Llyfr Newydd: ‘Ardal Rachub - Tair Taith Fer’
Mae mynd am dro gyda theulu neu ffrindiau i grwydro’r ardal leol, yn brofiad hynod werthfawr yn gymdeithasol, ieithyddol, addysgol a chorfforol - i oedolion a phlant fel ei gilydd. Er mai pentref bychan yw Rachub, mae digon o elltydd yma i gael ymarfer da i’r corff, a digon o fannau diddorol i ddysgu amdanynt ym mhob twll a chornel o’r ardal. Bu cymeriadau ffraeth iawn yn byw yma, yn ogystal ag ysgolheigion, artistiaid, beirdd a pherfformwyr o bob math! Mae adeiladau diddorol yma - o’r ysgoldai a’r addoldai i gwt barbar a stiwdio recordio - heb sôn am ffatri gocos ac olion adeiladau cynefin iawn!
Tair taith fer a geir yn y llyfr hwn, gyda’r gobaith y bydd oedolion a phlant yn cyd-gerdded y llwybrau, gan ddysgu am fannau o ddiddordeb, a thrafod yr hanesion wrth fynd am dro. Gobeithio, hefyd, y bydd y llyfr yn ddefnyddiol i ysgolion lleol, yr Ysgol Sul ac ambell grŵp cerdded.
Mwynhewch y crwydro!
Mae’r llyfrau ar gael yn LONDIS Bethesda yn ogystal â gan aelodau o’r Clwb Hanes.
'Taith Hanesyddol mewn Lluniau - Adeiladau Rhestredig ardal Llais Ogwan' gan André Lomozik
Cyfarfod 29.11.2023
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Croesawyd yr hanesydd lleol André Lomosik i ystafell fawr y Clwb Criced, ar noson rewllyd o Dachwedd i ddangos lluniau ar sgrin o adeiladau rhestredig ardal Llais Ogwan. Roedd llond ystafell o aelodau yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed sgwrs gan André, gan eu bod yn gwybod am ei ddawn drefnus fel ymchwilydd hanesyddol eisoes. Soniodd Dilwyn Pritchard yn ei gyflwyniad am yr ymchwiliadau swmpus o’i eiddo sy’n ymddangos yn Llais Ogwan ac i’w gweld ar silffoedd Llyfrgell Bethesda.
Yn ardal Llais Ogwan, ceir dros 200 o adeiladau rhestredig; 157 yn Llandygai, 66 yn Llanllechid, a 92 ym Mhentir. Canolbwyntiodd André ar ardaloedd Llandygai a Llanllechid yn y sgwrs arbennig yma. Yn naturiol mae nifer helaeth o’r adeiladau yma ym mhentref Llandygai a’r cyffiniau, oherwydd dylanwad cyfoeth teulu’r Penrhyn, a nifer hefyd yn Nhalybont, sydd ym Mhlwyf Llanllechid, ond yn agos at Landygai.
Yr adeiladau a chreiriau sydd o ddiddordeb i ni yn yr ardal hon mae’n debyg yw Eglwys Llan, y cloc haul llechen bendigedig [1795] a saif tu allan i’r eglwys yn ogystal â’r ciosg ffôn (o gyfnod Siôr VI) sydd wedi ei leoli tu allan i’r ‘Hen Bwl’! Mae ffermdai Coetmor, Coed Uchaf ac Abercaseg wedi eu rhestru, yn ogystal â chapeli Bethania, Bethesda, Jerwsalem, Shiloh ac Eglwys Glan Ogwen. Mae tafarndai’r Fictoria, King’s Arms a’r Douglas wedi eu rhestru - hefyd, pontydd, cerrig milltir, pileri llechi, tolldai a ‘Thŷ Pwyso’ ar yr hen A5. Wrth gwrs, mae’n amlwg fod adeiladau hanesyddol fel Tŷ John Iorc, yn rhestredig, yn ogystal â Phlasty a Melin Cochwillan. Mae’n anodd credu nad oes unman yn Rachub a Chaellwyngrydd sy’n haeddu statws o ryw fath; mae’n siŵr nad ydych yn brin o syniadau… Yr Hen Gwt Barbar efallai...? Ysgoldy Carmel...? Tŷ Madam Chips...? Dyna ddigon ar y breuddwydio! Diolch yn fawr André, am y gwaith ymchwil manwl!
