‘Iaith Pesda’ gan Mrs Mary Jones
Cyfarfod 26.04.23
Clwb Criced Bethesda
Roedd ystafell fawr y Clwb Criced yn orlawn ar nos Fercher olaf mis Ebrill, gan fod ‘na hen ddisgwyl wedi bod am sgwrs Mary Jones am ‘Iaith Pesda’. Mae’r golofn ‘Iaith Pesda’ yn Llais Ogwan wedi dod yn hynod boblogaidd erbyn hyn a nifer helaeth o’r ardalwyr yn ymhyfrydu mewn cofio, trafod a dehongli tarddiadau geiriau sy’n arbennig i’n hardal ni, ac i ardaloedd tebyg yn y rhan yma o ogledd Cymru. Mae’n amlwg iawn fod geiriau’n newid ac yn diflannu pan fydd cymdeithas yn newid, a hen greiriau ac arferion yn peidio â bod. Mae hyn yn wir am y chwarel wrth gwrs. Ychydig iawn sy’n defnyddio ‘swper chwarel’ erbyn hyn, a ‘caniad’, ‘caban,’ ‘bargen’ a’ blocyn tîn’! Byddai trigolion yr ardal yn arfer defnyddio sŵn y ffrwydradau fel cloc bron iawn, oherwydd roedd y ‘saethu’n digwydd yn rheolaidd. Clywyd pobol yn dweud pethau tebyg i ‘Mae’n rhaid i mi frysio.. maen nhw wedi saethu yn y chwaral… mae hi wedi un o’r gloch yn barod!” Mae’r term ‘colli limpyn’ yn gysylltiedig â’r chwarel hefyd sef colli’r ‘lynch-pin’ oedd yn cysylltu’r wagenni ar y ‘lein fach’, felly roedd popeth yn mynd yn wyllt ac ar chwâl.
Cafwyd trafodaethau am eiriau ac ymadroddion yn ymwneud â’r tywydd, tân a hyd yn oed ffraeo! Mae haul y gwanwyn, wrth gwrs, yn waeth na gwenwyn, ac mae’r hen ‘wynt diog’ ‘na yn mynd drwyddoch chi yn hytrach nag o’ch cwmpas! Dydi ‘eira ŵyn bach’ ddim yn debygol o barhau’n hir iawn, ac mae gweld eira ar gopaon y mynyddoedd cyn Ffair Llan yn erthylu’r gaeaf, felly gaeaf tyner fydd hi! Mae ‘ffenast bach y Nant’ a charreg sgleiniog yn ardal y Marchlyn Bach yn arwyddion tywydd arbennig iawn yn ôl y sôn. Crybwyllwyd ‘tân oer’, ‘tân siafins’, ‘tân eira’, tân yn picio’, mŵg taro a ’thorri glo mân yn gnapia’. Soniwyd am huddyg, lludw, dynion lludw a lori ludw, - pethau sydd wedi diflannu erbyn hyn. A beth am y dillad fyddai’n ‘deifio’ o’u gosod yn rhy agos at y tân – a’r ‘coesau corn bîff’ a gaech pan fyddech yn sefyll yn rhy agos at y fflamau? Tybed a gawsoch gelpan, twll clust, cefn llaw, chwip dîn, bonclust neu swadan iawn erioed? Mae cymaint o eiriau gennym am ymosodiadau corfforol! Mae rhannau’r corff yn eithaf amlwg mewn enwau strydoedd, tai a phentrefi, e.e. Braichmelyn, Braich Talog, Troed y Rhiw, Pen y Graig, ac un sy’n arbennig iawn i Rachub sef ‘Talcen y Deyrnas’ (Ffordd y Mynydd).
Diolch yn fawr iawn, Mary, am gyfarfod gwerth chweil!
‘Sgotwrs Lleol’ gan Mr. Bryn Evans
Cyfarfod 29.03.23
Clwb Criced Bethesda
Cafwyd cyfarfod tu hwnt o ddifyr yn y Clwb Hanes yn ddiweddar yng nghwmni Mr. Bryn Evans ‘Bron Arfon,’ oedd yn sôn am y traddodiad pysgota - neu ‘foirio’ yn yr ardal leol. Soniodd am y cyfoeth naturiol sydd gennym o’n hamgylch yma, - yn llynnoedd ac yn afonydd gwych oedd yn llawn pysgod ar un adeg! Ond wrth gwrs, fe hawliodd yr Arglwydd Penrhyn y dyfroedd er mwyn iddo ef a’i ffrindiau cyfoethog gael pysgota ynddynt. Yn naturiol, roedd rhai o’r trigolion lleol yn rhoi cynnig ar ‘botsio’, ond roedd dirwy o £9 yn eu hwynebu pe cawsant eu dal, yn ogystal â cholli eu gwaith yn y chwarel. Yna, crëwyd ‘Cymdeithas Genweirwyr Dyffryn Ogwen’ pan gafodd y trigolion lleol hawl gan Penrhyn i bysgota rhannau o ddyfroedd yr ardal. Cymdeithas oedd hon a oedd yn addysgu ei haelodau i ddefnyddio genwair, cawio plu a thaflu pluen yn gelfydd. Daeth Bryn â nifer o enweiriau a phlu i’w harddangos, a mawr oedd diddordeb yr aelodau ynddynt.
