‘Iaith Pesda’ gan Mrs Mary Jones

Cyfarfod 26.04.23

Clwb Criced Bethesda

Roedd ystafell fawr y Clwb Criced yn orlawn ar nos Fercher olaf mis Ebrill, gan fod ‘na hen ddisgwyl wedi bod am sgwrs Mary Jones am ‘Iaith Pesda’. Mae’r golofn ‘Iaith Pesda’ yn Llais Ogwan wedi dod yn hynod boblogaidd erbyn hyn a nifer helaeth o’r ardalwyr yn ymhyfrydu mewn cofio, trafod a dehongli tarddiadau geiriau sy’n arbennig i’n hardal ni, ac i ardaloedd tebyg yn y rhan yma o ogledd Cymru. Mae’n amlwg iawn fod geiriau’n newid ac yn diflannu pan fydd cymdeithas yn newid, a hen greiriau ac arferion yn peidio â bod. Mae hyn yn wir am y chwarel wrth gwrs. Ychydig iawn sy’n defnyddio ‘swper chwarel’ erbyn hyn, a ‘caniad’, ‘caban,’ ‘bargen’ a’ blocyn tîn’! Byddai trigolion yr ardal yn arfer defnyddio sŵn y ffrwydradau fel cloc bron iawn, oherwydd roedd y ‘saethu’n  digwydd yn rheolaidd. Clywyd pobol yn dweud pethau tebyg i ‘Mae’n rhaid i mi frysio.. maen nhw wedi saethu yn y chwaral… mae hi wedi un o’r gloch yn barod!” Mae’r term ‘colli limpyn’ yn gysylltiedig â’r chwarel hefyd sef colli’r ‘lynch-pin’ oedd yn cysylltu’r wagenni ar y ‘lein fach’, felly roedd popeth yn mynd yn wyllt ac ar chwâl.

Cafwyd trafodaethau am eiriau ac ymadroddion yn ymwneud â’r tywydd, tân a hyd yn oed ffraeo! Mae haul y gwanwyn, wrth gwrs, yn waeth na gwenwyn, ac mae’r hen ‘wynt diog’ ‘na yn mynd drwyddoch chi yn hytrach nag o’ch cwmpas! Dydi ‘eira ŵyn bach’ ddim yn debygol o barhau’n hir iawn, ac mae gweld eira ar gopaon y mynyddoedd cyn Ffair Llan yn erthylu’r gaeaf, felly gaeaf tyner fydd hi! Mae ‘ffenast bach y Nant’ a charreg sgleiniog yn ardal y Marchlyn Bach yn arwyddion tywydd arbennig iawn yn ôl y sôn. Crybwyllwyd ‘tân oer’, ‘tân siafins’, ‘tân eira’, tân yn picio’, mŵg taro a ’thorri glo mân yn gnapia’. Soniwyd am huddyg, lludw, dynion lludw a lori ludw, - pethau sydd wedi diflannu erbyn hyn. A beth am y dillad fyddai’n ‘deifio’ o’u gosod yn rhy agos at y tân – a’r ‘coesau corn bîff’ a gaech pan fyddech yn sefyll yn rhy agos at y fflamau? Tybed a gawsoch gelpan, twll clust, cefn llaw, chwip dîn, bonclust neu swadan iawn erioed? Mae cymaint o eiriau gennym am ymosodiadau corfforol! Mae rhannau’r corff yn eithaf amlwg mewn enwau strydoedd, tai a phentrefi, e.e. Braichmelyn, Braich Talog, Troed y Rhiw, Pen y Graig, ac un sy’n arbennig iawn i Rachub sef ‘Talcen y Deyrnas’ (Ffordd y Mynydd). 

Diolch yn fawr iawn, Mary, am gyfarfod gwerth chweil! 

Previous
Previous

‘Edward Stephen - Tanymarian’ gan Mr. Trystan Lewis

Next
Next

‘Sgotwrs Lleol’ gan Mr. Bryn Evans