‘Corlannau’r Carneddau’ gan Nigel Beidas
Cyfarfod 25.10.23
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Daeth bron i hanner cant o bobl ynghŷd yng Nghlwb Criced Bethesda i wrando ar sgwrs wych yn dwyn y teitl ‘Corlannau’r Carneddau’ gan y ffotograffydd Nigel Beidas. Cafodd Nigel olwg wahanol iawn ar y corlannau/buarthau ers iddo brynu drôn tua pedair blynedd yn ôl, a gallu gweld y siapiau a’r patrymau unigryw o’r awyr, yn hytrach nag o’r tir. Dangosodd i ni, nifer fawr o sleidiau, ac roedd yr hanesion diddorol oedd ganddo am bob ffotograff yn portreadu dyfnder ei waith ymchwil yn y maes. Bu’n treulio oriau lawer yng nghwmni amaethwyr yr ardal, gan ddysgu o’u profiad am ddefnydd o’r corlannau, ac am arferion hen a newydd. Soniodd am swyddogaethau’r gwahanol gelloedd o fewn y gorlan, e.e. corlan gynefino, corlan gasglu, corlan ddidoli, a dysgwyd bod cell i bob fferm unigol yn ogystal â chell i’r defaid coll. Roedd tyllau rhwng pob cell er mwyn hwyluso’r gwaith o ddidoli’r defaid. Soniodd Nigel hefyd am gorlannau tebyg iawn mewn gwledydd eraill fel Croatia a’r Swistir, a cawsom glywed am gysylltiad corlannau’r Carneddau â’r merlod mynydd, yn ogystal â’r porthmyn. Defnyddiwyd y cerrig oedd ar lethrau’r mynyddoedd i adeiladu amrywiaeth o gytiau a waliau a.y.y.b. gan gynnwys trapiau llwynogod, cytiau mynn a llochesi bugeiliaid. Cewch hanes y corlannau mewn manylder, yn ogystal â chael cyfle i weld y ffotograffau gwych ar wefan Nigel Beidas – www.cofnodicorlannau.org
Diolch yn fawr, Nigel, am ddarlith wefreiddiol, ac i Dr. John Llywelyn Williams am ei gyflwyniad ac am arwain trafodaeth ar ddiwedd y ddarlith.
‘Cynffonwyr Punt y Gynffon - Bethesda 1900-03’ gan Dr John Llywelyn Williams
Cyfarfod 27.09.23
Clwb Criced Bethesda
Er bod gwyntoedd storm Agnes yn rhuo dros y wlad, doedd dim am rwystro criw sylweddol o aelodau Clwb Hanes Rachub rhag llenwi ystafell fawr y Clwb Criced i wrando ar Dr. John Llywelyn Williams yn traddodi ei ddarlith hynod ddiddrol, ‘Cynffonwyr Punt y Gynffon – Bethesda 1900 – 1903.’ Roedd gwaith ymchwil manwl yma, yn trafod helyntion y streicwyr yn ogystal â’r rhai a ddychwelodd i’r chwarel. Trafodwyd yr hollt enfawr a achosodd y streic yn yr ardal, a’r unigolion a’u teuluoedd a effeithiwyd gan ormes yr Arglwydd Penrhyn a’i griw.