Yr hyn a oedd yn wych am y noson oedd fod darlith Bryn wedi ysgogi trafodaeth ddifyr ynglŷn â rheolau, cystadlaethau, meintiau a lliwiau pysgod, pontydd a phyllau’r ardal. Roedd yr atgofion yn llifo, a hynny mewn Cymraeg graenus a oedd yn orlawn o dermau gwych o’r byd pysgota. Roedd yn bleser cael gwrando ar y cyfan. Diolchwyd iddo ar ddiwedd y noson gan Mr. Einion Thomas, a gwerthfawrogwyd y cyfan gan y gynulleidfa. Diolch yn fawr iawn Bryn!
‘Lleoedd y Dylluan’ gan Mr. Dafydd Fôn Williams
Stad Coetmor 1485-1855
Cyfarfod 22.02.23
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Croesawyd ein siaradwr gwadd, Mr Dafydd Fôn Williams, gan Dr. John Llywelyn Williams, ac yn wir cafwyd darlith anhygoel a oedd yn amlwg yn ffrwyth ymchwil sylweddol iawn! Roedd ‘Lleoedd y Dylluan’ yn ddarlith a oedd yn canolbwyntio ar y sgwaryn o dir sydd rhwng Lôn Bach Odro a’r Lôn Bôst a rhwng Rachub a Phantdreiniog, sef hen ystad Coetmor. Roedd tiroedd ym Mangor, Llanfairfechan a Llanfairpwll, hefyd wedi bod yn rhan o’r stad 1500 acer ar un adeg.
Plasty Coetmor - J. T. Parry
Ceir cyfeiriad at Goetmor yn un o gywyddau Guto’r Glyn ym 1475, ac yn yr un cyfnod, roedd gŵr o’r enw Robert Fychan yn byw yn y plasdy hardd oedd yn bodoli ar safle presennol fferm Coetmor Uchaf. Roedd teulu Robert Fychan yn ddisgynyddion i Llywelyn ein Llyw Olaf, a brawd ei nain yn brif gadfridog i Owain Glyndŵr, sef Rhys Gethin! Felly mae’n amlwg fod cysylltiadau pwysig iawn gan deulu Stad Coetmor ar y pryd! Priododd Mary Coetmor i deulu Pughe o Hen Neuadd y Penrhyn, ardal Llandudno yn y ddeunawfed ganrif. Daeth y teulu hwn i’r amlwg gan mai hwy fu’n gyfrifol am argraffu’r llyfr Cymraeg cyntaf ym 1587 mewn argraffdy cudd yn Ogof Rhiwledyn ar y Gogarth Fach. Roedd y teulu’n cael eu herlid am fod yn Gatholigion, ac yn gorfod cuddio yn yr ogof am gryn amser!
Bu Plasdy Coetmor yn ganolfan fywiog a phwysig iawn am ganrifoedd, ond dan ofal James Coetmor Pughe, dyled ar ôl dyled oedd yn wynebu’r Stad, ac yn y diwedd fe’i llyncwyd gan Stad y Penrhyn. Yn ddiddorol iawn, gellir cysylltu llinach sawl person enwog â theulu Coetmor, gan gynnwys yr Arlywydd Roosevelt, y bardd T. S. Elliot a’r actor Benedict Cumberbatch! Mae hynt a helyntion y teulu anhygoel hwn yn rhy niferus i’w rhestru wrth gwrs, ond mawr obeithiwn y byddwn yn gweld y cyfan yn cael ei gyhoeddi rhwng dau glawr yn y dyfodol! Diolch yn fawr Dafydd!
Dr John Elwyn Hughes
Gyda thristwch mawr y derbyniwyd y newydd trist am farwolaeth John Elwyn Hughes.
Pan oeddem yn sôn am gychwyn dosbarth hanes yn Rachub/Llanllechid ei ymateb syth oedd; 'Ar bob cyfrif ewch amdani ac os gallaf fod o gymorth cysylltwch hefo mi.' Do, bu Elwyn Hughes yn 'gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder' i ni dros y blynyddoedd. Byddai ar y rhestr yn flynyddol i roi darlith neu rannu o'i stor o ddarluniau lleol gyda ni.
