Hen Arwydd

Dyma lun o arwydd sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Cymru yn Abertawe. Pwy sy’n ei gofio?

Teiliwr

Oes gan unrhyw un wybodaeth am Robert Parry? Roedd yn deiliwr yn ei siop yn Stryd y Ffynnon ym 1907.

Meddyg Esgyrn

‘North Wales Chronicle’ 1853

Meddyg Esgyrn oedd John Roberts, yn byw yn Rachub, ond yn wreiddiol o ardal Beddgelert.

Oes gan unrhyw un wybodaeth neu hanesion am ‘Feddygon Esgyrn’ eraill o’r ardal?

Wyt ti’n cofio…?

Dyma gyfres o benillion a ysgrifenwyd gan Mrs. Eileen Griffiths (Llan) i’w chwaer, Blodwen ym 1985. Ynddynt ceir darluniau hyfryd o fywyd yn Rachub pan oedd Eileen yn ifanc, a delweddau gwych o hen gymeriadau ac arferion y cyfnod. Crybwyllir siopau Griffiths Bells, William Edwards, Margiad Parry ac wrth gwrs siop chips Madam, yn ogystal â Ffair Llan a Dawns John ‘P’. Sonnir am y defnydd a wnaed o Ogof Efail Nant yn ystod cyfnod y rhyfel ac am yr arferiad o fynd â thoes i Fecws Cae’r Groes ar gyfer ei grasu. Mae nifer helaeth o gyfeiriadau at bethau nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach e.e. barclod sach, casgen bren, mul untroed, mul trithroed a hanner coron. Diolch i Ken Griffiths am gael cynnwys y penillion ar y wefan.

Ymosodiad ar Rachub yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Diolch i Mr Idris Hughes, Ynys Vancouver, Canada am gael defnyddio copi o'r llythyr yma a ysgrifenwyd gan ei nain yn ystod y Ail Ryfel Byd. Ceir ynddo ddisgrifiad anhygoel o'r noson y gollyngodd aelodau o lu awyr yr Almaen eu bomiau ar bentref Rachub. Dyma gynnwys y llythyr:

LLan

Dear Idris

Just a word or two to you hope that you arrive there safe, last night Tues [?] we had all a great shock a German aeroplane came here about eight o clock at night with out any warning to us, so she came over the mountain what lights and flares she has got she was wandering about all the time so she drop her bomb at Caellwyngrydd, killed Mrs Davies Llwynderw her house came down it was a direct hit cut down the light we were all in the dark, through the night till morning what a night we were all in Mrs Roberts tŷ nesaf in twll dan y grisiau, Capel Batis his windows torn to pieces, Griffith John bake House pant Hwfa Field council house is by Capel Batis and many other places around Bethesda I do not want to see any of them again, I hope that you are quite safe that is the reason that I am sending this letter to you to day, I got no more news to say this time, we are all around here upset, after last night and this from Your Father and Mother

‘Talcan y Deyrnas’

Edrychwch ar y cerdyn post yma a anfonwyd ym 1929. Mae'r cyfeiriad yn ddiddorol iawn, sef 'Talcan y Deyrnas' Llanllechid. Mae'n amlwg mai dyma y gelwid 'Ffordd y Mynydd' ar un adeg.

Diolch yn fawr i Mr. Islwyn Evans, Llanfairfechan am gael defnyddio'r cerdyn.

Roedd teulu ‘Llanerchymedd’ yn ddylanwadol iawn yn yr ardal. Tybed oes yna luniau, hysbysebion neu hanesion gan unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r teulu hwn?

Daw hanes Jane Jones o’r ‘Genedl Gymreig’, Mehefin 5ed,1908


Cydraddoldeb yng Nghaellwyngrydd?

Yn ôl y sôn, roedd adeilad y ‘Llyfrgell’ neu’r ‘Libri' wedi ei adeiladu yn y gwagle tu ôl i Stryd Tanrallt. Yn y chwedegau, sbwriel a hen geir a.y.y.b. a oedd yno, a chyfeiriwyd at y lle fel ‘Cae Dymp’ gan blant yr ardal.

Next
Next

Cymeriadau