Pwysleisiwyd bod dwy ochr i bob stori, a bod rhaid ystyried amgylchiadau’r ‘dychwelwyr’, gan nad oedd bywyd yn rhwydd o gwbwl iddynt. Er eu bod yn cael arian a ffafrau tra'u bod yn gweithio yn y chwarel, roeddent yn parháu i fyw yn y gymuned, a doedd hynny, yn bendant, ddim yn hawdd! Roedd yr Arglwydd Penrhyn ac E.A. Young yn cythruddo cymaint ar y streicwyr, nes bod eu rhwystredigaeth, o bosib, yn troi’n wylltineb corfforol yn erbyn y ‘bradwrs’. Cafwyd hanesion di-ri’ am dyrfaoedd enfawr yn gorymdeithio drwy Stryd Fawr Bethesda, ymosodiadau ar wragedd y dychwelwyr, plant yn ofni mynd i’r ysgol, yr heddlu’n gorfod hebrwng gweithwyr o’r orsaf drenau i’w cartrefi, a chriw o Rachub yn dwyn pastynau’r heddlu ac yn ymosod arnynt!
Ond parháu â’i driciau wnaeth Penrhyn, gan wobrwyo mwy ar y dychwelwyr, defnyddio ysbїwyr i gasglu gwybodaeth am fwriadau’r streicwyr, a defnyddio’r wasg i gyhoeddi llythyrau gan y dychwelwyr, - yn diolch iddo am ei haelioni tuag atynt! Ond gellir bod yn eitha’ pendant mai Penrhyn ei hun oedd yn ysgrifennu’r rhain! Does ryfedd bod y streicwyr yn gwylltio!
Ond roedd gan y dychwelwyr resymau pendant dros fynd i weithio, a chredent yn gryf yn yr hyn yr oeddent yn ei wneud! Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad; roedd y rhan fwyaf yn gorfod dychwelyd mae’n debyg, am wahanol resymau. Roeddent yn dioddef yn enbyd hefyd, ond wedi gwneud y penderfyniad, ac yn ceisio byw bywyd ‘normal’ mewn amgylchiadau dychrynllyd o anodd.
Diolch John, am ddarlith wych ac am agor y drysau i ymchwilio ymhellach i’r rhan bwysig yma o hanes ein cymuned.
Wynne Roberts
Ar y 4ydd o Fedi, 2023, daeth y newydd trist am farwolaeth yr hynafgwr hynaws a hanesydd bro, Wynne Roberts, Tregarth, yn 95 mlwydd oed.
Roedd yn gymeriad bywiog tu hwnt, a hyd yn ddiweddar iawn, gellid ei weld yn brasgamu ar hyd yr A5 yn foreol i brynu ei bapur dyddiol ym Methesda. Roedd ei gof am ddigwyddiadau a chymeriadau'r fro yn ddiarhebol ac yn fyw iawn. Daeth y diddordeb yma wrth iddo weithio, pan oedd yn hogyn ifanc, yn efail gof ei dad yn Llanllechid. Yno daeth ar draws llu o gymeriadau ffraeth a diddorol, hwythau gyda'u straeon ac adroddiadau am ddigwyddiadau'r cyfnod. Roedd yn barod iawn i rannu'r straeon hyn gyda chymdeithasau a phobl yr ardal dros y blynyddoedd - diolch am hynny. Yn ffodus parahodd ei gof yn fywiog hyd at y diwedd.
Os byddai'n cyfarfod rhywun dieithr, fel arfer, ei gwestiwn cyntaf fyddai, "Pwy oedd dy dad a'th fam dwad? Wedi derbyn yr enwau byddai'n olrhain achau'r dyn diethr, a byddai yntau'n gadael wedi cael gwers am ei deulu. Wrth ymweld â'i gartref sawl gwaith y clywais ef yn dweud, "Aros yn fanna i ti gael gweld y llun yma". Yna byddai'n mynd i fyny'r grisiau a dod yn ôl gyda llun o ddigwyddiad neu gymeriad lleol.
Roedd yn gybyddus â phob rhan o'r Carneddau ynghyd â'r amaethwyr i gyd, wrth iddo dreulio nosweithiau yn 'hel defaid'. Bu hefyd yn weithgar gyda Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen am flynyddoedd.
Fel y crybwyllwyd eisoes, roedd ganddo gof anhygoel, a hynny a barodd i'r Dr John Llywelyn Williams ddweud amdano, "mai ei gof oedd llyfrgell hanesyddol Wynne". Bu'n Llywydd Cymdeithas Ddiwylliannol Dyffryn Ogwen am flynyddoedd ac yn aelod o Glwb Hanes Rachub. Bydd bwlch mawr ym mywyd hanesyddol yr ardal wedi ei farwoleth, ond y rhai fydd yn teimlo'r bwlch fwyaf fydd y teulu. Anfonwn ein cofion at Paul, Yasmin a'r teulu oll.