Dyn ei filltir sgwâr heb os oedd Elwyn Hughes a meddai ar wybodaeth helaeth am ardal Dyffryn Ogwen, ei digwyddiadau, amgylchiadau a chymeriadau lleol. Bu'n barod iawn i rannu ei wybodaeth gyda sawl cymdeithas o fewn y dyffryn a thu hwnt.
Diolch iddo am fod yn gefn i Glwb Hanes Rachub ar hyd y blynyddoedd.
Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu oll yn eu profrdigaeth lem.
Hyfforddiant Achub Bywyd
Cyfarfod 08.12.2022
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Gwybodaeth bwysig gan y Rhingyll Arwyn Jones
Cafwyd noson wahanol i’r arfer ar nos Iau yr 8fed o Ragfyr yn Festri Capel Carmel, Rachub. Nid sgwrs am hanesion lleol a gafwyd, ond hyfforddiant gan y Rhingyll Arwyn Jones ar sut i ddefnyddio’r peiriannau ‘diffib’ (neu beiriannau ‘cicio’r galon’ yn ôl rhai).
Erbyn hyn, gwelir llawer o’r peiriannau hyn ledled y wlad, a cheir rhai ohonynt ym Mhlas Ffrancon, ciosg ffôn Rachub, y Clwb Criced, a Stryd Bethesda, ac mae’n wir dweud eu bod yn gallu achub bywydau o’u defnyddio’n iawn. Mae Arwyn Jones wedi bod yn gweithio fel nyrs a swyddog ambiwlans cyn ymuno â’r heddlu, ac mae’n parháu i weithio’n wirfoddol fel ‘Ymatebydd brys,’ felly roedd yn gallu rhoi gwybodaeth yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad. Cafodd yr aelodau roi cynnig ar roi CPR i’r cleifion ffug, a dysgu’r ffordd gywir o wneud hynny, yn ogystal ag astudio’r peiriannau eu hunain.
Roedd y sesiwn yn hynod ddifyr ac yn werthfawr iawn i’r gymuned.
Diolch yn fawr Arwyn!
Dylanwadau’r Ardal ar Artist Lleol: Anna Pritchard
Cyfarfod 30.11.2022
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Croesawyd yr artist a’r dylunydd tecstiliau Anna Pritchard i’r Clwb Criced ar noson olaf mis Tachwedd, i sôn wrthym am ei gwaith a’r dylanwadau diddorol arni fel person creadigol.
Cafodd Anna ei magu ar fferm Glasinfryn, ac erbyn hyn mae’n byw gyda’i theulu yn Waun Wen, Glasinfryn. Yn wir, ei chefndir amaethyddol a thraddodiadau cefn gwlad Dyffryn Ogwen sydd wedi dylanwadu fwyaf arni fel artist. Mae ei theulu’n gysylltiedig â’r ardal ers canrifoedd, ac wedi ffermio mewn nifer helaeth o ffermydd lleol, e.e. Blaen y Nant, Dinas, Bronydd, a Choetmor.
Ffermdy Coetmor Isaf -
Ken yw’r hogyn bach.
Dangosodd luniau hyfryd o’i hen deulu yn y mannau hyn a soniodd am eu hen arferion e.e. gwerthu llysiau ar ‘stondinau’ tu allan i’r ffermdai, a defnyddio cart a cheffyl i fynd o gwmpas y lle i gasglu dail, gan eu hailgylchu ymhell cyn i ailgylchu ddod yn ffasiynol!
Irene (nain Anna), Ken ac Annie (hen nain Anna) a Norma Llan (y ferch ifanc).
Mae’r nodweddion amaethyddol, Cymreig, lleol yn hollol amlwg yn ei gwaith gwehyddu. Yr elfen amlycaf yw clustnodau ffermydd y Dyffryn, a gwelwyd hen lyfryn yn ei meddiant o holl glustnodau defaid yr ardal. Ymhlith y rhain roedd nôd clust fferm Llwyn Bedw - fferm sydd erbyn hyn â’i holion o dan stâd newydd o dai dros y ffordd i Faes Bleddyn! Yn ei gwaith, hefyd, gwelir y pileri llechi sy’n nodweddiadol o’r tirlun, yn ogystal â ffyn bugeiliaid, cyrn, gweill a blodau gwyllt cynhenid.
Dangosodd y gynulleidfa ddiddordeb mawr yn y carthenni gwlân lliwgar, a chafwyd trafodaeth hwyliog ar ddiwedd y cyflwyniad.
Diolch yn fawr iawn i ti Anna!
Anna gyda samplau o’i gwaith gwych!