fab, CARADOG”

Ganwyd Caradog ar y 12fed o Fai 1880, yn fab i Jane Jones, 10 Caegroes, Llanllechid.

Yng Nghyfrifiad 1881 cawn y wybodaeth yma.

Griffith Jones 51 Penteulu, Ellen 44 Gwraig, Jane 22 Merch, Hugh 16 Mab, Catherine 13 Merch, Ellen Jones 10 Merch, William J. 8 Mab, Mary 6 Merch, Anne 3 Merch, Henry Mab, Caradog Jones Wŷr.

Roedd yr holl deulu wedi eu geni yn Llanllechid.

Erbyn cyfrifiad 1891 mae Griffith Jones, wedi marw, ond nid oes carreg fedd i’w chanfod iddo yn Eglwys Santes Llechid. Yn ôl Arysgrifau Cerrig Coffa Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd, mae Cofnodion Plwyf Llanllechid yn nodi marwolaeth un o’r enw Griffith Jones, ar y 10fed o Ionawr 1889 yn 59 mlwydd oed ac wedi ei gladdu yn  Eglwys Santes Llechid.  

Mae Ellen yn cael ei henwi fel penteulu, a dim ond William G. 18 oed, Anne 13 oed, Henry 10 oed a Caradog 10 oed Wŷr, sydd wedi eu cofnodi ar y cyfrifiad. Roedd Caradog yn Ne Affrica erbyn cyfrifiad 1901, dim ond Ellen, Hugh, William, a Henry oedd wedi eu cofnodi ar cyfrifiad y flwyddyn yma. Roeddynt yn byw yn rhif 9 Maes yr Onnen erbyn hyn, a chwarelwyr oedd y tri mab.

Os anfonodd Caradog lythyrau eraill at ei deulu, ni chyhoeddwyd hwy ym mhapurau newydd y cyfnod.

Cefais ychydig mwy o’i hanes, mewn Cyfrifon Milwrol, o dan y pennawd Draft, Enlistment and Service. Mae’n ymddangos fod Caradog wedi ymuno â’r fyddin ar y 19eg o Fedi 1898 yn ddeunaw mlwydd a phum mis oed, lle mae’n nodi mai chwarelwr ydoedd yn ôl ei alwedigaeth. Roedd yn 5 troedfedd pedair modfedd a hanner o daldra gyda gwallt tywodliw (sandy) ac yn aelod o Eglwys Lloegr.

Mae yn goroesi’r rhyfel ac yn dychwelyd yn ôl i Brydain ac yna yn cael ei drosglwyddo i Adran y Milwyr wrth Gefn ar y 30ain o Hydref 1905, wedi iddo wasanaethu am saith mlynedd a phedwar deg dau o ddyddiau yn y fyddin. Ar dudalen arall o dan Name and Address of next of kin, mae enwau ei fam Ellen Jones, (Nain)? a’i frodyr William a Henry i’w gweld, ac yn nodi y medalau a dderbyniodd tra yn gwasanaethu yn Ne Affrica. South Africa Medal with Clasps Cape Colony, Transval, Tugela Heighs, Ladysmith, Orange Free State. Ar yr un tudalen mae’r sylw yma wedi ei ysgrifennu, DIED 19 – 9 – 09 yn 29 oed, ond nid oes mwy o wybodaeth ar gael. Os oes gan unrhyw un o ddarllenwyr y wefan hon unrhyw wybodaeth am ddynion lleol yn ymladd yn Rhyfel y Boer, mi fyddwn yn falch iawn o glywed gennych.

Ymosodiad gan Awyren o’r Almaen

gan Andre Lomozik

Bu farw Ellen Davies ar Fedi 24ain 1940, yn 60 oed, (59 ar garreg fedd y teulu a 61 yn y papurau newydd). Gollyngwyd ffrwydron ar Rachub wrth i awyren o’r Almaen hedfan trosodd. Gweddw Robert Llewelyn Davies oedd hi; cafodd yntau ei ladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyma yr ysgrif ar fedd y teulu ym Mynwent Eglwys Santes Llechid, Llanllechid.

‘Er serchog gof am 2830 Pte: Robert Llewelyn Davies, 1/6 RWF annwyl briod Ellen Davies, Llwyn Derw, Llanllechid, yr hwn a syrthiodd ar Faes y Gâd yn Suvla Bay, Hyd. 26, 1915, yn 33 mlwydd oed. Hefyd y ddywededig Ellen Davies, yr hon a laddwyd drwy ymosodiad y gelyn, Medi 24, 1940, yn 59 mlwydd oed. “Gorphwys maent oddiwrth eu llafur” Hefyd eu merch Mary Grace Thomas, 6 Tyddyn Canol, Llanllechid, a hunodd Ionawr 14, 1976, yn 70 mlwydd oed. “Hedd perffaith hedd”.’ 