Dilwyn Pritchard
Clwb ‘Y Dwylo Prysur’
Mae Clwb ‘Y Dwylo Prysur’ wedi ei gynnal yn Ysgoldy Capel Carmel ers 21 o flynyddoedd bellach! Llongyfarchwn Mrs. Helen Williams ar ei gweledigaeth, dyfalbarhád a’i gwaith caled dros y blynyddoedd wrth gyflwyno cymaint o weithgareddau i’r ieuenctid. Cyhoeddwyd llyfryn yn llawn ffotograffau o’r amrywiol weithgareddau hyn, a braf yw gweld bod cymaint ohonynt yn seiliedig ar hanes lleol ac adnabyddiaeth o’n bro.
Diwedd Cyfnod - Cymanfa Olaf
Daeth Cymanfa Ysgolion Sul Bangor a Bethesda i ben wedi cyfnod o 117 mlynedd! Byddai’r gymanfa yn cael ei chynnal yng Ngharmel, Rachub, a Chapel Pendref, Bangor bob yn ail flwyddyn. Yn sesiwn y p'nawn, arferai’r plant dderbyn gwobrau am ddysgu adnodau, salmau a storїau o’r Beibl, a chyda’r nos, roedd cymanfa i’r oedolion. Pwy sy’n cofio mynd i Fangor ar y bysys a oedd wedi’u trefnu’n arbennig? Pwy sy’n cofio enwau capeli fel Chwarel Goch a Nant y Benglog? Pwy sy’n cofio derbyn tystysgrif hardd ac amlen fechan frown yn cynnwys arian? Os oes gennych unrhyw atgofion o fynd i’r Gymanfa yn Rachub neu ym Mangor, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Llwyddiannau Eisteddfod Llanymddyfri
Gwydion Rhys - Cyfansoddwr o Fri!
Rydym, fel pentref, yn llongyfarch Gwydion Rhys, 'Bron Arfon', Rachub, ar ei lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Llwyddodd i gipio'r Fedal Gyfansoddi gyda’i waith 'Pum Pedwarawd'. Bu'n agos iawn i'r brig deirgwaith yn y gorffennol, felly mae ei ddyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed. Mae Gwydion yn gyn-ddisgybl o Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen, ac ar fin cwblhau ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ble mae'n astudio 'Cyfansoddi'. Dymuniadau gorau iddo yn y dyfodol.
Gwenno Beech
Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Gwenno o Lwyn Bedw, Rachub, ar ei buddigoliaeth yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol Bl. 7, 8 a 9. Mae Gwenno’n gyn-ddisgybl o Ysgol Llanllechid ac ar hyn o bryd yn mynychu Ysgol Dyffryn Ogwen. Am berfformiad gwych, Gwenno - gobeithiwn dy weld ar lwyfannau Cymru yn y dyfodol!
‘Edward Stephen - Tanymarian’ gan Mr. Trystan Lewis
Cyfarfod 17.05.23
Clwb Criced Bethesda
I gloi tymor 2022-2023 Clwb Hanes Rachub, croesawyd Mr Trystan Lewis, i roi sgwrs am y cerddor, emynydd, arweinydd cynulleidfaol a’r gweinidog Edward Stephen neu ‘Tanymarian’. Gan fod Trystan ei hun yn gerddor dawnus, yn unawdydd llwyddiannus, yn arweinydd corau a chymanfaoedd yng Nghymru a thu hwnt, mae ei wybodaeth, ei ddiddordeb a’i frwdfrydedd yn y maes yn fyrlymus o amlwg.
