Cymeriadau’r Ardal

Cymeriadau Capel ac Eglwys ar Daith

Tipyn o Ddynas!

Dyma hanes cymeriad diddorol o bentref Rachub. Ymddangosodd yr hanesyn yn Llais Ogwan ym mis Hydref 1995.

Mary Jane Jones, Plas Pistyll, Rachub yw'r wraig urddasol yma. Cyn iddi briodi roedd hi'n ysgrifenyddes i'r Arglwydd Penrhyn yn swyddfa'r chwarel. Cafodd chwech o blant, sef William John, Evan, John, Martha, Dan a Ben. Gan mor ddylanwadol a diwyd oedd y teulu ym mywyd y gymdogaeth rhoddwyd enw newydd i Blas Pistyll ar lafar gwlad - Downing!

Hynodrwydd Mary Jane oedd mai hi oedd yn llywio tîm pêl-droed Llechid Celts am flynyddoedd hyd at 1932. Hi oedd yn dewis pwy oedd yn chwarae ac ym mha safle. Amod pennaf cael eich dewis oedd mynd i gael tê ar ôl y gêm ym Mhlas Pistyll.

Gan Mrs. Gertrude Williams, wyres Mary Jane Jones y cafwyd y llun ar gyfer Llais Ogwan.

Pêl-droed Cynnar yn Rachub

gan Dilwyn Pritchard

Ym 1904 sefydlwyd Clwb Pêl Droed Llechid Swifts/Celts ym mhentref Rachub. Serch hynny roedd dau frawd o'r pentref wedi cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol ddegawd a mwy cyn hynny. Dyma gyfnod pan oedd amaturiaid a chwaraewyr proffesiynol yn chwarae yn yr un tîm. Ym 1880 dewiswyd yr asgellwr, William Pierce Owen i chwarae dros Gymru am y tro cyntaf, a hynny dan gapteniaeth Billy Meredith, chwaraewr enwog gyda Manchester City. Aeth ymlaen i chwarae ddwsin o weithiau dros Gymru gan sgorio saith o goliau. Fe'i  addysgwyd yn Ysgol y Friars ym Mangor a Choleg Crist, Aberhonddu. Bu hefyd yn chwarae gyda thîm Rhuthun, un o dimau amatur gorau Cymru yn y cyfnod hwnnw. Daeth ei yrfa ryngwladol i ben ym 1884. Fel y digwydd, dyna'r flwyddyn y cafodd ei frawd, Elias, ei ddewis i chwarae dros Gymru. Golwr oedd ei safle ac enillodd dri chap. Cafodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Daeth gyrfa bêl-droed y ddau ohonynt i ben ym 1884 a chwaraeodd y ddau frawd yn yr un tîm  rhyngwladol yn ystod y tymor hwnnw. Magwyd y ddau yn 28, Ffordd Llanllechid, yn feibion i Elias Owen, Prifathro Ysgol Eglwys Rachub rhwng 1851 ag 1871.

Elias Owen, a chwaraeodd fel golgeidwad i dîm Cymru dair gwaith. Roedd yn frawd i William Pierce Owen,a'r ddau'n feibion i Elias Owen a fu'n brifathro yn Ysgol yr Eglwys, Rachub.

Elias Owen, a chwaraeodd fel golgeidwad i dîm Cymru dair gwaith. Roedd yn frawd i William Pierce Owen,a'r ddau'n feibion i Elias Owen a fu'n brifathro yn Ysgol yr Eglwys, Rachub.

Dyma lun o Elias Owen, y tad.

Gwilym Jones

Mae'n debyg fod nifer fawr o bobol yn dal i gofio'r dewin anhygoel o Faes Bleddyn sef Mr Gwilym Jones. Yn ôl pob sôn, roedd a'i fryd ar wneud triciau ers pan oedd o'n blentyn, a dysgodd ei grefft, i ddechrau, gan ewythr iddo, ac yna drwy ddarllen a darllen ac ymarfer yn ddi-baid! Dywedai rhai ei fod yn gwneud triciau yng Nghae Rhosydd, gan godi dimau ar blant Maes Bleddyn i ddod i wylio'r sioe! Dechreuodd gyda thriciau cardiau, a gallai wneud dros hanner cant ohonynt. Bu'n defnyddio colomennod yn ei act am ychydig, ac roedd y rhain yn plesio'r gynulleidfa'n fawr. Ond pan gyflwynodd lygod bach gwynion i'r perfformiad, roedd yn fater gwahanol, - yn enwedig yr ymateb a gafwyd gan y merched! "Roeddynt yn sgrechian gormod" meddai Gwilym.

Bu'n arddangos ei driciau mewn sioeau ar hyd a lled Gogledd Cymru, gan dderbyn ymateb gwych pob tro. Bu ar daith hefyd i'r Alban gyda grŵp y 'Naturals', gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd helaeth. Roedd yn brysur dros ben pob Nadolig, gan fod galw mawr arno i gymryd rhan mewn partïon plant, cyngherddau a nosweithiau ar gyfer yr henoed.

Cafodd y fraint o gael ei dderbyn i 'Gylch Consuriwyr Gogledd Cymru'. Er mwyn cael mynediad i'r cylch yma [Magic Circle], roedd rhaid dyfeisio tric newydd sbon, ac fe wnaeth Gwilym hynny. Ond ei hoff dric oedd y 'Floating Lady',- tric oedd yn dibynnu ar offer drud iawn, ond gallai wneud i ferch hofran am 'chydig, cyn iddi ddiflannu'n llwyr!

Oedd wir! Roedd Rachub yn bentref hudolus iawn yn y cyfnod rhwng y 60au a'r 90au, diolch i Gwilym Jones a'i driciau anhygoel!

Cafwyd y rhan fwyaf o'r wybodaeth uchod o 'Llais Ogwan' Chwefroro 1976 mewn erthygl gan Richard Williams. Cofiwch am y cyfrolau hyn (Llais Ogwan o 1974 ymlaen) sydd i'w gweld ar silffoedd Llyfrgell Bethesda - diolch i Mr. Andre Lomosik.

Huw Sgwd (1934)

Mae’n amlwg bod y cymeriad yma wedi tynnu sylw’r artist John Petts. Dyma argraffiad leino o’r gŵr a’r cwningod.

Anfonwch wybodaeth inni amdano.

Previous
Previous

Papurau a Dogfennau

Next
Next

Addysg