ROBERT LLEWELYN DAVIES PRIOD ELLEN

Robert Llewelyn Davies - Priod Ellen

Dyma fel mae Yr Herald Cymraeg a’r Genedl, Medi 30ain 1940, (tud. 6) yn adrodd hanes yr ymosodiad. 

Bomio yng Ngogledd Cymru. 

Peth Difrod Mewn Pentref

‘Yn ystod yr wythnos ddiwethaf bu cryn fomio ar leoedd newydd yng Ngogledd Cymru. Bychan iawn oedd y difrod a wnaed, ac ni wnaed dim difrod o fath yn y byd i leoedd o bwysigrwydd milwrol.

Cafodd un ardal brofiad lled arswydus. Yn gynnar nos Fawrth goleuwyd y mynyddoedd oddi amgylch gan ffagodau, nes oedd y wlad fel dydd. Yna dechreuwyd gollwng bomiau, a niweidiwyd rhai adeiladau; ond ar ochrau’r mynyddoedd y disgynnodd y rhan fwyaf o’r bomiau, a’r unig ddifrod a wnaed oedd tyllu’r llechweddau anghyfannedd.

Niweidiwyd rhai tai yn y pentref, a lladdwyd un a chlwyfwyd eraill. Mewn un tŷ lladdwyd gwraig weddw, 61 mlwydd oed, a chlwyfwyd y ferch a’i dau blentyn, ac aed a hwy i’r ysbyty.

Achoswyd peth niwed – torri ffenestri – i ddau gapel, a’r un modd i rai siopau, ac anedd-dai. Effeithwyd ar drydan yr ardal hefyd o nos Fawrth hyd ganol dydd drannoeth.’

Yr wythnos ganlynol mae hanes ei hangladd, ac adroddwyd mai dyma un o’r angladdau mwyaf a welwyd erioed yn yr ardal.

Ond nid Ellen oedd yr unig un a fu farw yn yr ymosodiad yma. Bu i un o’r enw Thomas Davies, o 14 Wedgewood Street, Holt Road farw hefyd. Roedd yn cerdded adref i dŷ ei rieni yng nghyfraith ym Mraichmelyn pan ddigwyddodd yr ymosodiad, a dyma sut mae’r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio.

‘Died at Abercaseg Path, leading from Pant Road to Braichmelyn.’

Cawn adroddiad hefyd yn Yr Herald Cymraeg a’r Genedl, dyddiedig Medi 30, 1940, (tudalen 5,)

‘MARW SYDYN. Nos Fawrth, pan oedd yn cerdded i gyfeiriad cartref ei dad a’i fam yng nghyfraith, Mr a Mrs Thomas Davies, 6 Cefn Cwlyn, Braichmelyn, ar Lwybr Abercaseg bu farw Mr Thomas Davies, 14 Wedgewood Street, Holt Road, Edge Lane, Lerpwl, yn 64 mlwydd oed. Swyddog gydag un o gwmnïau y rheilffordd ydoedd cyn ymneilltuo ychydig amser yn ôl. Daeth ef a’i briod i Fethesda am eu gwyliau oddeutu pythefnos yn ôl.’

Ar y 7fed o Hydref 1940, yn 'Yr Herald Gymraeg' a’r 'Genedl', mae adroddiad arall yn ymddangos am gynhebrwng Thomas Davies.

‘Yn yr “Herald” yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd hanes marw sydyn Mr. Thomas Davies, Edge Lane, Lerpwl, pan oedd yn cerdded i gyfeiriad cartref ei dad a’i fam-ynghyfraith (Mr a Mrs Thomas Davies 6, Cefn Cwlyn, Braichmelyn). Brodor o Lanelwy ydoedd, a’i oed oedd 64 mlwydd. Aeth i Lerpwl 44 mlynedd yn ôl, a bu’n swyddog yng ngorsaf Lime Street am rai blynyddoedd. Ymneilltuodd ar bensiwn bedair blynedd yn ôl. Cymro trwyadl ydoedd, ac yr oedd yn aelod selog o Eglyws Dewi Sant, Hampstead Road, Lerpwl. Bu ei angladd dydd Sadwrn, Medi 28, ac yn Llanelwy y claddwyd ei weddillion. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parchn. E. Stanley Lloyd, Salem, a T. Nefyn Williams, Gerlan, ac yn Llanelwy gan Deon Llanelwy’. 

Ar dystysgrif marwolaeth Thomas Davies, mae achos ei farwolaeth yn cael ei nodi:

‘Due to war Operations.’ 

Previous
Previous

Datblygiad