Cefndir cyffredin iawn gafodd Edward Stephen, yn wreiddiol o Faentwrog, yn brentis teiliwr, a ddechreuodd bregethu yn Llanffestiniog cyn mynd i astudio yng Ngholeg yr Annibynwyr y Bala. Tra bu yn y coleg, ymroddodd i ddysgu cerddoriaeth a chyfansoddodd amryw ddarnau. Ym 1852, cyfansoddodd yr oratorio gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef ‘Ystorm Tiberias’, ac yn dilyn hynny, nifer o ganeuon unigol. Ond yr hyn oedd yn hynod am Tanymarian oedd na chafodd brofiadau o weld cyngherddau ‘mawr’ gan feistri cerddorol y byd fel Handel a Beethoven, er ei fod wedi ei alw yn ‘Handel ei genedl’. Nid oedd, fel nifer o’i gyfoeswyr cerddorol, wedi bod yn Lerpwl a Manceinion yn gyson i weld perfformiadau o gampweithiau corawl clasurol, felly, yn wyrthiol, gallodd gyfansoddi heb dderbyn addysg gerddorol ffurfiol, na llawer o ddylanwadau o’r tu allan. Daeth yn weinidog i Garmel a Bethlehem, Talybont ym 1856, a hynny mewn cyfnod cyffrous iawn ym myd cerddoriaeth yng Nghymru,- cychwyn cymanfaoedd canu a’r tonic sol ffa – ac roedd cerddoriaeth o’r safon uchaf i’w glywed yn yr ardal, - yn arbennig yn y Gerlan a Charneddi. Cyhoeddodd Tanymarian lyfr tonau yn y cyfnod yma. Bu farw ym 1885, ac roedd y niferoedd oedd yn ei angladd yn Nhalybont yn dystiolaeth o garisma’r gŵr hynod hwn,- 4000 o alarwyr, nifer helaeth o weinidogion yn ogystal â chôr o 500!!
Diolch yn fawr, Trystan, am sgwrs arbennig iawn!
Diolchwyd i Trystan gan Mrs Helen Williams, a chafodd gyfle i ddangos ffon gerdded Tanymarian iddo. Mae traddodiad yng Nghapel Carmel fod pob gweinidog yn gofalu am y ffon yn ystod ei gyfnod gyda'r capel.
‘Iaith Pesda’ gan Mrs Mary Jones
Cyfarfod 26.04.23
Clwb Criced Bethesda
Roedd ystafell fawr y Clwb Criced yn orlawn ar nos Fercher olaf mis Ebrill, gan fod ‘na hen ddisgwyl wedi bod am sgwrs Mary Jones am ‘Iaith Pesda’. Mae’r golofn ‘Iaith Pesda’ yn Llais Ogwan wedi dod yn hynod boblogaidd erbyn hyn a nifer helaeth o’r ardalwyr yn ymhyfrydu mewn cofio, trafod a dehongli tarddiadau geiriau sy’n arbennig i’n hardal ni, ac i ardaloedd tebyg yn y rhan yma o ogledd Cymru. Mae’n amlwg iawn fod geiriau’n newid ac yn diflannu pan fydd cymdeithas yn newid, a hen greiriau ac arferion yn peidio â bod. Mae hyn yn wir am y chwarel wrth gwrs. Ychydig iawn sy’n defnyddio ‘swper chwarel’ erbyn hyn, a ‘caniad’, ‘caban,’ ‘bargen’ a’ blocyn tîn’! Byddai trigolion yr ardal yn arfer defnyddio sŵn y ffrwydradau fel cloc bron iawn, oherwydd roedd y ‘saethu’n digwydd yn rheolaidd. Clywyd pobol yn dweud pethau tebyg i ‘Mae’n rhaid i mi frysio.. maen nhw wedi saethu yn y chwaral… mae hi wedi un o’r gloch yn barod!” Mae’r term ‘colli limpyn’ yn gysylltiedig â’r chwarel hefyd sef colli’r ‘lynch-pin’ oedd yn cysylltu’r wagenni ar y ‘lein fach’, felly roedd popeth yn mynd yn wyllt ac ar chwâl.
