Rheilffordd Bangor a Bethesda

Andre Lomozik

Yn ôl adroddiad a ymddangosodd yn ‘Y Genedl Gymreig’ Mawrth 12fed, 1884, bu i sawl damwain ddigwydd wrth adeiladu rheilffordd Bangor a Bethesda rhwng 1881 a 1884. Dyma fel mae ‘Cymmydog’ yn ysgrifennu am yr achlysur ar dudalennau ‘Baner ac Amserau Cymru’ Gorffennaf 9fed, 1884:

‘Tregarth:- Dydd Mawrth diwethaf oedd diwrnod agor llinell ffordd haiarn newydd Bangor a Bethesda. Cymerodd y pentref bychan hwn ran neullduol mewn dathlu y dydd, drwy chwyfio banerau o flaen y tai ac o’r ffenestri. Gobeithio y bydd i’w hagoriad chwanegu at gynnydd a llwyddiant ein pentref.’

Roedd trafodaethau ynglŷn ag agor y rheilffordd wedi dechrau cyn belled yn ôl â 1876, pan anfonwyd llythyr i’r Arglwydd Penrhyn, dyddiedig Gorffennaf 12fed, 1876, oddi wrth un o swyddogion y London & North Western Railway Company. Euston Station London N. W. Dyma ran o’r llythyr.

“My Lord, a deputation of gentlemen residing at Bethesda and in the neighbourhood has been to see me with regard to the Construction of a branch line from Bangor to Bethesda – so often previously talked of – and have intimated to me also that from communications which have been made, such a proposal would not be unsatisfactory to your Lordship”.

Ond yn ystod y gwaith o adeiladu’r ffordd haearn o Fangor i Fethesda bu pedair damwain angeuol. Lladdwyd Daniel Amos, William John Roberts, John Hughes, (er ei fod yn cael ei enwi fel Thomas Hughes yn yr adroddiadau newyddiadurol), a Rowland Williams. Dyma’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ‘Baner ac Amserau Cymru’ Mehefin 25ain, 1884 am farwolaeth Daniel Amos.

Prynhawn ddydd Mawrth diwethaf, cyfarfyddodd dyn o’r enw Daniel Amos, yr hwn a lettyai yn Hill Street, Upper Bangor, â damwain angheuol ar ffordd haiarn Bangor a Bethesda. Ymddengus ei fod yn sefyll ar un o’r tryciau llwythiedig oedd yn myned ar hyd y llinell; ac iddo, pan yn agos i Felin Hen, syrthio allan, pan aeth amryw dryciau drosto, gan ei dori yn ddau yn mron.

 Pedwar deg tri oedd oedran Daniel pan fu farw.

Bachgen o Fiwmares, oedd William John Roberts, pan fu farw ar y 31fed, o Fai, 1884. Dyma’r adroddiad o’r ‘Genedl Gymraeg’ ddydd Mercher, Mehefin 4ydd, 1884.

Damwain angheuol yn Bethesda:- Nos Sadwrn, yn ngorsaf Bethesda, lladdwyd un o’r enw William John (Roberts) oed 19, brodor o Beaumaris, tra wrth y gorthwyl o “scotchio” nifer o trucks ar y llinell.’

Ar dystysgrif marwolaeth William, gwelir y geiriau:

31 May 1884 on the line of railway now in course of Construction in Bethesda in the parish of Llanllechid. Accidental death by being runover by railway trucks.’

Rowland Williams oedd un arall a laddwyd wrth ei waith. Roedd Rowland a sawl un arall yn gweithio yn nhwnel Coetmor, (yr ochr agosaf at Bethesda) pan syrthiodd rhan o’r to i lawr arnynt. Dyma’r adroddiad yn ‘Baner ac Amserau Cymru’:

CWYMPIAD TYNEL AR FFORDD HAIARN BANGOR A BETHESDA, UN DYN WEDI EI LADD, A PHUMP WEDI EU NEWEIDIO. Tuag wyth o’r gloch foreu ddydd Mercher diweddaf, darfu i ran o’r tynel, yn yr ochr agosaf i Bethesda ar llinell y ffordd haiarn sydd yn awr yn cael ei gwneud, roddi i ffordd. Yr oedd yno fintai o lafurwyr yn y tynel, a chafodd pump o honynt eu niweidio trwy ddisgyniad y ddaear a’r gwaith pridd-faen. Torwyd asenau un dyn, o’r enw Rowland Evans, yr hwn a ddywedid oedd yn frodor o Amlwch, ond yr oedd yn alluog i gerdded i’w letty. Ond dechreuodd gwaedlifiad mewnol arno, a bu farw tua hanner awr wedi hanner dydd Mercher. Cafodd dyn arall, o’r enw John Jones, niweidiau difrifol i’w gefn a’i goes; ond y mae y tri erill wedi diangc gyda archollion ysgeifn. Priodolir yr achos o’r ddamwain i’r gwlawogydd mawrion a gymerodd le ddydd Mawrth. Cynnaliwyd trengholiad ar gorph y dyn a laddwyd ddydd Iau.’

Yn ôl ‘Y Genedl Gymreig’ Williams oedd cyfenw Rowland ac roedd yn dod o Laneilian ger Amlwch.

Bachgen un ar bymtheg oed oedd John Hughes, pan laddwyd ef ar y rheilffordd, er mai fel Thomas Hughes y caiff ei enwi gan y newyddiaduron. Mab ydoedd i John a Mary Hughes, o Lanfairfechan. Yn ôl cyfrifiad 1881 roedd y teulu sef John a Mary a’r plant, John 13 oed Catherine 9 oed a Elizabeth 7oed yn byw yn rhif 7, Brynhedydd, ond ganwyd y plant i gyd yn Llanfairfechan.

Cawn yr adroddiad canlynol yn ‘Y Genedl Gymraeg’, Ebrill 11, 1883:

Damwain Angeuol:- Prynhawn ddydd Llun diweddaf digwyddodd damwain angheuol i fachgen ieuanc o’r enw Thomas Hughes, perthynol i’r ‘Rachub, Llanllechid, yn agos i dwnel Coetmor, ar y llinell newydd sydd yn cael ei gwneud rhwng Bangor a Bethesda. Yr oedd yr ymadawedig yn dilyn ei orchwyl ar y llinell pan darawyd ef i lawr gan rai o’r gwageni oedd yn cludo ballast, ac aethant drosto gan achosi niweidiau dychrynllud iddo. Galwyd Dr Lloyd, Bethesda, yn ddioed, ond bu farw cyn i’r meddyg gyrraedd yno.

Er chwilio drwy arysgrifau cerrig coffa Eglwys Santes Llechid, nid wyf wedi darganfod ble mae John Hughes wedi ei gladdu yno, ond yn ôl cofnodion y Plwyf fe gladdwyd John ar y 7fed o Ebrill 1883, ym mynwent yr eglwys. Mae’n bosib nad oedd amgylchiadau’r teulu wedi caniatáu iddynt roi carreg ar ei fedd. Dyma’r adroddiad a welir ar dystysgrif marwolaeth John:

Accidently run over by wagon and received mortal injuries from which he died.’

 Rhywbryd rhwng marwolaeth John ym 1883 â chyfrifiad 1891, symudodd y teulu yn ôl i Lanfairfechan ac cawn hyd i John a Mary a’u merch Catherine (19 oed) yn byw yn rhif tri Bryn Rhedyn, Llanfairfechan.

Previous
Previous

Crefydd