Cafwyd trafodaethau am eiriau ac ymadroddion yn ymwneud â’r tywydd, tân a hyd yn oed ffraeo! Mae haul y gwanwyn, wrth gwrs, yn waeth na gwenwyn, ac mae’r hen ‘wynt diog’ ‘na yn mynd drwyddoch chi yn hytrach nag o’ch cwmpas! Dydi ‘eira ŵyn bach’ ddim yn debygol o barhau’n hir iawn, ac mae gweld eira ar gopaon y mynyddoedd cyn Ffair Llan yn erthylu’r gaeaf, felly gaeaf tyner fydd hi! Mae ‘ffenast bach y Nant’ a charreg sgleiniog yn ardal y Marchlyn Bach yn arwyddion tywydd arbennig iawn yn ôl y sôn. Crybwyllwyd ‘tân oer’, ‘tân siafins’, ‘tân eira’, tân yn picio’, mŵg taro a ’thorri glo mân yn gnapia’. Soniwyd am huddyg, lludw, dynion lludw a lori ludw, - pethau sydd wedi diflannu erbyn hyn. A beth am y dillad fyddai’n ‘deifio’ o’u gosod yn rhy agos at y tân – a’r ‘coesau corn bîff’ a gaech pan fyddech yn sefyll yn rhy agos at y fflamau? Tybed a gawsoch gelpan, twll clust, cefn llaw, chwip dîn, bonclust neu swadan iawn erioed? Mae cymaint o eiriau gennym am ymosodiadau corfforol! Mae rhannau’r corff yn eithaf amlwg mewn enwau strydoedd, tai a phentrefi, e.e. Braichmelyn, Braich Talog, Troed y Rhiw, Pen y Graig, ac un sy’n arbennig iawn i Rachub sef ‘Talcen y Deyrnas’ (Ffordd y Mynydd).
Diolch yn fawr iawn, Mary, am gyfarfod gwerth chweil!
‘Sgotwrs Lleol’ gan Mr. Bryn Evans
Cyfarfod 29.03.23
Clwb Criced Bethesda
Cafwyd cyfarfod tu hwnt o ddifyr yn y Clwb Hanes yn ddiweddar yng nghwmni Mr. Bryn Evans ‘Bron Arfon,’ oedd yn sôn am y traddodiad pysgota - neu ‘foirio’ yn yr ardal leol. Soniodd am y cyfoeth naturiol sydd gennym o’n hamgylch yma, - yn llynnoedd ac yn afonydd gwych oedd yn llawn pysgod ar un adeg! Ond wrth gwrs, fe hawliodd yr Arglwydd Penrhyn y dyfroedd er mwyn iddo ef a’i ffrindiau cyfoethog gael pysgota ynddynt. Yn naturiol, roedd rhai o’r trigolion lleol yn rhoi cynnig ar ‘botsio’, ond roedd dirwy o £9 yn eu hwynebu pe cawsant eu dal, yn ogystal â cholli eu gwaith yn y chwarel. Yna, crëwyd ‘Cymdeithas Genweirwyr Dyffryn Ogwen’ pan gafodd y trigolion lleol hawl gan Penrhyn i bysgota rhannau o ddyfroedd yr ardal. Cymdeithas oedd hon a oedd yn addysgu ei haelodau i ddefnyddio genwair, cawio plu a thaflu pluen yn gelfydd. Daeth Bryn â nifer o enweiriau a phlu i’w harddangos, a mawr oedd diddordeb yr aelodau ynddynt.
Yr hyn a oedd yn wych am y noson oedd fod darlith Bryn wedi ysgogi trafodaeth ddifyr ynglŷn â rheolau, cystadlaethau, meintiau a lliwiau pysgod, pontydd a phyllau’r ardal. Roedd yr atgofion yn llifo, a hynny mewn Cymraeg graenus a oedd yn orlawn o dermau gwych o’r byd pysgota. Roedd yn bleser cael gwrando ar y cyfan. Diolchwyd iddo ar ddiwedd y noson gan Mr. Einion Thomas, a gwerthfawrogwyd y cyfan gan y gynulleidfa. Diolch yn fawr iawn Bryn!
‘Lleoedd y Dylluan’ gan Mr. Dafydd Fôn Williams
Stad Coetmor 1485-1855
Cyfarfod 22.02.23
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Croesawyd ein siaradwr gwadd, Mr Dafydd Fôn Williams, gan Dr. John Llywelyn Williams, ac yn wir cafwyd darlith anhygoel a oedd yn amlwg yn ffrwyth ymchwil sylweddol iawn! Roedd ‘Lleoedd y Dylluan’ yn ddarlith a oedd yn canolbwyntio ar y sgwaryn o dir sydd rhwng Lôn Bach Odro a’r Lôn Bôst a rhwng Rachub a Phantdreiniog, sef hen ystad Coetmor. Roedd tiroedd ym Mangor, Llanfairfechan a Llanfairpwll, hefyd wedi bod yn rhan o’r stad 1500 acer ar un adeg.
Plasty Coetmor - J. T. Parry
Ceir cyfeiriad at Goetmor yn un o gywyddau Guto’r Glyn ym 1475, ac yn yr un cyfnod, roedd gŵr o’r enw Robert Fychan yn byw yn y plasdy hardd oedd yn bodoli ar safle presennol fferm Coetmor Uchaf. Roedd teulu Robert Fychan yn ddisgynyddion i Llywelyn ein Llyw Olaf, a brawd ei nain yn brif gadfridog i Owain Glyndŵr, sef Rhys Gethin! Felly mae’n amlwg fod cysylltiadau pwysig iawn gan deulu Stad Coetmor ar y pryd! Priododd Mary Coetmor i deulu Pughe o Hen Neuadd y Penrhyn, ardal Llandudno yn y ddeunawfed ganrif. Daeth y teulu hwn i’r amlwg gan mai hwy fu’n gyfrifol am argraffu’r llyfr Cymraeg cyntaf ym 1587 mewn argraffdy cudd yn Ogof Rhiwledyn ar y Gogarth Fach. Roedd y teulu’n cael eu herlid am fod yn Gatholigion, ac yn gorfod cuddio yn yr ogof am gryn amser!
Bu Plasdy Coetmor yn ganolfan fywiog a phwysig iawn am ganrifoedd, ond dan ofal James Coetmor Pughe, dyled ar ôl dyled oedd yn wynebu’r Stad, ac yn y diwedd fe’i llyncwyd gan Stad y Penrhyn. Yn ddiddorol iawn, gellir cysylltu llinach sawl person enwog â theulu Coetmor, gan gynnwys yr Arlywydd Roosevelt, y bardd T. S. Elliot a’r actor Benedict Cumberbatch! Mae hynt a helyntion y teulu anhygoel hwn yn rhy niferus i’w rhestru wrth gwrs, ond mawr obeithiwn y byddwn yn gweld y cyfan yn cael ei gyhoeddi rhwng dau glawr yn y dyfodol! Diolch yn fawr Dafydd!
Dr John Elwyn Hughes
Gyda thristwch mawr y derbyniwyd y newydd trist am farwolaeth John Elwyn Hughes.
Pan oeddem yn sôn am gychwyn dosbarth hanes yn Rachub/Llanllechid ei ymateb syth oedd; 'Ar bob cyfrif ewch amdani ac os gallaf fod o gymorth cysylltwch hefo mi.' Do, bu Elwyn Hughes yn 'gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder' i ni dros y blynyddoedd. Byddai ar y rhestr yn flynyddol i roi darlith neu rannu o'i stor o ddarluniau lleol gyda ni.
Dyn ei filltir sgwâr heb os oedd Elwyn Hughes a meddai ar wybodaeth helaeth am ardal Dyffryn Ogwen, ei digwyddiadau, amgylchiadau a chymeriadau lleol. Bu'n barod iawn i rannu ei wybodaeth gyda sawl cymdeithas o fewn y dyffryn a thu hwnt.
Diolch iddo am fod yn gefn i Glwb Hanes Rachub ar hyd y blynyddoedd.
Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu oll yn eu profrdigaeth lem.
Hyfforddiant Achub Bywyd
Cyfarfod 08.12.2022
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Gwybodaeth bwysig gan y Rhingyll Arwyn Jones
Cafwyd noson wahanol i’r arfer ar nos Iau yr 8fed o Ragfyr yn Festri Capel Carmel, Rachub. Nid sgwrs am hanesion lleol a gafwyd, ond hyfforddiant gan y Rhingyll Arwyn Jones ar sut i ddefnyddio’r peiriannau ‘diffib’ (neu beiriannau ‘cicio’r galon’ yn ôl rhai).
Erbyn hyn, gwelir llawer o’r peiriannau hyn ledled y wlad, a cheir rhai ohonynt ym Mhlas Ffrancon, ciosg ffôn Rachub, y Clwb Criced, a Stryd Bethesda, ac mae’n wir dweud eu bod yn gallu achub bywydau o’u defnyddio’n iawn. Mae Arwyn Jones wedi bod yn gweithio fel nyrs a swyddog ambiwlans cyn ymuno â’r heddlu, ac mae’n parháu i weithio’n wirfoddol fel ‘Ymatebydd brys,’ felly roedd yn gallu rhoi gwybodaeth yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad. Cafodd yr aelodau roi cynnig ar roi CPR i’r cleifion ffug, a dysgu’r ffordd gywir o wneud hynny, yn ogystal ag astudio’r peiriannau eu hunain.
Roedd y sesiwn yn hynod ddifyr ac yn werthfawr iawn i’r gymuned.
Diolch yn fawr Arwyn!
Dylanwadau’r Ardal ar Artist Lleol: Anna Pritchard
Cyfarfod 30.11.2022
Clwb Criced a Bowlio Bethesda
Croesawyd yr artist a’r dylunydd tecstiliau Anna Pritchard i’r Clwb Criced ar noson olaf mis Tachwedd, i sôn wrthym am ei gwaith a’r dylanwadau diddorol arni fel person creadigol.
Cafodd Anna ei magu ar fferm Glasinfryn, ac erbyn hyn mae’n byw gyda’i theulu yn Waun Wen, Glasinfryn. Yn wir, ei chefndir amaethyddol a thraddodiadau cefn gwlad Dyffryn Ogwen sydd wedi dylanwadu fwyaf arni fel artist. Mae ei theulu’n gysylltiedig â’r ardal ers canrifoedd, ac wedi ffermio mewn nifer helaeth o ffermydd lleol, e.e. Blaen y Nant, Dinas, Bronydd, a Choetmor.
Ffermdy Coetmor Isaf -
Ken yw’r hogyn bach.
Dangosodd luniau hyfryd o’i hen deulu yn y mannau hyn a soniodd am eu hen arferion e.e. gwerthu llysiau ar ‘stondinau’ tu allan i’r ffermdai, a defnyddio cart a cheffyl i fynd o gwmpas y lle i gasglu dail, gan eu hailgylchu ymhell cyn i ailgylchu ddod yn ffasiynol!
Irene (nain Anna), Ken ac Annie (hen nain Anna) a Norma Llan (y ferch ifanc).
Mae’r nodweddion amaethyddol, Cymreig, lleol yn hollol amlwg yn ei gwaith gwehyddu. Yr elfen amlycaf yw clustnodau ffermydd y Dyffryn, a gwelwyd hen lyfryn yn ei meddiant o holl glustnodau defaid yr ardal. Ymhlith y rhain roedd nôd clust fferm Llwyn Bedw - fferm sydd erbyn hyn â’i holion o dan stâd newydd o dai dros y ffordd i Faes Bleddyn! Yn ei gwaith, hefyd, gwelir y pileri llechi sy’n nodweddiadol o’r tirlun, yn ogystal â ffyn bugeiliaid, cyrn, gweill a blodau gwyllt cynhenid.
Dangosodd y gynulleidfa ddiddordeb mawr yn y carthenni gwlân lliwgar, a chafwyd trafodaeth hwyliog ar ddiwedd y cyflwyniad.
Diolch yn fawr iawn i ti Anna!
Anna gyda samplau o’i gwaith gwych!